Cynghrair Polisi Bwyd Cymru

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn un o aelodau sefydlu Cynghrair Polisi Bwyd Cymru, cynghrair o sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n adeiladu ac yn hyrwyddo gweledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd Cymru.
Trwy gydweithredu, ymgysylltu ac ymchwil nod y Gynghrair yw:
- Cyd-gynhyrchu gweledigaeth ar gyfer system fwyd yng Nghymru sy’n cysylltu cynhyrchu, cyflenwi a defnyddio ac yn rhoi ystyriaeth gyfartal i iechyd a lles pobl a natur.
- Eirioli dros newid polisi i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, argyfwng iechyd y cyhoedd a’r cynnydd mewn ansicrwydd bwyd.
- Sicrhau bod Cymru wedi’i chysylltu â pholisi’r DU, cyfleoedd ymchwil a’r system fyd-eang ehangach.
Synnwyr Bwyd Cymru sy’n darparu’r Ysgrifenyddiaeth ar gyfer Cynghrair Polisi Bwyd Cymru ac mae hefyd yn rhoi cefnogaeth Cyfathrebu i’r grŵp.
Darllenwch gyhoeddiad diweddaraf Cynghrair Polisi Bwyd Cymru: Rhoi bwyd wrth wraidd Llywodraeth Cymru
Gallwch hefyd lawrlwytho dogfennau ac ymatebion wedi’u paratoi gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru isod:
Cyflwyniad gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru: Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Cyflwyniad gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru: Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Cyflwyniad gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru: Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Ymateb i Ymgynghoriad Amgylchedd Bwyd Llywodraeth Cymru
Ymateb i Ymgynghoriad ar y Bil Drafft Bwyd (Cymru) – Medi 2022
Ymateb i Ymgynghoriad ar y Bil Drafft Bwyd (Cymru) – Ionawr 2023
Yn ystod Tachwedd 2021, fe wnaeth Synnwyr Bwyd Cymru, ar ran Cynghrair Polisi Bwyd Cymru ddod â nifer o unigolion o ystod o sefydliadau ynghyd i gymryd rhan mewn cyfres newydd o bodlediadau o’r enw Bwyd. Hinsawdd. Newid?
Wedi’i chyflwyno gan Aled Rhys Jones, bydd y gyfres hon yn cynnwys cyfraniadau gan bobl sy’n gweithio ar draws system fwyd Cymru, gan roi’r cyfle iddynt drafod ac archwilio ystod o feysydd sy’n gysylltiedig â bwyd a newid hinsawdd.
Mae’r bennod gyntaf (cyfrwng Saesneg) yn canolbwyntio ar y gadwyn gyflenwi ac arferion caffael yng Nghymru. Mae’n edrych ar y sefyllfa bresennol ac yn gofyn a all newid ein ffyrdd o weithio cael effaith gadarnhaol ar iechyd, ffyniant economaidd ac ar ein hinsawdd hefyd.
Mae’r ail bennod yn bodlediad cyfrwng Cymraeg sy’n trafod ein defnydd o dir yng Nghymru – o ffermio sy’n gyfeillgar i natur i’r iaith Gymraeg; ac o gymunedau gwledig, i dyfu ein bwyd ein hunain. Yn cymryd rhan yn y bennod hon mae Rhys Evans, Arweinydd Ffermio Cynaliadwy Cymru, Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur a Caryl Haf, Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
Mae’r trydydd podlediad yn cynnwys Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru a’i ferch Beca. Ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar heriau a chyfleoedd targedau Net Sero ac yn archwilio gobeithion Glyn a Beca ar gyfer eu fferm hwythau ac ar gyfer y diwydiant yn gyffredinol.
Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru hefyd wedi cynhyrchu fideo sy’n esbonio mwy am systemau bwyd. Gwyliwch y fideo yma: