Mis Plannu a Rhannu: Ebrill 20fed – Mai 20fed

Mae Plannu a Rhannu yn ymgyrch mis o hyd sy’n cael ei arwain gan Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes ac sy’n cael ei chynnal ledled y DU sy’n annog pob un ohonom i fynd allan i’r ardd, y rhandir neu’r llain llysiau. Cynhelir yr ymgyrch rhwng Ebrill 20fed a Mai 20fed.

Yn ogystal â helpu cymunedau i ddod at ei gilydd unwaith eto, mae Plannu a Rhannu yn ffordd wych o ailgysylltu â tharddiad ein bwyd, ac i gefnogi ein hamgylchedd.

Dyma sut i gymryd rhan

P’un a ydych yn grŵp cymunedol, yn glwb ar ôl ysgol, yn glwb ieuenctid neu’n grŵp ffydd, beth am gynnal gweithgaredd Plannu a Rhannu?

  1. Anfonwch wahoddiad at bobl i’ch digwyddiad Plannu a Rhannu
  2. Plannwch eich hadau – dyma sut i uwchgylchu esgidiau glaw!
  3. Helpwch yr hadau i dyfu – darllenwch sut yr aeth y grŵp hwn ati i helpu pobl i dyfu bwyd mewn man gwyrdd bach
  4. Rhannwch yr eginblanhigion, neu’r ffrwythau a’r llysiau! Dwedwch wrth griw Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes gyda phwy y gwnaethoch eu rhannu ar Facebook neu Twitter gan ddefnyddio #FFLGetTogethers

Cofrestrwch eich digwyddiad yma.

Cymorth ac adnoddau

Gall pawb gymryd rhan – ac mae digon o adnoddau am ddim ar gael i gynnal eich gweithgaredd tyfu nesaf yn llwyddiannus.

Lawrlwytho adnoddau

Digwyddiadau Diogel o ran Covid

I gael y canllawiau diweddaraf ar gynnal digwyddiad diogel o ran Covid, edrychwch ar yr adnodd hwn..

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth drwy ymweld â gwefan Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes.