Pys Plîs
Mae Pys Plîs yn fenter ar draws y DU sydd â chenhadaeth glir iawn: ei gwneud hi’n haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Synnwyr Bwyd Cymru sy’n arwain ar waith Pys Plîs yng Nghymru ac mae’n ymgysylltu â chyfranogwyr ac asiantau ar draws y system fwyd i helpu i achosi newid mewn diet ac i fynd i’r afael â’r arafu yn niferoedd y llysiau a fwytawn. Partneriaid eraill y prosiect ar draws y DU sy’n ymwneud â’r fenter hon yw The Food Foundation, Nourish Scotland, Food NI a Belfast Food Network.
Nod y rhaglen arloesol hon sy’n canolbwyntio’n benodol ar lysiau, yw sicrhau ymrwymiadau gan ddiwydiant a’r llywodraeth i wella argaeledd, derbynioldeb (gan gynnwys cyfleustra), fforddiadwyedd ac ansawdd y cynnig llysiau mewn siopau, ysgolion, bwytai a thu hwnt, ac yn ei thro, ysgogi mwy o gymeriant o lysiau ymhlith cyhoedd y DU, yn enwedig plant a’r rhai ar incwm isel.
Gan ganolbwyntio’n benodol ar lysiau, mae Pys Plîs yn dod â ffermwyr, cyflenwyr, manwerthwyr, cadwyni bwytai, arlwywyr, proseswyr ac adrannau’r llywodraeth ynghyd gyda’r nod cyffredin o’i gwneud hi’n haws i bawb fwyta llysiau.
Mae Pys Plîs yn gwella’r ysgogiadau ar hyd y gadwyn gyflenwi sydd â’r potensial i gynyddu’r defnydd o lysiau mewn modd cynaliadwy ac mae’n cydnabod nad yw rhaglenni addysg, hyd yma, wedi cael yr effaith a ddymunwyd. Felly mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar y cyfoeth o gyfleoedd sydd yn y gadwyn gyflenwi i wella cymeriant llysiau.
Ers i’r proiect lansio pedair blynedd yn ôl, mae Pys Plîs wedi helpu gweini neu werthu 162 miliwn o ddognau ychwanegol cronnus o lysiau. Mae dros 100 o sefydliadau hefyd eisoes wedi gwneud adduned i chwarae eu rhan i helpu pawb ym Mhrydain i fwyta dogn ychwanegol o lysiau bob dydd. Gelwir yr addunedau hyn yn Addunedau Llysiau. Yng Nghymru, rydym ar hyn o bryd yn rheoli 8 o addunedwyr cenedlaethol, 24 adduned leol trwy Fwyd Caerdydd a’r 25 o addunedwyr Dinas llysiau mewn partneriaeth â Sustain/Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Un enghraifft yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n parhau i arloesi gyda’i safonau manwerthu a bwytai iach a’i fwyty blaenllaw Y Gegin yn ogystal â stondin llysiau yn yr ysbyty.
Mae Pys Plîs hefyd wedi recriwtio 25 o bobl o bob rhan o Gymru i fod yn Hyrwyddwyr Llysiau, gan weithio fel asiantau newid unigol yn eu cymunedau lleol ac i helpu i yrru’r newidiadau enfawr sydd eu hangen yn ein hymgais i gael pawb i fwyta mwy o lysiau.
Ac mewn ymgais i gynyddu cynhyrchiant lleol, fe dyfarnodd Synnwyr Bwyd Cymru ynghyd â’n partneriaid Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, bum grant Pys Plîs rhwng £2500 a £5000 yn ddiweddar er mwyn cynorthwyo busnesau garddwriaethol bwytadwy llai sy’n gweithredu yng Nghymru.
Lawrlwythwch Adroddiad Cynnydd Pys Plîs 2021
Lawrlwythwch Adroddiad Bwydo Ein Dyfodol 2021: Ymchwiliad Bwyd Ysgol
Lawrlwythwch Adroddiad Cyflwr y Genedl Cymru 2021: Bwyd Ysgol
Lawrlwythwch Adroddiad Ffeithiau am Lysiau 2021
Lawrlwythwch Adroddiad Llysiau Covid
Lawrlwythwch Adroddiad Cynnydd Pys Plîs 2020
Lawrlwythwch Adroddiad Cynnydd Pys Plîs 2019