Ymgynghoriad ar y Bil Bwyd (Cymru) drafft

Ddoe, (18 Gorffennaf 2022), lansiodd Peter Fox AS ymgynghoriad ar y Bil Bwyd (Cymru) drafft, gan wahodd pobl i roi eu barn ynghylch sut y cafodd y gyfraith arfaethedig ei drafftio. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Gwener, Medi 16eg 2022.

Diben y Bil Bwyd (Cymru) drafft yw sefydlu system fwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru i wella diogeledd bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru a chynnig mwy o ddewis i ddefnyddwyr. Yn ogystal, bydd y Bil yn ceisio darparu fframwaith a fydd yn galluogi dull trawslywodraethol sy’n gydlynol, yn gyson ac yn strategol, ar gyfer ymdrin â pholisi ac ymarfer ar bob agwedd ar y system fwyd.

Enillodd cynnig a gyflwynwyd gan Peter Fox AS i gyflwyno Bil Bwyd (Cymru) newydd gefnogaeth y Senedd ym mis Tachwedd 2021.Dewiswyd y Bil yn y Balot Bil Aelodau cynta’r Chweched Senedd ym mis Medi, proses sy’n rhoi cyfle i Aelod o’r Senedd (ac eithrio Gweinidogion y Llywodraeth) gyflwyno cynnig ar gyfer deddfwriaeth newydd maen nhw’n dymuno ei gweld.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Bil Bwyd (Cymru) drafft ac ar yr amcanion polisi y mae’r Bil drafft yn ceisio eu cyflawni.

 Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn annog pobl sydd â diddordeb neu’n ymwneud â bwyd yng Nghymru a thu hwnt i ddweud eu dweud fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Mae system fwyd wydn, gynaliadwy ac iach yn hanfodol ar gyfer ffyniant cymdeithasol ac economaidd Cymru yn ogystal â chyflawni ymrwymiadau Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Gallai Bil Bwyd (Cymru) drafft roi’r cyfle delfrydol i Gymru integreiddio polisi bwyd ar draws pob maes llywodraeth ar y cyd ag ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru – gan gynnwys iechyd, addysg, newid hinsawdd, bioamrywiaeth a’r economi. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gyffrous i weld sut y bydd y bil drafft hwn yn datblygu ac edrychai ymlaen at dynnu sylw at wybodaeth a phrofiad y rhai sydd eisoes yn gweithio o fewn system fwyd Cymru i helpu i lywio a datblygu dull ystyrlon ac effeithiol. Mae Synnwr Bwyd Cymru yn annog partneriaid a rhanddeiliaid i wneud yr un peth.

Yfory (Gorffennaf 20fed), bydd Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru yn siarad yn Niwrnod Dathlu a Gweithredu Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn San Steffan – digwyddiad sy’n cael ei drefnu i dynnu sylw at waith partneriaethau bwyd gan alw am un bil bwyd ar gyfer pob cenedl, un cynllun bwyd a phartneriaeth ym mhob ardal leol. Bydd Katie yno’n siarad am y datblygiadau yng Nghymru ac yn annog mynychwyr sy’n cynrychioli Cymru i gyfrannu at yr ymgynghoriad.

Mae’n bosibl y caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, staff cymorth yr Aelodau a staff Comisiwn y Senedd, at ddibenion datblygu’r Bil Aelod, hybu’r effaith y bwriedir i’r Bil ei chael, a gwaith craffu dilynol ar y Bil.

I gael y manylion llawn, gweler y Nodyn Preifatrwydd ynghylch Biliau Aelod cyn cyflwyno gwybodaeth.

Dogfennau ategol

Gwybodaeth gefndir i’r ymgynghoriad

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Ymgynghoriad – Biliau Aelod
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Ebost: BiliauAelod@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565