Sustain yn derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol i helpu i sicrhau bod deiet sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd ar gael i bawb

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y cyllidwr gweithgarwch cymunedol mwyaf yn y DU, wedi dyfarnu grant tair blynedd cychwynnol o tuag £1.5 miliwn i Sustain a phartneriaid o bob rhan o’r DU i ymchwilio i sut y gall bwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur fod yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb, o dan y rhaglen Pontio’r Bwlch newydd.

Bydd Sustain, Growing Communities ac Elusen Alexandra Rose (ARC), yn gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru, Nourish Scotland a Nourish Northern Ireland i ddod â sefydliadau lleol a mentrau masnachu ynghyd. Gyda’i gilydd, byddant yn cynnal cynlluniau peilot ym mhob un o wledydd y DU i oresgyn rhwystrau’n ymwneud â phrisio a rhwystrau eraill, gan sicrhau bod bwydydd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur ar gael i bobl ar incwm is.

“Rydym am sicrhau ein bod yn pontio o gymorth bwyd i fasnach bwyd er mwyn darparu bwyd iach, fforddiadwy sy’n gyfeillgar i’r blaned i bawb,” meddai Kath Dalmeny, Prif Weithredwr yr elusen bwyd a ffermio genedlaethol Sustain.

“Ar hyn o bryd mae bwyd sy’n dda i bobl ac i’r blaned, sydd o fudd i gymunedau ac sy’n cefnogi bywoliaeth dda, yn ddrytach na bwyd sy’n wael i iechyd ac wedi’i gynhyrchu mewn ffyrdd sy’n niweidio’r blaned. Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i’r afael â’r argyfyngau costau byw, yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol yn uniongyrchol, mae angen i ni wneud deiet iach, sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd yn norm a sicrhau ei fod ar gael i bawb.“

Bydd y rhaglen Pontio’r Bwlch yn dysgu oddi wrth fentrau lleol bach ac yn adeiladu arnynt gydag atebion addawol, megis y Good Food Box sy’n cael ei redeg gan Granville Community Kitchen yng Ngogledd-orllewin Llundain. Mae’r fenter hon yn defnyddio graddfa brisiau symudol i helpu’r rhai ar incwm isel. Ceir enghraifft arall yn Preston, lle mae gan The Larder gynlluniau i ddarparu bwyd organig a gynhyrchwyd yn lleol i deuluoedd ar incwm isel drwy dalebau a phecynnau ryseitiau. Nod Pontio’r Bwlch yw cywain tystiolaeth ac adeiladu momentwm ar gyfer y syniadau hyn, fel y gall cyllidwyr a llunwyr polisïau gefnogi modelau credadwy, a sicrhau bod y modelau gorau yn dod yn fodelau prif ffrwd.

“Mae rhaglenni blaenorol wedi tueddu i ganolbwyntio ar ddarparu bwyd i bobl ar incwm isel neu ddatblygu’r gadwyn gyflenwi sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur. Gyda’r rhaglen arloesol hon, mae gennym gyfle i brofi ac archwilio modelau darparu bwyd sy’n gwneud y ddau ar yr un pryd. Bydd yn waith heriol y mae mawr ei angen ac rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ei gefnogi,” meddai Julie Brown, Cyfarwyddwr Growing Communities.

Mae’r rhaglen i’w chroesawu, yn arbennig mewn cyfnod ble rydym wedi gweld dros 300 o ardaloedd yn datgan argyfwng hinsawdd a natur, ynghyd â chynnydd dramatig yn y defnydd o fanciau bwyd, gydag Ymddiriedolaeth Trussell yn unig yn cofnodi cynnydd o 31% yn y galw dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae’r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau ychwanegol ar aelwydydd incwm isel, sydd, yn ôl y Sefydliad Bwyd, yn aml yn gorfod gwario 40% o’u hincwm ar fwyd os ydynt am fodloni argymhellion bwyta’n iach. Mae hyn o’i gymharu â dim ond 7% o incwm gwario ar gyfer y pumed cyfoethocaf o’r boblogaeth. Yn ogystal â gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, mae hyn hefyd yn golygu bod llawer o fwydydd sy’n cael eu cynhyrchu mewn ffyrdd y mae angen i ni eu hannog, fel tyfu ffrwythau a llysiau mewn ffordd gynaliadwy, allan o gyrraedd y rhai ar incwm isel.

“Yn Elusen Alexandra Rose, rydym wedi arloesi drwy gyflwyno cymhellion ariannol i frwydro yn erbyn diffyg diogeledd bwyd a gwella deiet i deuluoedd ar incwm isel ledled y DU. Mae ein gwaith ar y Prosiect Talebau Rose ar gyfer Ffrwythau a Llysiau wedi dangos ei bod yn bosibl ysgogi gwell mynediad at fwyd iach. Rydym yn teimlo’n gyffrous ynglŷn â photensial y rhaglen Pontio’r Bwlch i brofi y gellir ymestyn hyn i gynnwys mynediad nid yn unig at fwyd iach, ond hefyd at fwyd cynaliadwy sydd o les i bobl yn ogystal ag i’r blaned,” meddai Jonathan Pauling, Prif Weithredwr ARC.

Dywedodd Faiza Khan, Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Mewnwelediad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, “Rydym yn falch o fod yn cefnogi Pontio’r Bwlch i sicrhau bod bwyd ecogyfeillgar yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bob cymuned. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd elusennau a grwpiau lleol ledled y DU yn cael eu dwyn ynghyd i helpu i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn, gan wella bywydau pobl a’u galluogi i ffynnu.”

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU.

Bydd gweithio gyda’r cadwyni cyflenwi bwyd presennol neu fasnachwyr bwyd cymunedol a chreu atebion hirdymor hyfyw a chynaliadwy sy’n symud i ffwrdd o gymorth bwyd brys yn allweddol i lwyddiant y rhaglen Pontio’r Bwlch. Bydd y rhaglen yn atal problemau megis incwm isel i weithwyr bwyd, a gwastraff bwyd a achosir gan orgynhyrchu ar gyfer cyflenwad archfarchnadoedd cyfaint uchel rhag bwrw gwreiddiau. Mae’r tîm yn croesawu cyfranogiad sefydliadau eraill sy’n mynd i’r afael â’r materion hyn a bydd yn recriwtio cynghorwyr i grŵp cydweithio.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer newyddion a diweddariadau ewch i www.sustainweb.org/bridge-the-gap neu e-bost bontiothegap@sustainweb.org.

Mae Sustain yn recriwtio Cydlynydd Rhaglen Pontio’r Bwlch (y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Gorffennaf) a bydd yn chwilio am banel o gynghorwyr cyflogedig dros yr haf.

DIWEDD