Mynd i'r cynnwys

Amdanom Ni

Ein Gweledigaeth

Cyd-greu system fwyd i Gymru sydd o les i bobl ac i’r blaned

Ein Cenhadaeth

Mae Synnwyr Bwyd Cymru am ddylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru er mwyn sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus. 

Mwy amdanom ni a’n gwaith

Sefydlwyd Synnwyr Bwyd Cymru yn 2018 er mwyn datblygu ymagwedd traws-sector ar gyfer y system fwyd yng Nghymru.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda chymunedau, sefydliadau, llunwyr polisi a’r Llywodraeth ar draws Cymru i greu system bwyd a ffermio sydd o les i bobl ac i’r blaned. Rydym am ddylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus.

I gyflawni hyn, credwn y dylai’r amgylchedd, iechyd a lles, cyfiawnder cymdeithasol, a’r economi gael eu hintegreiddio ym mhob meddylfryd polisi yng Nghymru. Gellir cyflawni’r dull “bwyd ym mhob polisi” hwn drwy gyfrwng ymchwil, cydweithredu traws-sector a thrwy ysgogi dinasyddion a rhanddeiliaid fel rhan o “Fudiad Bwyd Da Cymru” gan gynyddu ymwybyddiaeth o faterion bwyd ac annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau’n ymwneud â bwyd.  Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn helpu i ddatblygu’r Mudiad Bwyd Da hwn trwy ddarparu a gweithredu nifer o raglenni sy’n gysylltiedig â bwyd ledled Cymru – llawer ohonynt fel rhan o bartneriaethau DU.

Yn gronfa o fewn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, fe gynhelir Synnwyr Bwyd Cymru gan dîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro.  Fe’n cefnogwn gan amrywiaeth o bartneriaid cyllido, gan gynnwys Sefydliad Esmée Fairbairn.

Gallwch ddysgu mwy am systemau bwyd drwy wylio’r ffilm fer isod:

Ein gwerthoedd

Drwy ein gweithgareddau a'n gwaith eirioli, mae Synnwyr Bwyd Cymru yn hyrwyddo:

Cydweithio

Meithrin perthynas waith a strategol gadarnhaol gyda chyfranogwyr ac asiantau eraill, yng Nghymru ac ar draws y DU, gan ein galluogi i helpu i lunio a chyd-greu system fwyd fwy cynaliadwy a llewyrchus i’n cenedl gan ddefnyddio dull cyfannol – gan ailadrodd pwysigrwydd ystyried y system fwyd fel un system gyfan.

Cynhwysiant

Dod â chymunedau o ddiddordeb ynghyd o bob rhan o Gymru; cael gwared ar rwystrau a stigma, a mynd ati i annog cyfranogiad yn ein prosiectau, ein rhaglenni a’n hymgyrchoedd.

Uniondeb

Hyrwyddo dyfodol teg, cyfiawn a llewyrchus i Gymru a’i phobl; yn benderfynol o sicrhau bod gan bawb o bob oed yng Nghymru fynediad urddasol at fwyd iach o safon.

Ystwythder

Bod yn ymatebol i newidiadau mewn cymdeithas yn ogystal ag unrhyw newidiadau i feysydd polisi y mae bwyd a systemau bwyd yn berthnasol iddynt; bod yn chwim ac yn barod i weithredu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Symbyliad

Ysbrydoli a dylanwadu ar bobl a chymunedau ar draws Cymru i ymgysylltu â bwyd; codi ymwybyddiaeth o faterion bwyd a hyrwyddo gweithgareddau arloesol sy’n gysylltiedig â bwyd i symbylu a thyfu Mudiad Bwyd Da yng Nghymru.

“Mae llawer i’w wneud, ond mae awydd anniwall hefyd gan y rhai sy’n gweithio yn system fwyd Cymru i yrru’r newid sydd ei angen ar ein cymunedau a’n planed. Fel tîm rydym yn teimlo’n freintiedig iawn i fod yn gweithio mewn gofod, yng Nghymru a gyda’n rhanddeiliaid yn y DU, lle mae cymaint o angerdd, egni a chymhelliant di-baid yn arwain at obaith a newid – waeth pa mor fawr yw’r her.”

Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen, Synnwyr Bwyd Cymru

Cwrdd â'r tîm

Grŵp Cynghori Synnwyr Bwyd Cymru

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda thîm o Gynghorwyr sy'n ein helpu i bennu ein cyfeiriad strategol ac edrych ar fodelau cyllido ar gyfer y dyfodol.  Mae'r Cynghorwyr i gyd yn arweinwyr yn eu meysydd gwaith ac yn darparu cyngor, cefnogaeth a chysylltiadau sy'n ein cynorthwyo gyda'n cenhadaeth i gyd-greu system fwyd i Gymru sydd o les i bobl ac i'r blaned.

Rhaglenni rydym yn eu darparu a'u cefnogi