Pa gwestiynau y dylem eu gofyn yn ein trydydd Cyfrifiad Materion Bwyd? Beth ydych chi eisiau ei wybod am yr ecosystem rydych chi’n gweithio ynddi? Pa fewnwelediadau a data fydd yn eich helpu i deimlo’n fwy cysylltiedig,
Dyma ragor o wybodaeth am ddigwyddiad ar-lein sy’n cael ei gynnal ar 12 Tachwedd a byddem wrth ein bodd petaech yn cymryd rhan ynddo.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda’r Food Ethics Council ar y trydydd Cyfrifiad Materion Bwyd, gan adeiladu ar sail cyfrifiadau blaenorol a gyhoeddwyd yn 2017 a 2011. Nod y cyfrifiad yw tynnu sylw at y gwaith y mae sefydliadau cymdeithas sifil amrywiol yn ei wneud ar fwyd a ffermio yn y DU – gan helpu sefydliadau i ddeall eu rolau o fewn yr ecosystem ehangach a nodi cyfleoedd ar gyfer mwy o effaith gyfunol. Bydd y broses ar gyfer cynnal y trydydd cyfrifiad hwn yn cael ei chyd-gynllunio â chymdeithas sifil.
Rydym yn cychwyn y broses gyda digwyddiad ar-lein agored, rhyngweithiol i drafod cwestiynau y dylem fod yn eu gofyn. Bydd y mewnwelediadau a gesglir yn y digwyddiad hwn yn llywio’r cwestiynau a ofynnwn yn y cyfrifiad.
Manylion y Digwyddiad:
Teitl: Mapio gwaith cymdeithas sifil ar fwyd: beth hoffech chi ei ddarganfod?
Dyddiad ac Amser: Dydd Mawrth 12fed Tachwedd 2024, 12:00 – 13:30 (amser y DU)
Llwyfan: Zoom
Cofrestrwch YMA (neu drwy’r ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e/mapping-civil-societys-work-on-food-what-would-you-like-to-find-out-tickets- 1057872287489)
Cofrestrwch i ymuno a rhannwch y gwahoddiad hwn ag unrhyw sefydliad yn eich rhwydwaith a allai gyfrannu at y gwaith hwn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â Nadeen, sy’n arwain y gwaith, drwy nadeen@foodethicscouncil.org, neu dîm Synnwyr Bwyd Cymru.