Bwyd a Hwyl yn ennill Gwobr Cymdeithas Dda yng Ngwobrau blynyddol Pys Plîs

Yn ystod seremoni Gwobrau Pys Plîs 2022 a gynhaliwyd yn Leeds ddydd Mercher, 18 Mai, cyflwynodd Anna Taylor, cyfarwyddwr gweithredol Food Foundation, wobrau i enillwyr y saith categori.

Soniwyd yn benodol am y rhaglen Bwyd a Hwyl a enillodd y wobr Cymdeithas Dda. Menter Llywodraeth Cymru sy’n cael ei chydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yw Bwyd a Hwyl sy’n darparu addysg am fwyd a maeth, gweithgarwch corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau bwyd iach i blant yn ystod gwyliau’r haf.

“Rydym yn hynod falch bod cynllun Bwyd a Hwyl CLlLC wedi ennill Gwobr Cymdeithas Dda Pys Plîs’, gwobr sy’n cydnabod ymdrechion i leihau anghydraddoldebau er mwyn sicrhau bod llysiau ar gael i blant ac sy’n rhoi cychwyn iach mewn bywyd i blentyn,” meddai Chris Llewelyn Prif Weithredwr CLlLC.  “Mae ymchwil yn dangos bod bwyta deiet sy’n llawn ffrwythau a llysiau yn hanfodol i ddatblygiad plant, ac mae’n eu helpu i ganolbwyntio, i gadw’n iach a gyda’u lles yn gyffredinol, gartref ac yn yr ysgol.

“Rydym yn falch o’r gwaith y mae’r tîm yn ei wneud yn CLlLC ac ar draws llywodraeth leol yng Nghymru er mwyn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn cael deiet iach. Rydym yn ddiolchgar iawn hefyd am waith caled, ymrwymiad a’r bartneriaeth ag ysgolion o bob cwr o Gymru sy’n darparu Bwyd a Hwyl, yn enwedig ar ôl dwy neu dair blynedd anodd o ganlyniad i’r pandemig, a hoffem ddiolch i Pys Plîs am y wobr bwysig hon.”

Synnwyr Bwyd Cymru sy’n arwain gwaith Pys Plîs yng Nghymru gan ddod â ffermwyr, manwerthwyr, a chadwyni bwytai, arlwywyr a phroseswyr ac adrannau o’r llywodraeth ynghyd i gyflawni’r un nod o’i gwneud yn haws i bawb fwyta llysiau.

Roedd Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru wrth ei bodd o glywed bod Bwyd a Hwyl wedi ennill y wobr glodwiw.  “Rhaglen addysg yn yr ysgol yw Bwyd a Hwyl sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei chydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,” meddai Katie.  “Maent wedi addo sicrhau bod o leiaf dau ddogn o lysiau yn cael ei weini yn eu hysgolion, ac felly’n llawn haeddu Gwobr Cymdeithas Dda Pys Plîs. Dalier ati Bwyd a Hwyl!”

Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, mae gan fenter Pys Plîs dros 100 o addunedwyr sy’n cynrychioli 92% o’r farchnad manwerthu bwyd, ac mae pob un ohonynt wedi addo hyrwyddo ac annog pobl i fwyta mwy o lysiau.

Mae pob un o’r saith gwobr yn dathlu cyflawniadau busnesau dyfeisgar sy’n arwain y ffordd drwy gynlluniau sy’n cynyddu’r llysiau a fwyteir.

Ers lansio ymgyrch Pys Plîs yn 2017, llwyddodd y rhai sy’n cefnogi’r diwydiant bwyd i gyflenwi 636 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau i’r system fwyd ar hyd a lled Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ond mae adroddiad cynnydd Pys Plîs 2021 a gyhoeddwyd ddiwedd y llynedd, yn dangos diffyg difrifol o ran faint o lysiau sy’n cael eu bwyta, gyda llai na chwarter o oedolion yn bwyta digon o lysiau y dydd, a bron i draean o blant yn bwyta llai nag un dogn y dydd.

Dengys ymchwil fod deiet gwael yn gysylltiedig â bron i 18,000 o farwolaethau cyn pryd y flwyddyn yn y DU.

“Rydym yn falch o weld twf sylweddol yng nghefnogaeth y diwydiant i’r prosiect Pys Plis,” meddai Anna Taylor, Cyfarwyddwr gweithredol Food Foundation. “Mae mwy a mwy o fusnesau yn cydnabod bod ganddynt ran hanfodol i’w chwarae er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng maeth gwael sy’n achosi epidemig o ordewdra ac afiechydon. Bu’n bleser pur ac yn fraint gweithio gyda’r sefydliadau arloesol sydd wedi ennill y gwobrau eleni.”

DIWEDD