Pedair ardal yng Nghymru i elwa o gyllid i ddatblygu partneriaethau Lleoedd Bwyd Cynaliadwy

Mae pedair ardal yng Nghymru wedi derbyn cyllid i gefnogi’r gwaith o sefydlu partneriaethau bwyd traws-sector lleol yn eu cymunedau.

Mae Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, a Phowys wedi llwyddo i gael grantiau drwy Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Sustainable Food Places) ac mae Blaenau Gwent wedi cael cyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu partneriaethau bwyd sy’n anelu at greu systemau bwyd lleol iach sy’n fwy cynaliadwy ac yn decach.

Rhaglen bartneriaeth yw Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a arweinir gan Gymdeithas y Pridd, Food Matters a Sustain: y gynghrair ar gyfer gwell bwyd a ffermio. Caiff ei hariannu gan Sefydliad Esmée Fairbairn a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac ar hyn o bryd mae ganddi 55 o aelodau ledled y DU.

Roedd Bwyd Caerdydd – sy’n cael ei letya gan Synnwyr Bwyd Cymru – yn un o sylfaenwyr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, ac arweiniodd ei bartneriaeth draws-sector arloesol at ddatblygu Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, gan ddangos grym cydweithio ar sail lleoliad i alluogi mynediad at fwyd da, iach, cynaliadwy, fforddiadwy a blasus.

Y pedwar prosiect

Ym Mhowys, bydd y prosiect sy’n cael cyllid gan Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn cael ei gydlynu gan Cultivate, cwmni bwyd cydweithredol lleol o’r Drenewydd.  Mae’r grŵp eisoes wedi creu llawer o gysylltiadau cadarnhaol â sefydliadau tebyg yn yr ardal, ond mae’n awyddus i wneud mwy o ran cryfhau a datblygu economi fwyd gynaliadwy.

“Bydd y grant gan Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ein galluogi i weithio gydag ystod ehangach o bartneriaid mewn ardal fwy i ddatblygu cynllun bwyd cynaliadwy mwy cydlynol sy’n gweithio i’n cymunedau,” meddai Jodie Griffith, Rheolwr Cultivate.  “Bydd yr arian hwn yn caniatáu i ni ymestyn allan a chysylltu â grwpiau a sefydliadau eraill a dechrau dod â’r holl waith gwych y mae pobl yn ei wneud at ei gilydd. Gwyddom fod llawer o bethau’n digwydd yng ngogledd Powys, felly bydd hyn yn rhoi cyfle i ni gynyddu capasiti a chysylltu’r cyfan gan greu rhywbeth mwy cynaliadwy.

“Bydd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl yn y gymuned, drwy gynyddu ymwybyddiaeth a mynediad at fwyd da a dyfir yn lleol. Rydym yn gobeithio gwella’r gallu i gaffael bwyd yn lleol a chryfhau’r cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr a chwsmeriaid er mwyn creu cymunedau mwy gwydn a llewyrchus.”

Yn Rhondda Cynon Taf, mae’r bartneriaeth lwyddiannus yn bwriadu datblygu cynllun gweithredu cydweithredol ledled y sir sy’n cynnwys cefnogaeth a chymorth gan y Cyngor, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.  Mae’r bartneriaeth hefyd yn bwriadu ehangu a mapio’r rhwydwaith o dyfwyr – yn unigolion, rhandiroedd, tir ysgol yn ogystal â lleiniau eraill o dir y gellid eu defnyddio i dyfu bwyd – er mwyn rhannu adnoddau ac arbenigedd yn well.

“Mae’r Cyngor yn falch iawn o fod yn un o’r pedwar prosiect a ddewiswyd yng Nghymru i ddatblygu man bwyd cynaliadwy yn Rhondda Cynon Taf,” meddai’r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet dros Gymunedau Cryfach, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r cyllidwr, yr ymgeiswyr llwyddiannus eraill o bob rhan o Gymru, partneriaid, busnesau a thrigolion. Mae yna enghreifftiau gwych o waith sydd eisoes yn digwydd yn Rhondda Cynon Taf, megis prosiectau tyfu lleol a chynlluniau rhannu bwyd. Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn helpu i gryfhau’r rhwydweithiau hyn ac, yn y pen draw, y byddant o fudd i bobl ac amgylchedd Rhondda Cynon Taf.”

Mae nifer fawr o weithgareddau eisoes ar y gweill yn Sir Fynwy gyda grwpiau ac unigolion yn cymryd rhan weithredol ac yn gweithio gyda’i gilydd yn y maes bwyd.

“Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o dderbyn y cyllid hwn ar ran ein cymunedau,” meddai’r Cynghorydd Jane Pratt, aelod o’r Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau’r Gymdogaeth yn Sir Fynwy.  “Bydd y fenter hon yn gwella ein gwaith yn y maes datblygu bwyd ac yn adeiladu ar ein Rhaglen Gwydnwch Bwyd, yn ogystal â hyrwyddo bwyd lleol a’n symud tuag at system fwyd iachach, fwy cynaliadwy a theg.”

Ychwanega Deserie Mansfield, Swyddog Datblygu Bwyd y Rhaglen Wledig yng Nghyngor Sir Fynwy: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael grant i ddatblygu Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Sir Fynwy ac adeiladu ar ein rhaglen gwydnwch bwyd.  Bydd y cyllid a’r arweiniad gan Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn helpu ein cymunedau, ein busnesau ac unigolion â diddordeb i weithio gyda’i gilydd i greu mudiad bwyd cynaliadwy yn Sir Fynwy.”

Ym Mlaenau Gwent, bydd partneriaeth, sy’n cynnwys Tai Calon, Cymdeithas y Pridd a phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a GAVO – i gyd yn cydweithio i gydlynu’r gwaith o ddatblygu partneriaeth fwyd dda.

Mae’r prosiect bwyd penodol hwn yn cael ei ariannu’n wahanol i’r tri arall, gan ei fod eisoes wedi cael grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ariannu aelod o staff i helpu i’w ddatblygu.  Bydd yn gweithio’n agos â Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a Synnwyr Bwyd Cymru i ehangu’r fenter gan ddod yn rhan o rwydwaith Cymru o brosiectau sy’n seiliedig ar le, sy’n prysur ehangu.

“Mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Blaenau Gwent yn falch iawn o gael cyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru i recriwtio Cydlynydd Rhaglen Bwyd Cynaliadwy,” meddai Andrew Myatt o Tai Calon.

“Bydd y bartneriaeth yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu strategaeth fwyd a chynllun gweithredu ar gyfer y fwrdeistref sirol sy’n integreiddio i anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol preswylwyr a grwpiau cymunedol. Mae’n gyfle cyffrous iawn i adeiladu ar waith mapio asedau cychwynnol i ganfod bylchau yn y system fwyd leol. Mae’n gyfle gwych i ddod â thrigolion lleol a rhanddeiliaid allweddol ynghyd i helpu i fynd i’r afael â’r heriau a’r bylchau hyn drwy ddatblygu atebion lleol sy’n gwneud synnwyr i gymunedau Blaenau Gwent. ”

Dywedodd Tom Andrews, Cyfarwyddwr rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU:

“Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn o fod yn cychwyn ar gam newydd o’r rhaglen, a fydd yn arwain at greu partneriaethau bwyd ledled Cymru. Fel gwlad sy’n cynhyrchu bwyd o’r radd flaenaf a chanddi bolisi a strategaeth genedlaethol arloesol, mae Cymru yn lle perffaith i’r partneriaethau newydd hyn brofi’r hyn sy’n bosibl drwy greu systemau bwyd lleol iach, llewyrchus a chynaliadwy.”

Meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru – sefydliad sy’n gweithio i gyd-greu system fwyd i Gymru sydd o les i’r bobl ac i’r blaned:

“Ein huchelgais yw gweld partneriaeth fwyd yn cael ei sefydlu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, er mwyn creu rhwydwaith a fyddai’n sylfaen i ddatblygu’r weledigaeth, y seilwaith a’r camau gweithredu sydd eu hangen i wneud system fwyd Cymru yn addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol. Cafodd y weledigaeth hon ei chydnabod yn ddiweddar hefyd gan y Tasglu Adferiad Gwyrdd ac yn ogystâl â galluogi rhannau ychwanegol o Gymru i gychwyn eu partneriaethau bwyd da eu hunain, bydd y grantiau hyn hefyd yn eu galluogi i fod yn rhan o weledigaeth ar y cyd i roi iechyd a bwyd cynaliadwy wrth galon cymunedau a helpu i ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ yng Nghymru ymhellach.”

Mae Synnwyr Bwyd Cymru a Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn aelodau o Gynghrair Polisi Bwyd Cymru – clymblaid o sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n datblygu ac yn hyrwyddo gweledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd Cymru – sy’n galw am fuddsoddi mewn seilwaith a chymunedau bwyd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae’r pedwar prosiect sydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid i ddatblygu eu partneriaethau bwyd eu hunain yn helpu i arwain y ffordd o ran sefydlu a thyfu seilwaith sy’n seiliedig ar le, gan gyfrannu at ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ a fydd o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau ledled De Cymru.

DIWEDD