Cymru yn cyrraedd y brig yng Ngwobrau Pys Plîs 2021

Heddiw, cafodd Cymru lwyddiant yn ail Seremoni Wobrwyo flynyddol Pys Plîs lle y cyhoeddwyd enwau’r enillwyr a’r ail orau ar gyfer y cynnydd a wnaed yn 2019/2020.  Gyda chyfanswm o bum enwebiad, aeth Addunedwyr Pys Plîs o Gymru ymlaen i ennill dwy wobr o blith y saith categori – gyda Chaerdydd dod i’r brig yn y Wobr Dinas Llysiau a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ennill y Wobr Cynyddu Llysiau.

Menter arloesol ledled y DU yw Pys Plîs sy’n canolbwyntio’n benodol ar lysiau ac mae’n bartneriaeth sy’n cynnwys The Food Foundation, Synnwyr Bwyd Cymru, Nourish Scotland, Belfast Food Network a Food NI. Ers i’r prosiect gael ei lansio bedair blynedd yn ôl mae wedi darparu 162 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau i’n system fwyd gan weithio ar draws pob un o’r pedair gwlad.

Gyda nifer y llysiau sy’n cael eu bwyta yn lleihau, nod Pys Plîs yw dod â chynhyrchwyr, manwerthwyr, bwytai, arlwywyr, cyfanwerthwyr, proseswyr ac adrannau’r llywodraeth ynghyd gyda’r nod cyffredin o’i gwneud yn haws i bawb fwyta llysiau.  Ledled y DU, mae dros 100 o Sefydliadau eisoes wedi addo chwarae eu rhan i helpu pawb yn y DU i fwyta dogn ychwanegol o lysiau y dydd fel rhan o ‘Addunedau Llysiau’ Pys Plîs.

Arweiniwyd y seremoni gan Hugh Fearnley Whittingstall ac fe’i recordiwyd yn arbennig yn River Cottage, a heddiw cyhoeddodd enwau’r cwmnïau, y sefydliadau a’r unigolion sy’n arwain y ffordd o ran trawsnewid eu busnesau a’u sefydliadau er mwyn cynyddu’r llysiau sy’n cael eu bwyta.

Mae’r Wobr Dinas Llysiau, a enillwyd gan Gaerdydd, yn cydnabod dulliau effeithiol ac integredig yn seiliedig ar le o gynyddu nifer y llysiau sy’n cael eu bwyta ar lefel leol ar gyfer dinasoedd sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch Dinasoedd Llysiau tra bod y Wobr Cynyddu Llysiau, a enillwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn dathlu’r cynnydd canrannol mwyaf yn y dognau llysiau a werthwyd neu a gafodd eu gweini gan ein haddunedwyr yn ystod cylchoedd adrodd 2019/20.

“Rwy’n falch iawn bod Caerdydd wedi ennill y Wobr Dinasoedd Llysiau heddiw – cyflawniad gwych arall i’r ddinas a gwobr arall sy’n cydnabod y gwaith anhygoel sy’n digwydd ledled Caerdydd,” meddai Pearl Costello, Cydlynydd Sustainable Food Places yng Nghaerdydd.

“Fe wnaeth Bwyd Caerdydd gyd-greu yr ymgyrch Dinasoedd Llysiau gyda Sustainable Food Places fel rhan o’r fenter Pys Plîs ehangach ac mae bellach yn un o brif ymgyrchoedd Sustainable Food Places gyda 25 o leoedd ledled y DU yn cymryd camau i gynyddu’r llysiau sy’n cael eu bwyta,” ychwanega Pearl.  “Datganwyd bod Caerdydd yn Ddinas Llysiau yn 2017, gan ddarparu strwythur ymbarél ar gyfer llawer o’r gwaith anhygoel yn ymwneud â bwyd sy’n cael ei ddatblygu yn y ddinas ac fel rhan o ymgyrch Dinasoedd Llysiau Bwyd Caerdydd mae gennym bellach 26 o addunedwyr, 39 wedi’u cofrestru ar y platfform a chyfanswm o 46 o addunedau – ac amcangyfrifir y bydd 123,000 o ddognau ychwanegol o lysiau yn cael eu gweini bob blwyddyn yng Nghaerdydd os cyflawnir yr holl addunedau hynny.

“Mae bwytai wedi bod yn gweithio ar y cyd, er enghraifft ar leihau gwastraff llysiau ac mae Marchnadoedd Ffermwyr wedi bod yn ehangu eu cynnig llysiau a’u lleoliadau marchnad. O 2019 ymlaen, roedd plant yn ysgolion Caerdydd hefyd yn cael cyfran ychwanegol o lysiau gyda’u cinio heb unrhyw gost ychwanegol, ”meddai Pearl.  “Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni – yn enwedig gan fod y wobr hon yn dilyn ymlaen o Gaerdydd yn ennill statws Arian Sustainable Food Places yn ddiweddar, gan gydnabod gwaith arloesol y ddinas o ran hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd yn dathlu buddugoliaeth heddiw ar ôl cyrraedd y rhestr fer yn y categori Arloesi yn seremoni wobrwyo’r llynedd.

Mae’r Wobr Cynyddu Llysiau yn cydnabod y ffaith bod  Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cynyddu’r llysiau yr oeddent yn eu gweini o flwyddyn i flwyddyn – cynnydd syfrdanol o 701.7% mewn dim ond un o’i safleoedd.

“Mae’n bleser gennyf weld Caerdydd a’n Bwrdd Iechyd yn cael eu cydnabod am y gwaith gwych a wnaed i sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar ddewisiadau iach,” dywed Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.  “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ymrwymedig i wella iechyd a lles ei staff a’r boblogaeth leol, gan ganolbwyntio’n benodol ar amgylchedd bwyd iachach. Rwyf mor falch o’r hyn y mae ein timau wedi’i gyflawni, a’r ffaith mai ni yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’n ffurfiol y Safonau Bwyta’n Iach ar gyfer Tai Bwyta Ysbytai a Safleoedd Manwerthu, sy’n canolbwyntio ar wneud y dewis iach yn ddewis hawdd.”

Dywed Helen Griffith, cadeirydd Grŵp Llywio Safonau Bwyta’n Iach ar gyfer Tai Bwyta Ysbytai a Safleoedd Manwerthu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae’n wych clywed bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael ei gydnabod am Wobr Pys Plîs. Gwnaed cryn dipyn o waith i gynyddu faint o lysiau y mae’r bobl hynny sy’n prynu bwyd ar draws safleoedd Caerdydd a’r Fro yn eu bwyta. Fel rhan o’r Safonau Bwyta’n Iach a’r Addewid Pys Plîs, y nod yw gosod y safonau uchaf posibl, gan gynnwys mwy o lysiau mewn prydau poeth, yn ogystal ag yn y cynnyrch a wneir yn ffres sydd ar gael i’w brynu ar safleoedd bwyd y Bwrdd Iechyd.  Dylai pawb sy’n rhan o’r fenter fod yn falch iawn o’r gwaith hyd yma.”

Cyrhaeddodd addunedwyr o Gymru y rhestr fer mewn pum categori i gyd, gan gynnwys Castell Howell a oedd ar y rhestr fer yng Nghategori Arloesi Pys Plîs a Lantra a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ar y rhestr fer yng Nghategori Cymdeithas Dda Pys Plîs.

Synnwyr Bwyd Cymru  – sefydliad sy’n gweithio i ddylanwadu ar sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru – sy’n arwain gwaith Pys Plîs yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae’n rheoli 8 o addunedwyr cenedlaethol, 24 o addunedwyr lleol drwy Bwyd Caerdydd a 25 o addunedwyr Dinas Llysiau mewn partneriaeth â Sustain/Sustainable Food Places.

Mae’r Gwobrau Pys Plîs yn dilyn ymlaen o Uwchgynhadledd Llysiau Pys Plîs  a gynhaliwyd ar 18 Mehefin  – diwrnod o drafodaethau, gyda’r sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar bolisi garddwriaeth a buddsoddi mewn garddwriaeth, a’r ail yn trafod yr amgylchedd bwyd.  Mae Synnwyr Bwyd Cymru hefyd wedi curadu Ffres! yn ddiweddar – Gŵyl Lysiau gyntaf Cymru a oedd yn amlygu ac yn arddangos y gwaith anhygoel sy’n digwydd ar draws gerddi, ffermydd, cymunedau, sefydliadau a busnesau Cymru.

“Gan fod 2021 yn Flwyddyn Ryngwladol Ffrwythau a Llysiau’r Cenhedloedd Unedig a chyda COP26 yn digwydd yn Glasgow ym mis Tachwedd, mae’n wych gweld cymaint o ffocws a chyffro am yr hyn yr ydym yn ei fwyta,” meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen yn Synnwyr Bwyd Cymru.

“O ran iechyd y cyhoedd, mae ein deiet yn arwain at lefelau uchel o ordewdra, diabetes math 2 a chlefydau eraill sy’n gysylltiedig â deiet – ac fel mae pawb ohonom yn gwybod, mae angen i ni fwyta mwy o lysiau.  Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn darparu’r rhaglen Pys Plîs  yng Nghymru, sy’n ymchwilio i’r ysgogiadau ar hyd y gadwyn gyflenwi sydd â’r potensial i gynyddu’r llysiau a fwyteir mewn modd cynaliadwy, ac rydym yn cydnabod bod angen i ni weld newidiadau ar draws ein system fwyd er mwyn cefnogi defnyddwyr i wneud dewisiadau iachach.

“Rydym yn defnyddio dull yn seiliedig ar systemau o ymdrin â bwyd a ffermio, gan greu perthnasoedd gwaith cryf â sefydliadau cyhoeddus, breifat a’r rhai sy’n ymwneud â chymdeithas sifil yng Nghymru, a dyma pam rwy’n falch iawn bod y gwaith a wnaed gan ein haddunedwyr a’n partneriaid yng Nghymru yn cael ei gydnabod yn y gwobrau hyn sy’n cwmpasu’r DU gyfan.  Mae’n wych gallu dathlu gwaith unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau ymroddedig a brwdfrydig – mae pob un ohonynt yn gweithio’n galed iawn i hyrwyddo llysiau, gan helpu nid yn unig iechyd pobl ond yr amgylchedd hefyd.”

Ychwanegodd Rebecca Tobi, rheolwr prosiect Pys Plîs y DU: “Mae’n wych gweld cymaint o sefydliadau yn gwneud cynnydd mor arbennig o ran hyrwyddo, gweini a gwerthu mwy o lysiau. Yn enwedig yn ystod yr hyn sydd, yn ddiau, wedi bod yn un o’r blynyddoedd anoddaf erioed i sector bwyd y DU. Fodd bynnag, mae gennym dipyn o ffordd i fynd cyn i ni gyrraedd ein nod a chael pawb yn y DU i fwyta mwy o lysiau, a bydd cefnogaeth barhaus gan sefydliadau sy’n addunedwyr yn hanfodol i’n helpu i fynd ymhellach yn gyflymach. ”

-Y DIWEDD-