Cymru Can: Safbwynt Synnwyr Bwyd Cymru

Mae Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yr wythnos hon wedi nodi ei flaenoriaethau yn Cymru Can – strategaeth newydd ar gyfer 2023-2030 sy’n amlinellu ei weledigaeth hirdymor a’i bwrpas.

Gyda bwyd yn rhan annatod o gyflawni nodau llesiant Cymru, mae Synnwyr Bwyd Cymru wrth ei fodd i weld ein system fwyd wedi’i nodi fel maes ffocws cyntaf y Comisiynydd, gan gyfrannu at bob un o’i bum cenhadaeth, sef Gweithredu ac Effaith, Hinsawdd a Natur, Iechyd a Llesiant, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg ac Economi Llesiant.

Mae’n hynod galonogol bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wrthi’n ystyried y gwahanol agweddau, yr heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan ein system fwyd – o’r angen am fwy o fwyd a gynhyrchir yn lleol, i sicrwydd bwyd; ac o gymunedau gwledig, y Gymraeg a’n diwylliant, i’r dyletswydd sydd ar ein gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio’u ysgogowyr ar gyfer newid.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru hefyd yn cefnogi ac yn cytuno â’r cyfleoedd a nodwyd ynghylch bwyd a fydd yn helpu Cymru i gyflawni ei nodau llesiant, gan gynnwys y Ddeddf Amaethyddiaeth newydd; y momentwm cynyddol o ran bwyd cymunedol a chadwyni cyflenwi lleol cysylltiedig, yn ogystal â datblygiad partneriaethau bwyd traws-sector – maes y mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod yn allweddol yn ei weithredu a’i ddatblygu ledled Cymru.

Yn yr un modd, rydym yn cymeradwyo cynlluniau’r Comisiynydd i weithio gyda chyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn integreiddio polisïau bwyd cynaliadwy o fewn eu cynlluniau llesiant, gan gynnwys datblygu cynlluniau bwyd cymunedol, i wneud newidiadau a gwelliannau ar lefel leol, yn seiliedig ar le.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru, ochr yn ochr â’r Comisiynydd, hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth fwyd hirdymor wedi’i fframio o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’n hanfodol, nawr yn fwy nag erioed, ein bod yn sicrhau bod gan genedlaethau’r presennol a’r dyfodol fynediad at gyflenwad diogel a fforddiadwy o fwyd maethlon, nad yw’n effeithio’n negyddol ar ein hamgylchedd – gartref neu dramor – ac sy’n cefnogi datblygiad diwylliant ac economi ffyniannus yng Nghymru.

Darllenwch y strategaeth lawn yma a gwyliwch y fideo isod: