Adroddiad Cynnydd Pys Plîs 2022 yn amlygu’r heriau i’r diwydiant bwyd

Mae’n anodd i deuluoedd heb lawer o arian fforddio deiet iach ac mae angen dybryd i ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu’r llysiau a fwyteir wrth i fusnesau ddelio â chanlyniadau covid, problemau gyda’r gadwyn gyflenwi a’r her o gadw costau’n isel i gwsmeriaid.

Er bod addunedwyr busnes Pys Plîs wedi llwyddo i werthu cyfanswm anhygoel o 771 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau ers i’r fenter Pys Plîs ddechrau bum mlynedd yn ôl, a 147 miliwn o’r rheini yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig, dengys yr adroddiad fod y cynnydd  hwn yn llawer is na’r flwyddyn flaenorol pan ychwanegwyd 461 miliwn o ddognau at y cyfanswm.

Yn y cyfamser mae tywydd eithafol a chnydau’n methu dro ar ôl tro yn dangos bod effaith y newid yr hinsawdd yn gwaethygu a’r angen i bobl beidio â bwyta cymaint o gig a phrotein anifeiliaid.

Mae’r adroddiad cynnydd sydd newydd ei gyhoeddi gan Pys Plîs, sy’n bartneriaeth gyda’r nod o newid deiet pobl dan arweiniad ‘The Food Foundation’ ar y cyd â Synnwyr Bwyd Cymru, Nourish Scotland, Nourish NI a Food NI, yn nodi bod mwy na 100 o archfarchnadoedd, cadwyni bwytai a diwydiannau bwyd mawr eraill bellach wedi ymrwymo i adduned Pys Plîs er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng iechyd cyhoeddus ac amgylcheddol sy’n gwaethygu ym Mhrydain drwy gynyddu’r llysiau a fwyteir.

Fodd bynnag, mae chwyddiant a chynnydd mewn prisiau wedi gwneud difrod mawr. Mae bron i hanner y teuluoedd ar incwm isel yn prynu llai o lysiau gan fod chwyddiant ar bris llysiau wedi cyrraedd bron i 14% o gymharu ag oddeutu 7% ar gyfer losin a siocled.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod bwlch cynyddol mewn maeth rhwng y tlawd a’r cyfoethog. Ymysg y rhai sy’n ennill llai na £10,000, gostyngodd cyfran y llysiau sydd yn y fasged siopa dros y flwyddyn ddiwethaf, ond i’r rhai sy’n ennill dros £70,000 ni welwyd unrhyw newid er gwaetha’r cynnydd mewn prisiau.

Dengys data eraill yn yr adroddiad fod pobl yn prynu llai o fwyd yn gyffredinol wrth i’r argyfwng costau byw waethygu.

Fodd bynnag, mae tîm Pys Plîs yn awyddus i arddangos ymdrechion gan fusnesau ymrwymedig i oresgyn y tueddiadau hyn drwy ddangos enghreifftiau o ‘arloesi gyda llysiau’ gan amrywiaeth o’n haddunedwyr.

Mae prif addunedwyr Pys Plîs yn y meysydd manwerthu, bwytai a gweithgynhyrchu yn parhau i fod yr un mor ymrwymedig ag erioed i’r rhaglen, a’i phrif amcanion yw:

  • Ei gwneud yn orfodol i bob busnes bwyd mawr gyflwyno adroddiadau fel y nodir yn Strategaeth Fwyd y Llywodraeth. Byddai hyn yn cefnogi’r broses o symud tuag at fwyta mwy o fwyd sy’n seiliedig ar blanhigion drwy dracio gwerthiant ffrwythau a llysiau a phlanhigion yn hytrach na phrotein o anifeiliaid, yn ogystal â gwerthu llai o gynhyrchion sy’n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr.
  • Sicrhau bod ein cymuned o addunedwyr yn gwerthu tair biliwn o ddognau ychwanegol o lysiau erbyn Haf y flwyddyn nesaf ac yn gwneud mwy o ymdrechu i sicrhau y gall cartrefi incwm isel ac incwm canolig fforddio prynu llysiau.

Greggs, Giraffe ac Ocado yw rhai o’r sefydliadau sy’n derbyn clod arbennig am gyflawni gradd golau traffig gwyrdd a hynny am lwyddo yn eu hymdrechion i newid cyfeiriad y diwydiant bwyd.

Eleni, mae pump o sefydliadau ychwanegol wedi cydnabod pa mor hanfodol bwysig yw’r targedau hyn, gan ymuno â’r gymuned o addunedwyr bwyd sy’n cynnwys mwy na 100 o enwau adnabyddus.

Yn 2023 mae partneriaeth Pys Plîs yn gofyn i addunedwyr weithredu drwy:

  • Ymrwymo i fentrau newydd sy’n helpu teuluoedd heb lawer o arian i barhau i fwyta llysiau fel rhan o’u deiet
  • Dangos eu bod wedi cyflawni’r ymrwymiadau fel addunedwyr erbyn mis Gorffennaf 2023
  • Dathlu llwyddiant y pedair blynedd diwethaf yn Uwchgynhadledd Llysiau yr Hydref, ble y byddwn yn rhoi ein gwobr Moronen Aur i’r cwmni sy’n gwneud y cynnydd mwyaf

Meddai Rebecca Tobi, uwch reolwr ymgysylltu â busnesau a buddsoddiadau y Sefydliad Bwyd: “Bu hon yn flwyddyn anodd i fusnesau bwyd ac i gartrefi, ac mae’n ymddangos y bydd pethau’n gwaethygu wrth i’r argyfwng costau byw gynyddu. Er bod datblygiad Pys Plîs wedi arafu eleni o ganlyniad i hynny, a  bod arwyddion cynnar yn dangos bod rhaid i deuluoedd gwtogi ar y llysiau maen nhw’n eu prynu, mae’n galonogol gweld cymaint o’n haddunedwyr yn parhau i fynd ati i hyrwyddo llysiau. Mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod llysiau ar gael i gartrefi a’u bod yn gallu eu fforddio, ac mae angen i’r sector manwerthu a’r sector y tu allan i’r cartref gymryd camau pendant ar fyrder i ddiogelu llysiau rhag effeithiau gwaethaf yr argyfwng costau byw yn 2023.”

Meddai Claire Atkins-Morris, Cyfarwyddwr Cyfrifoldeb Corfforaethol Sodexo: “Mae bwyta cynaliadwy yn ffocws pwysig am gymaint o resymau, o ran maeth, cost ac allyriadau carbon. Mae’r adroddiad hwn yn ein hatgoffa bod gan ddiwydiant ran i’w chwarae wrth ddarparu opsiynau cyfrifol a chefnogi’r cymunedau lle rydym yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddynt. Mae adroddiad eleni hefyd wedi tynnu sylw at y galwadau a’r effeithiau lluosog sydd wedi effeithio ar y diwydiant gwasanaeth bwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae angen llywio sut y gellir rheoli cadwyni cyflenwi, gan gadw’r amgylchedd a chymdeithas mewn cof, gan sicrhau na ddylai’r ffocws ar gyflenwi bwyd olygu ailflaenoriaethu targedau hinsawdd.”

Meddai Charlie Parker, Uwch Faethegydd o Gwmni Manwerthu Ocado: “Eleni fe wnaethom addunedu i gynyddu’r llysiau ffres dan Frand Personol Ocado 10%, ac i sicrhau bod pob un o’n ryseitiau ar gyfer prif gwrs yn ein cylchgrawn Ocado Life yn cynnwys o leiaf un dogn o lysiau – rydym yn falch ein bod wedi llwyddo i gyrraedd y ddau darged hyn. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Pys Plîs er mwyn sicrhau bod ‘5 dogn y dydd’ yn fforddiadwy, yn ysbrydoledig ac yn ymarferol i’n cwsmeriaid ei gyflawni.”

Atega Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru: “Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un hynod anodd i’n haddunedwyr ond mae nifer ohonynt wedi dod ynghyd i ymateb i rai o’r heriau hynny drwy greu arloesedd yn y gadwyn fwyd – gan ddefnyddio courgettes!  Roedd y cynllun peilot hwn yn golygu cael tyfwr bwyd newydd a phedwar o’n haddunedwyr o Gymru (Castell Howell, Tyfu Cymru, Cyngor Caerdydd a Bwyd a Hwyl) i gynyddu’r cynnyrch lleol mewn prydau bwyd a oedd yn cael eu gweini mewn ysgolion yn ystod gwyliau’r haf a hynny fel rhan o raglen Bwyd a Hwyl Llywodraeth Cymru. Caiff llwyddiant yr ymchwil hwn ei ddefnyddio i lunio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu faint o fwyd lleol sy’n cael ei gynnwys mewn prydau bwyd fel rhan o gyflwyno’r rhaglen prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.”

DIWEDD