SwperBox yw addunedwr diweddara cynllun Pys Plîs yn y DU

SwperBox CIC – gwasanaeth tanysgrifio ryseitiau cyntaf Cymru – yw’r cwmni diweddaraf i ymrwymo i ddod yn addunedwr Pys Plîs yn y Deyrnas Unedig.

Mae Pys Plîs yn fenter ledled y DU sydd â chenhadaeth glir iawn: ei gwneud hi’n haws i bawb i fwyta mwy o lysiau. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn arwain ar waith Pys Plîs yng Nghymru ac mae’n ymgysylltu â phobl ar draws y system fwyd er mwyn helpu i weithredu newid mewn diet ac i fynd i’r afael â’r diffyg twf o ran y llysiau rydym yn ey bwyta.

Gan ganolbwyntio’n benodol ar lysiau, mae Pys Plîs yn dod â ffermwyr, cyflenwyr, manwerthwyr, cadwyni bwytai, arlwywyr, proseswyr ac adrannau’r llywodraeth ynghyd gyda’r nod cyffredin o’i gwneud hi’n haws i bawb fwyta llysiau. Mae’r busnesau a’r sefydliadau hynny wedyn yn gwneud adduned i chwarae’u rhan er mwyn helpu pawb ym Mhrydain i fwyta cyfran ychwanegol o lysiau’r dydd, ac mae Synnwyr Bwyd Cymru yn falch iawn o groesawu SwperBox i’r cynllun wrth i’r cwmni ddod yn addunedwr diweddaraf Pys Plîs – yng Nghymru a’r DU.

Mae SwperBox yn gwmni sydd wedi’i wreiddio yn Sir Gaerfyrddin ac yn darparu gwasanaeth tanysgrifio bocsys ryseitiau – y cyntaf yn y DU i weithredu fel cwmni er budd cymunedol (CIC).

Wedi’i sefydlu gan ddau gogydd o Gymru a gollodd eu swyddi yn ystod y cyfnod cloi cyntaf flwyddyn yn ôl, mae SwperBox yn fenter gymdeithasol arloesol sydd â strategaeth glir ac uchelgeisiol i greu swyddi cynaliadwy a chefnogi adfywiaeth yng nghymunedau Cymreig lleol.

“Pan darodd Covid, roedden ni’n gwybod bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth i greu swyddi ond doedden ni ddim yn gwybod beth,” meddai Alex Cook, cyd-sylfaenydd SwperBox. “Yna fe wnaethon ni ddarganfod – fel y gwnaeth llawer o bobl bryd hynny – bod nifer fawr o bobl yn archebu bocsys ryseitiau ac yn cael nhw wedi’u danfon i’w cartrefi – ac i fod yn hollol onest, roedden ni’n meddwl y gallen ni wneud yn well. Defnyddio gwell cynhwysion, gwell ryseitiau a chreu bwyd oedd yn fwy blasus – tra ar yr un pryd, cefnogi ein heconomi leol, ffermio cynaliadwy ac adfywiaeth cymunedol.

“Mae heriau mawr o’n blaenau ni gyd,” meddai Alex Cook. “Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn ein cymunedau sydd angen swyddi cynaliadwy, hyfforddiant ac addysg bwyd; ni’n ymwybodol bod pobl yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar fwyd ffres, maethlon ac iach; rydyn ni hefyd yn gwybod ein bod ni eisiau cefnogi pysgota, ffermio ac amaethyddiaeth gynaliadwy yng Nghymru a gwyddwn fod angen i ni ailadeiladu ein cenedl ar gyfer Cymru iachach, cyfoethocach a mwy gwyrdd. Dyna’r rheswm dros greu SwperBox.”

Mae adduned SwperBox ar gyfer y cynllun Pys Plîs yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob bocs rysáit sy’n cael ei ddosbarthu gan y cwmni yn cynnwys lleiafswm o 160g o lysiau ffres y pen, sef 2 o’r 5 dogn a argymhellir bob dydd. Bydd llawer o’i ryseitiau’n cynnwys mwy.

Mae SwperBox hefyd wedi gwneud adduned i gynnal gweithdai am ddim o fewn y gymuned leol, ar-lein ac wyneb yn wyneb, i roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i’w helpu i fwyta mwy o lysiau. Mae’r cwmni’n gweithio i ddatblygu bocsys ryseitiau addysgiadol a fydd yn cael eu dosbarthu ar draws chwe banc bwyd yn Sir Gaerfyrddin hefyd.

“Nod SwperBox yw gwella arferion bwyta’n iach trwy ddosbarthu bocsys ryseitiau sy’n cynnwys lleiafswm o 2 o’n 5 y dydd,” meddai Alex Cook. “Trwy gynnal gweithdai cymunedol am ddim a datblygu citiau ryseitiau i rymuso pobl a darparu’r sgiliau coginio sydd eu hangen arnyn nhw – tra ar yr un pryd, helpu i gynyddu gwybodaeth faethol pobl – rydyn ni’n gobeithio annog pobl i fwyta mwy o lysiau. Rydym hefyd yn gweithio i ddylanwadu cyrff sector cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin i wella eu hopsiynau prydau bwyd i gynnwys mwy o lysiau hefyd.”

Yn ogystal â dod yn addunedwr Pys Plîs, mae Alex hefyd wedi cofrestru i fod yn Hyrwyddwr Llysiau Pys Plîs, gan helpu i yrru’r newidiadau enfawr sydd eu hangen i gael pawb i fwyta mwy o lysiau. Trwy’r rhaglen Hyrwyddwyr Llysiau, mae Pys Plîs yn ymgysylltu â phrofiadau personol pobl o’r system fwyd yn ei chyfanrwydd, gan fwydo’n ôl ar yr hyn sydd wedi’i wneud hyd yma a chynghori ar y camau nesaf er mwyn annog y genedl i fwyta mwy o lysiau.

Mae Alex hefyd yn cynghori Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin wrth iddynt edrych ar ffyrdd o ddatblygu trefniadau caffael bwyd y sector cyhoeddus o fewn y sir. Wedi’i ariannu gan Gronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, nod y prosiect caffael hwn, sy’n digwydd ledled y sir, yw herio’r ffordd y mae’r sector cyhoeddus yn caffael cyflenwadau bwyd tra hefyd yn ystyried y gadwyn gyflenwi bwyd leol a chyfleoedd datblygu ar gyfer y dyfodol.

 

“Drwy weithio ar y cyd gyda’r awdurdod lleol, mae SwperBox ar hyn o bryd yn helpu i nodi a chyflawni cyfleoedd i gynyddu defnydd llysiau trwy’r plât cyhoeddus,” ychwanega Alex. “Rydyn ni’n ymgysylltu â rhanddeiliaid o ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal i’w haddysgu ar bwysigrwydd bwyta mwy o lysiau.”

Mae Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwwyr Bwyd Cymru yn falch iawn o groesawu Alex a SwperBox i’r rhaglen Pys Plîs.

“Rydym yn falch iawn bod SwperBox wedi penderfynu ymuno â’r rhaglen Pys Plîs. Mae Pys Plîs yn dangos, os yw pob unigolyn ac asiant ar draws y Sector Bwyd yn cydweithio, y gallwn newid arferion pobl, drwy’r holl system fwyd, a chael effaith gadarnhaol ar iechyd pobl.

“Mae ein deietau’n arwain at lefelau uchel o ordewdra, diabetes math 2 a chlefydau eraill sy’n gysylltiedig â deiet – ac mae angen i ni i gyd fwyta mwy o lysiau,” meddai Katie.  “Mae Pys Plîs yn edrych ar yr ysgogiadau ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan sydd â’r potensial i gynyddu’r llysiau a fwyteir mewn modd cynaliadwy.  Er mwyn cefnogi defnyddwyr i wneud dewisiadau iachach, rydym yn cydnabod bod angen i ni weld newidiadau ar draws ein system fwyd.

“Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda SwperBox fel addunedwr, a gydag Alex yn ei rôl fel Hyrwyddwyr Llysiau yng Nghymru – er mwyn hyrwyddo gwaith Pys Plîs ac i ysgogli newid,” ychwanega Katie.  “Drwy recriwtio mwy o addunedwyr yng Nghymru a gan adeiladu ar gysylltiadau sydd eisoes wedi’u sefydlu, gall Synnwyr Bwyd Cymru ddod â budd, nid yn unig i iechyd pobl ond i’r amgylchedd hefyd.”

Wedi’i sefydlu ar ddechrau’r clo mawr cyntaf ym Mawrth 2020, mae SwperBox CIC eisoes wedi cyrraedd rhestr fer Gwob

rau Cychwyn Cymru ar gyfer Menter Gymdeithasol y Flwyddyn. Mae’r cwmni bellach yn dosbarthu bocsys ryseitiau ar draws De Orllewin Cymru ac yn edrych ymlaen at dyfu a datblygu ymhellach tra hefyd yn helpu i gynyddu’r defnydd o lysiau ymysg ei gwsmeriaid ac ymysg y rhai sy’n elwa o’i raglenni addysg.

Ychwanega Alex: “Trwy holl waith SwperBox – o’r bocsys ryseitiaiu; ein rhaglenni addysg a’n gwaith gyda’r awdurdod lleol – ry’n ni’n credu bod dod yn addunedwr Pys Plîs, yn ogystal â chofrestru i fod yn Hyrwyddwr Llysiau, yn helpu ategu pwysigrwydd cynyddu’r defnydd o lysiau gyda’r cyhoedd a gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o ran y plât cyhoeddus.”

DIWEDD