Tyfu’r Sector Garddwriaeth yng Ngogledd Cymru drwy gydweithrediad
Mae pedair Partneriaeth Bwyd Lleol yng Ngogledd Cymru – Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych (COGOG) – wedi dod at ei gilydd i ddatblygu dull cydgysylltiedig i dyfu’r sector garddwriaeth ledled y rhanbarth.
Wrth galon y fenter hon mae cylch peiriannau a grëwyd ar gyfer tyfwyr a ffermwyr bach ledled Gogledd Cymru. Drwy ddarparu mynediad at gyfarpar arbenigol sy’n aml yn gostus neu’n anodd i dyfwyr unigol gael gafael arnynt, bydd y cylch peiriannau yn galluogi ffermwyr i dreialu a defnyddio technolegau newydd a allai eu helpu i arallgyfeirio, cynyddu eu cynhyrchiant, a chael mynediad at farchnadoedd newydd – gan gynnwys caffael cyhoeddus.
Mae’r prosiect hwn yn un o ddwy fenter fawr yng Nghymru sy’n cael eu hariannu drwy Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o ddarparu prosiectau bwyd sy’n ymateb i’r
gymuned i fynd i’r afael ag anghenion lleol.
Creu sylfaen cydweithredol
Caiff y prosiect ei arwain gan David Wylie, Rheolwr Bwyd Menter Môn, sy’n goruchwylio Partneriaethau Bwyd Gwynedd ac Ynys Môn. “Mae cydweithio gyda Phartneriaethau Bwyd ar hyd a lled Gogledd Cymru wedi bod yn hollbwysig wrth ddatblygu’r dull gweithredu hwn,” meddai David. “Mae mewnbwn gan awdurdodau lleol a chydlynwyr partneriaethau bwyd wedi helpu i greu prosiect sy’n targedu tyfwyr ledled y rhanbarth. Mae gan bob partneriaeth gydlynydd sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â ffermwyr a thyfwyr i ganfod cyfarpar na fyddent yn gallu eu fforddio neu gael mynediad iddynt fel arall. Y weledigaeth yw y bydd y cylch peiriannau yn prynu’r eitemau hynny ac yn sicrhau eu bod ar gael i bawb.”
Roedd y trafodaethau cynnar yn canolbwyntio ar sut y gallai tyfwyr gynyddu eu cynhyrchiant i ddiwallu’r galw lleol. Er bod yr uchelgeisiau hirdymor yn cynnwys buddsoddi mewn oeryddion a seilwaith storio oer, dywedodd David fod angen i’r rhanbarth gynyddu’r swm o gynnyrch sy’n cael ei dyfu’n lleol i ddechrau.
“Bu’n rhaid i ni gymryd cam yn ôl a gofyn: sut allwn ni gefnogi tyfwyr i gynyddu eu cynhyrchiant? Mae’r cylch peiriannau yn fan cychwyn hollbwysig.” Ychwanegodd bod awdurdodau lleol yn fwyfwy awyddus i gaffael mwy o ffrwythau a llysiau o Gymru ar gyfer eu bwydlenni — galw sydd wedi cynyddu yn sgil y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion.
Cefnogi tyfwyr i ehangu ac arallgyfeirio
Mae’r Ymgynghorydd Garddwriaeth Debbie Hadley wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r partneriaethau bwyd i greu’r cylch peiriannau ac ymgysylltu â thyfwyr ar draws y rhanbarth.
“Fy rôl i yw dod â thyfwyr at ei gilydd — darganfod tyfwyr newydd a’u cynorthwyo i gyrraedd pwynt lle y gallant gyfrannu a chyflenwi cytundebau caffael cyhoeddus,” meddai Debbie. “Gallai hynny olygu hyfforddiant, help i droi’n organig, neu gymorth i gyflawni safonau cyflenwyr. Gan weithio gyda Lantra, rydym yn ceisio paratoi tyfwyr ar gyfer cyfleoedd newydd, ac yna bydd y cylch peiriannau yn eu helpu i gael mynediad at farchnadoedd newydd neu arallgyfeirio i arddwriaeth.”
Dywedodd Debbie mai mentrau bach a chanolig eu maint yw’r mwyafrif o fentrau garddwriaeth yng Ngogledd Cymru. “Nid oes llawer o dyfwyr mawr yn y rhanbarth, felly y gobaith yw y bydd y prosiect yn helpu ffermydd bach i dyfu eu busnesau a chael mynediad at gyfleoedd newydd.”
Tyfwyr yn croesawu’r cyfleoedd i ddod
Mae dau dyfwr o Ogledd Cymru — Claire Crook o Dyddyn Teg a Paul Gordon-Roberts o Gwmni Buddiant Cymunedol Growing for Change — yn obeithiol ynglŷn â’r effaith y bydd
y cylch peiriannau yn ei chael.
Tyddyn Teg
Wedi’i lleoli ar odre’r Wyddfa, mae Tyddyn Teg yn fferm 30 erw sy’n newid i statws organig ar hyn o bryd. “Rwy’n credu bod y cylch peiriannau yn ddatblygiad cyffrous, yn arbennig ar gyfer
garddwriaeth yng Nghymru, ond yn benodol yng Ngogledd Cymru. Rwy’n credu bod adnoddau yn brin iawn i ni fel sector. Ac mae cael mynediad i’r cylch peiriannau yn golygu y gall tyfwyr llai ddechrau cynyddu eu cynhyrchiant. Gallant roi cynnig ar ddefnyddio peiriannau nad ydynt ar gael iddyn nhw fel arall. Hoffwn weld y sector garddwriaeth yn ehangu’n sylweddol yn yr ardal hon, a hoffwn weld mwy o ffermydd bach a chanolig eu maint yn tyfu llawer o lysiau sy’n cael eu gwerthu’n lleol, a chael eu gwerthu yn yr archfarchnadoedd hyd yn oed.”
Cwmni Buddiant Cymunedol Growing for Change
Wedi’i lleoli ar Fferm Moelyci y tu allan i Fangor, mae Growing for Change yn Ardd Farchnad Organig sy’n cefnogi pobl sydd wedi rhoi’r gorau i gamddefnyddio sylweddau. “Rydym yn tyfu cnydau gwerth uchel mewn ardal fach ac rydym eisoes yn cyflenwi bwytai lleol, ond rydym yn awyddus i gynyddu ein cynhyrchiant a chyflenwi ysgolion lleol a’r sector cyhoeddus. Hoffem i fwyd organig, maethlon sy’n ddwys o ran maetholion fod ar gael i bawb.”
Wrth drafod y cylch peiriannau, dywedodd, “Mae’n syniad gwych. Rydym wedi gorfod prynu rhai darnau drud o offer ac ond wedi’u defnyddio am wythnos neu ddwy y flwyddyn. Felly, pe gallem rannu hynny’n deg, byddai’n gwneud llawer mwy o synnwyr yn economaidd. Mae’n golygu y gellir lleihau’r costau afresymol sy’n gysylltiedig â dechrau ffermio yn aruthrol.”
Cydlynu lleol ac effaith gymunedol
Mae Aled Pritchard, Cydlynydd Partneriaeth Bwyd Gwynedd, yn ystyried mai ei rôl yw sicrhau bod y prosiect yn diwallu anghenion tyfwyr. “Fy rôl i yw rhannu gwybodaeth am y cylch peiriannau a sicrhau bod y prosiect wedi’i seilio ar yr heriau a’r cyfleoedd yng Ngwynedd. Mae tyfu yn fater cymhleth — mae cael y cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd heb risg ariannol yn amhrisiadwy. Mae’n annog ffermwyr a thyfwyr i arbrofi; i ddysgu a rhannu gwybodaeth gyda’r gymuned wych o dyfwyr sydd gennym yma yng Ngwynedd.”
Mae Nikki Jones o Bartneriaeth Bwyd Sir Ddinbych, COGOG, yn pwysleisio gwerth cydweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol. “Rydym yn gweithio’n rhanbarthol nawr….rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud ers dechrau’r bartneriaeth fwyd yn Sir Ddinbych – gweithio ar draws ffiniau siroedd. Rwy’n teimlo y bydd y prosiect cylch peiriannau yn hynod gadarnhaol i dyfwyr oherwydd ei fod yn rhywbeth nad yw wedi bod ar gael iddyn nhw yn Ninbych o’r blaen.”
Mae Liz Gordon, cydlynydd Partneriaeth Bwyd Conwy, yn adleisio’r brwdfrydedd hwn: “Bydd ein prosiect cydweithredol yn wirioneddol bwysig i Gonwy ….. bydd yn ein helpu i ymgysylltu â thyfwyr yn yr ardal, rhywbeth nad ydym wedi gallu ei wneud llawer eto fel partneriaeth fwyd. Bydd yn agor drysau i ni gyfathrebu â’r tyfwyr lleol hynny, a bydd yn dda gweld rhai llysiau lleol o Gonwy yn mynd i ysgolion Conwy.”
Cam tuag at system fwyd ranbarthol fwy gwydn
Mae Prosiect Cydweithredol Gogledd Cymru yn gwneud gwaith paratoadol hanfodol ar gyfer sector garddwriaeth cryfach, mwy gwydn. Drwy alluogi tyfwyr i gael mynediad at offer, cynyddu cynhyrchiant ac ymuno â marchnadoedd newydd, gan gynnwys caffael cyhoeddus, mae’r prosiect yn helpu i greu system fwyd sy’n creu budd i ffermwyr, cymunedau a sefydliadau cyhoeddus ar draws y rhanbarth. Mae’n esiampl glir ac ymarferol o sut gall prosiectau cydweithredol lleol, buddsoddiad strategol ac arloesedd cymunedol ail-siapio dyfodol bwyd Cymru.
Gwyliwch y ffilm sy’n cyfynd gyda’r prosiect isod: