Mwy o wybodaeth:

Croeso i ail Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd! 

Mae’r Ŵyl yn rhaglen ddiogel o ddigwyddiadau bwyd ledled y ddinas i helpu cymunedau i dyfu eu bwyd eu hunain, rhannu cynnyrch a chysylltu â chymdogion. 

Bydd yr ŵyl hefyd yn dathlu Gwobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Arian Caerdydd ac yn lansio 5 Nod Bwyd Da Caerdydd sydd wedi cael eu datblygu gan dros 2,500 o bobl y ddinas.

Trwy gymryd rhan, byddwch yn adeiladu ar lwyddiant Gŵyl yr Hydref y llynedd lle trefnodd grwpiau cymunedol, gerddi, busnesau lleol ac ysgolion 45 o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gan ddenu tua 4,000 o fynychwyr a dosbarthu mwy na 5,000 o blanhigion llysiau.

Gwybodaeth bellach