Bwyd. Hinsawdd. Newid? Cyfres newydd o bodlediadau yn archwilio bwyd a newid hinsawdd

Gyda COP26 wedi dechrau yng Nglasgow, mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru wedi dod â nifer o unigolion o ystod o sefydliadau ynghyd i gymryd rhan mewn cyfres newydd o bodlediadau o’r enw Bwyd. Hinsawdd. Newid?

Wedi’i chyflwyno gan Aled Rhys Jones, bydd y gyfres hon o bodlediadau yn cynnwys cyfraniadau gan bobl sy’n gweithio ar draws system fwyd Cymru, gan roi’r cyfle iddynt drafod ac archwilio ystod o bynciau sy’n gysylltiedig â bwyd a newid hinsawdd.

Fel rhan o fenter fyd-eang ehangach o’r enw o’r enw Fforc i’r Fferm, bwriad Bwyd. Hinsawdd. Newid? yw dod â phobl at ei gilydd sy’n gweithio neu’n gweithredu ar draws y system fwyd – o ffermwyr a chynhyrchwyr, i bobl sy’n weithgar yn eu cymunedau, neu rai sy’n ymwneud â pholisi – er mwyn cael sgyrsiau agored a difyr yng nghyd-destun newid hinsawdd.

Bydd rhai o’r themâu a fydd yn deillio o’r sgyrsiau hyn yn cael eu rhannu yn ystod COP26 ac y mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod yn gweithio gyda Nourish Scotland i sicrhau presenoldeb ar gyfer bwyd a ffermio yn COP ac i sicrhau bod eu lleisiau amrywiol yn cael eu clywed yn y gynhadledd bwysig hon.Mae Synnwyr Bwyd Cymru felly, ar ran Cynghrair Polisi Bwyd Cymru, wedi dod â nifer o bobl ynghyd i rannu eu barn ar yr amrywiol heriau a’r cyfleoedd hynny sy’n ein hwynebu fel cenedl.

Bydd y bennod gyntaf yn canolbwyntio ar y gadwyn gyflenwi ac arferion caffael yng Nghymru. Bydd yn edrych ar y sefyllfa bresennol ac yn gofyn a all newid ein ffyrdd o weithio cael effaith gadarnhaol ar iechyd, ffyniant economaidd ac ar ein hinsawdd hefyd.

Ymhlith gwesteion y bennod gyntaf hon mae Alex Cook – actifydd bwyd, cogydd a pherchennog SwperBox; Edward Morgan, Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Hyfforddiant Grŵp Castell Howell; Abel Pearson, prif dyfwr Glasbren a Gwyneth Ayres, Rheolwr Polisi Corfforaethol, Perfformiad a Phartneriaethau, Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Mae’r ail bennod yn bodlediad Cymraeg sy’n trafod ein defnydd o dir yng Nghymru – o ffermio sy’n gyfeillgar i natur i’r iaith Gymraeg; ac o gymunedau gwledig, i dyfu ein bwyd ein hunain.

Yn cymryd rhan yn y bennod hon mae Rhys Evans, Arweinydd Ffermio Cynaliadwy Cymru, Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur a Caryl Haf, Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Mae’r trydydd podlediad yn cynnwys Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru a’i ferch Beca. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg, bydd y bennod hon yn canolbwyntio ar heriau a chyfleoedd targedau Net Sero a bydd yn archwilio gobeithion Glyn a Beca ar gyfer eu fferm hwythau ac ar gyfer y diwydiant yn gyffredinol.

Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu dod ag ystod amrywiol o bobl ynghyd ar gyfer y gyfres hon o bodlediadau,” meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru ac un o’r aelodau hynny a sefydlodd Cynghrair Polisi Bwyd Cymru.

“Gyda ffocws y byd ar COP26 – ac ar ôl clywed am nifer o weithredoedd sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd – mae’n werth atgoffa’n hunain y gellid priodoli tua 21-37% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd i’r system fwyd. Daw’r rhain o ystod o weithredoedd – o amaethyddiaeth a defnydd tir i’r ffyrdd ry’n ni’n storio, cludo, pecynnu, prosesu, manwerthu a defnyddio bwyd.

“Mae’r gyfres hon o bodlediadau wedi ein galluogi i ddod â phobl ynghyd i gael trafodaethau agored a gonest,” atega Katie.

“Mae cymhlethdodau’r ddadl ynghylch bwyd, ffermio a’r hinsawdd yn mynnu ein bod yn clywed gan ystod amrywiol o bobl sy’n gweithio ar draws y system fwyd yng Nghymru. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi platfform i leisiau’r bobl hynny sy’n gweithio yn y diwydiant bwyd a ffermio yng Nghymru.

“Pe bai pawb sy’n gweithio ar draws ein system fwyd yn gallu dod at ei gilydd gyda’r nod o wneud newidiadau cadarnhaol; yr uchelgais i barhau ar daith i net sero a’r ewyllys i frwydro yn erbyn newid hinsawdd – gallai Gymru fynd ati i greu system fwyd sy’n addas ac yn barod  ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Trefnwyd y podlediadau gan Synnwyr Bwyd Cymru ar ran Cynghrair Polisi Bwyd Cymru.

Os oes gyda chi ddiddordeb yn y maes bwyd a newid hinsawdd, ac os hoffech chi wrando ar rai o‘n podlediadau eraill, gallwch ddod o hyd iddynt trwy ymweld â synnwyrbwydcymru.org.uk  lle byddwch hefyd yn gallu dysgu mwy am Gynghrair Polisi Bwyd Cymru.

Cyflwynir pob pennod gan Aled Rhys Jones a recordiwyd a golygwyd y gyfres gan Marc Griffiths o gwmni StiwdioBox.

Cliciwch yma i wrando ar benodau Cymraeg ‘Bwyd. Hinsawdd. Newid?’
Cliciwch yma i wrando ar benodau Saesneg y gyfres
DIWEDD