Adroddiad Newydd yn dangos bod diffyg llysiau yn ein deiet yn gysylltiedig â 18,000 o farwolaethau cynamserol y flwyddyn yn y DU

Mae’r fenter Pys Plîs, sy’n gweithio i wneud llysiau’n fwy deniadol, hygyrch a fforddiadwy wedi rhyddhau ei hadroddiad FFEITHIAU LLYSIAU 2021 heddiw. Mae Pys Plîs yn bartneriaeth rhwng y Food Foundation, Synnwyr Bwyd Cymru, Nourish Scotland, Belfast Food Network a Food NI. Ers i’r prosiect gael ei lansio bedair blynedd yn ôl, mae wedi sicrhau 162 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau yn ein system fwyd gan weithio ar draws y pedair gwlad.

Darllenwch yr adroddiad yma