Bwytewch y Llysiau i’w Llethu 2022 i redeg mewn ysgolion cynradd yng Nghymru

Bydd arian gan Lywodraeth Cymru’n sicrhau bod holl blant ysgolion cynradd Cymru’n gallu elwa o’r ymgyrch.

Mae’r ymgyrch gwobrwyedig ‘Bwytewch y Llysiau i’w Llethu’ i gael plant i fwyta mwy o lysiau, yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn yn Chwefror 2022. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r ymgyrch drwy ariannu rhaglen ddwyieithog i holl ysgolion cynradd ac arbennig Cymru, fydd yn cyrraedd hyd at 275,000 o blant, allan o gyfanswm o 1m ar draws y DU.

Ar hyn o bryd nid yw lefelau bwyta llysiau yn y DU yn cyrraedd argymhellion y llywodraeth. Yn ôl yr Arolwg Diet a Maeth Cenedlaethol, mae bron i draean (29%) o blant cynradd yn bwyta llai nag un gyfran o lysiau’r dydd. Yn ôl data arolwg diweddar gan Veg Power, mae 49% o blant Cymru eisiau bwyta mwy o lysiau gyda 43% yn honni bod eu rhieni’n cael trafferth eu cael i fwyta mwy o lysiau. 

Ymgyrch gan gwmni CIC Veg Power, ITV, Channel 4 a Sky Media yw Bwytewch y Llysiau i’w Llethu. Mae ei ddull o ysbrydoli plant i fwyta mwy o lysiau’n cyfuno pŵer hysbysebu gyda rhaglen ysgolion. Daw ag ymdrech ar-y-cyd anferth o hysbysebu ar y teledu, selebs, uwchfarchnadoedd, cogyddion, ysgolion, cymunedau a theuluoedd. 

Bydd Bwytewch y Llysiau i’w Llethu 2022 yn dychwelyd fel rhaglen dros bump wythnos o’r 28 Chwefror tan 1 Ebrill, unwaith eto wedi’i chefnogi gan ymgyrch hysbysebu £3m a noddir gan ITV, Channel 4, Sky Media a gyda chymorth gan Aldi, ASDA, Coop, Dole, Lidl, Sainsburys, Tesco a Waitrose. Bydd y rhaglen ysgolion yn lansio’n fuan ar ôl dechrau darlledu’r hysbysebion, yn ystod slotiau gwylio teuluol amser brig, gan redeg am bump wythnos, gyda gwahanol hoff lysieuyn bob wythnos. Y llynedd ar draws y DU, cyrhaeddodd yr ymgyrch 468,000 o blant o 1,800 o ysgolion cynradd ac ers ei lansio yn Chwefror 2019 mae 517m yn fwy o gyfrannau llysiau plant wedi cael eu gwerthu. 

“Rydym wrth ein boddhau fod Llywodraeth Cymru’n ariannu Bwytewch y Llysiau i’w Llethu 2022 fel bod holl blant cynradd Cymru’n gallu elwa o’n rhaglen ar gyfer ysgolion. Ar ôl ein gwerthusiad o ymgyrch 2021, dywedodd ychydig dros dri chwarter (77%) o blant ei fod yn brofiad hwyl ond, yn anad dim, dywedodd bron i 60% eu bod yn bwyta mwy o lysiau o ganlyniad. Rydym ar darged eleni i gyrraedd bron i 1m o blant ar draws y DU ac yn teimlo’n gyffrous iawn am effaith barhaus yr ymgyrch ar ddiet ein plant, ar hyn o bryd ac yn y tymor hir”, meddai Dan Parker, Prif Weithredwr Veg Power.

Meddai Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “Mae lleoliadau addysg yn rhan allweddol o’n strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach i leihau ac atal gordewdra. Mae’n hanfodol i ni helpu ein plant i ddeall pwysigrwydd bwyta bwydydd iach a’i wneud yn hwyl. Dyna pam ein bod yn cefnogi’r prosiect hwn drwy helpu i ddosbarthu pecynnau ymgyrch ddwyieithog i ysgolion cynradd ac uwchradd drwy Gymru gan annog plant a’u teuluoedd i fwyta mwy o lysiau a pharatoi prydau bwyd maethlon a llawn llysiau.”

“Gwyddom fod plant wedi bwyta llai fyth o lysiau yn ystod y pandemig felly mae rhaglenni fel Bwytewch y Llysiau i’w Llethu yn ffordd wych o hyrwyddo llysiau mewn ffordd hwyliog a chynhwysol”, meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglenni yn Synnwyr Bwyd Cymru ac aelod o fwrdd Veg Power.  “Dangosodd astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd fod plant 10 ac 11 oed a holwyd yn “llai iach ar y cyfan” yn ystod y pandemig nag yn y blynyddoedd blaenorol, gyda chanran y plant oedd yn bwyta cyfrannau llysiau dyddiol i lawr o 52% yn 2019 i 41% yn 2021. Mae Bwytewch y Llysiau i’w Llethu yn cynnig ffordd o apelio a rhyngweithio gyda phlant a hybu llysiau mewn ffordd ddifyr. Rwyf mor falch bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r rhaglen yng Nghymru gan sicrhau bod gan bob ysgol gynradd gyfle i gymryd rhan.”

“Ni fu erioed mor bwysig sicrhau bod ein plant yn bwyta’n dda, a’r ffordd orau o wneud hynny yw ei wneud yn hwyl. Mae Bwytewch y Llysiau i’w Llethu wedi’i brofi i fod yn ffordd hynod effeithiol o newid dewisiadau bwyta plant ac mae ITV yn falch unwaith eto o’i gefnogi,” meddai Susie Braun, Cyfarwyddwr Pwrpas Cymdeithasol ITV.

Nodiadau i’r Golygydd 

Amdan Bwrpas Cymdeithasol ITV

Nod Pwrpas Cymdeithasol ITV yw defnyddio’r pŵer sydd gan ITV i ddylanwadu er gwell ar ddiwylliant drwy ddefnyddio creadigrwydd ac ehangder y dylanwad hwnnw i ysbrydoli newid da yn y byd, ac i feithrin amgylchedd gwaith cyfrifol a chynhwysol. Mae Pwrpas Cymdeithasol ITV yn cwmpasu pedair blaenoriaeth – iechyd gwell, amrywiaeth a chynhwysiant, gweithredu ar yr hinsawdd, a rhoi’n ôl – pob un ag amcanion mesuradwy eu hunain.

Yn 2019, lansiodd ITV, Channel 4 a Sky ymrwymiad £10m dros dair blynedd i gefnogi bwyta’n iach a ffordd egnïol o fyw i blant y Deyrnas Unedig.

https://www.itvplc.com/socialpurpose/overview

Amdan Veg Power

Cafodd Veg Power, Cwmni Buddiannau Cymunedol di-wneud-elw, ei sefydlu gan y Sefydliad Bwyd, Hugh Fearnley-Whittingstall, Syr John Hegarty a’r Farwnes Boycott i weddnewid faint o lysiau sy’n cael eu bwyta yn y DU. Mae’n rhedeg nifer o brosiectau creadigol i ennyn diddordeb, ysbrydoli ac ysgogi pobl i fwyta mwy o lysiau a chreu arferion bwyta da gydol oes. 

vegpower.org.uk