Bydd pedwar digwyddiad Sioe Deithiol Ranbarthol COP26 yn cael eu cynnal yng Nghymru i gyd-fynd â dyddiadau’r Rhaglen Gynhadledd Llywyddiaeth yn Glasgow, ac i adlewyrchu’i themâu.

  • Trawsnewid Ynni (4 Tachwedd) – wedi’i gynnal yng ngogledd Cymru
  • Datrysiadau Seiliedig ar Natur (6 Tachwedd) – wedi’i gynnal yng nghanolbarth Cymru
  • Addasu a Gwytnwch (8 Tachwedd) – wedi’i gynnal yn ne-orllewin Cymru
  • Trafnidiaeth Lân (10 Tachwedd) – wedi’i gynnal yn ne-ddwyrain Cymru

Ddydd Llun, Tachwedd 8fed, bydd Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru yn arwain sesiwn a fydd yn ystyried newid hinsawdd a’i effeithiau ar amaethyddiaeth a diogelwch bwyd ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol. Manylion isod:

1130 – 1300: Amaethyddiaeth ac Annibyniaeth Bwyd

Mae newid hinsawdd yn fygythiad sylweddol a chynyddol i ddiogelwch bwyd.

Bydd y sesiwn hon – a fydd dan arweiniad sylfaenydd Synnwyr Bwyd Cymru, Katie Palmer – yn ystyried newid hinsawdd a’i effeithiau ar amaethyddiaeth a diogelwch bwyd ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol. Cyflwynir astudiaethau achos sy’n ymwneud ag addasu ynghyd â rôl hollbwysig sefydliadau, llywodraethu, polisïau, a chyllid.

Siaradwyr yn cynnwys:

Will Ritchie, curadur Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru; Aled Davies, ymgynghorydd sirol Sir Gâr a Bro Morgannwg yn NFU Cymru; Katie Davies, ymgynghorydd amaethyddol yn Agri Advisor; Edward Morgan, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol y grŵp a rheolwr hyfforddiant Castell Howell; Simon Wright, arbenigwr bwyd ac athro ymarfer ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru

Bydd cynnwys y pedwar digwyddiad sioe deithiol yn cael ei lywio gan bobl o ledled Cymru, yn pwysleisio enghreifftiau perthnasol o arfer gorau a sicrhau bod cyfranogwyr yn ymgysylltu mewn trafodaethau pwysig ynghylch themâu allweddol COP.

Bydd digwyddiadau sioeau teithiol COP26 yn cael eu darlledu’n fyw i gynulleidfa gyhoeddus ac ar gael fel cynnwys fideo ar alw.

  • Gallwch wylio’r ffrwd fyw drwy’r dudalen Cynnwys Byw
  • Bydd recordiad ar gael yn adran Ar alw’r safle’n fuan ar ôl i bob digwyddiad ddod i ben.
Archebwch eich lle