Logo Llwybr Bwyd y FroBydd digwyddiad newydd yn taflu goleuni ar y sîn fwyd leol a bywiog Bro Morgannwg – gan ganolbwyntio’n benodol ar fwyd a diod cynaliadwy.  Bydd y digwyddiad  Llwybr Bwyd y Fro cyntaf rhwng  9 – 18 Mehefin  yn cynnwys calendr o ddigwyddiadau sydd wedi’u dylunio i leihau’r bwlch rhwng pobl, cynhyrchwyr a busnesau bwyd yn y Fro, tra’n dyfnhau cysylltiad pobl â’u cymuned.

Bydd ymwelwyr a phobl leol yn gallu teithio o amgylch y rhanbarth yn annibynnol, gan ymweld ag amrywiaeth o gynhyrchwyr, caffis, bwytai a busnesau eraill. Mae cyfanswm o 20 o fusnesau a sefydliadau wedi cofrestru i gynnal amryw  ddigwyddiadau i gyflwyno bwyd sy’n dda i natur a’r hinsawdd (amaeth-ecolegol).

Bydd angen tocyn i fynd i rai digwyddiadau, gyda threfnwyr hefyd yn cynllunio cyfres o weithgareddau am ddim ar fwyd, lles, a newid hinsawdd.

Manylion pellach yma