Pys Plîs yn cyhoeddi adroddiad Hyrwyddwyr Llysiau

Heddiw (ddydd Mercher, Gorffennaf 5ed 2023), cyhoeddodd Pys Plîs ei adroddiad diweddaraf yn dangos peth o’r gwaith gwych y mae Hyrwyddwyr Llysiau ledled y DU wedi bod yn ei wneud i ddylanwadu ar arferion busnes ac i helpu i hyrwyddo llysiau yn eu cymunedau lleol. Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar sut y mae rhwydwaith o weithredwyr bwyd wedi ffurfio ac yn ystyried beth sydd angen digwydd er mwyn ei gwneud hi’n haws i bawb fwyta mwy o lysiau a beth rydym wedi’i ddysgu am sut i gynnwys dinasyddion mewn ffordd ystyrlon.

Lansiwyd y rhaglen Hyrwyddwyr Llysiau ym mis Mawrth 2020. Ei nod oedd cynnwys dinasyddion fel rhan o waith ehangach Pys Plîs, yn seiliedig ar y wybodaeth y gallwn ddeall yn well
y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu o ran cael gafael ar lysiau drwy ymwneud â phobl ar lawr gwlad, gwrando ar bobl, a gweithio gyda nhw i ddod o hyd i atebion. Gan ymgysylltu â 180 o wirfoddolwyr o bob rhan o’r DU i ddechrau, roeddem yn anelu at ddeall yr hyn yr oedd dinasyddion yn ei gredu yr oedd ei angen i’w gwneud yn haws i bobl fwyta mwy o lysiau.

Pan ddechreuodd y fenter Pys Plîs, roedd ganddi genhadaeth glir: ei gwneud yn haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau.  Synnwyr Bwyd Cymru yw partner cenedlaethol Pys Plîs yng Nghymru.

Cynnwys Dinasyddion Mewn Gweithredu Dros Fwyd: Yr hyn a ddysgwyd o brosiect Hyrwyddwyr Llysiau Pys PlîsDarllenwch yr adroddiad llawn yma.