Partneriaeth Bwyd RhCT: Cysylltu Cymunedau drwy fwyd da
Partneriaeth Bwyd RhCT: Cysylltu cymunedau drwy fwyd da
Mae Partneriaeth Bwyd RhCT yn rhwydwaith sydd wedi ennill sawl gwobr ac mae’n cynnwys sefydliadau, grwpiau cymunedol, busnesau bwyd a chyrff cyhoeddus wedi’u huno gan weledigaeth gyffredin: sicrhau bod pawb yn Rhondda Cynon Taf yn gallu cael mynediad at fwyd iach, fforddiadwy sydd o les i bobl ac i’r blaned.
Wedi’i chynnal o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae’r bartneriaeth, a gafodd Wobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar, wedi tyfu i fod yn fudiad dynamig ar draws y sir sy’n cysylltu sefydliadau lleol, yn rhannu arferion gorau, yn cyfeirio at gyfleoedd cyllido ac yn cefnogi camau gweithredu wedi’u harwain gan y gymuned. Mae ei chyfarfodydd rhwydwaith chwarterol a’i his-grwpiau o Dyfwyr a Phantris arbenigol yn dod â phobl at ei gilydd i drafod heriau cyffredin a chyd-uchelgeisiau.
Agwedd gydweithredol at fwyd da
Mae Cydlynydd y Bartneriaeth, Rhiannon Edwards, yn disgrifio’r rhwydwaith fel “grŵp o sefydliadau, unigolion, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi dod at ei gilydd i i wneud RhCT yn lle mwyaf cynaliadwy bosibl o ran bwyd. Mae llawer o wahanol bobl a sefydliadau yn cymryd rhan…yn gwneud pethau gwych ledled y sir.” Mae’r ethos cydweithredol hwn i’w weld ym mhob prosiect a gefnogir gan y bartneriaeth. Yn hytrach na gorfodi atebion, mae’n cryfhau’r hyn sy’n bodoli eisoes, gan alluogi cymunedau i ddylunio’r newidiadau y maent am eu gweld.
Cynon Valley Organic Adventures: tyfu sgiliau, hyder a chymuned
Mae Cynon Valley Organic Adventures yn gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt bob amser yn ffynnu mewn addysg prif ffrwd. Drwy leoliadau tymor hir, maen nhw’n cael profiad ymarferol o dyfu bwyd, cymwysterau a sgiliau trosglwyddadwy. Ond mae’r effaith i’w gweld ymhell y tu hwnt i gyflogadwyedd.
Fel yr esbonia Janis Werrett, sy’n helpu i redeg y prosiect: “Rydym yn dod â phobl ifanc i mewn nad ydyn nhw’n ffitio i mewn i addysg brif ffrwd. Maen nhw’n dysgu sut i dyfu bwyd, ennill cymwysterau, ac rydym yn eu cefnogi i gymryd y camau nesaf.”
Mae un cyfranogwr ifanc, Emily, yn disgrifio’r effaith: “Mae’n llawer o hwyl yma oherwydd mae’n heddychlon iawn ac mae’n eich helpu’n fawr. Mae wir yn helpu pobl i fynd allan a chael rheswm i godi o’r gwely yn y bore.”
Mae’r prosiect yn datblygu cyflogadwyedd a hyder, yn ogystal â thyfu bwyd ar gyfer y gymuned ehangach, gan helpu i atgyfnerthu gwydnwch lleol. “Mae gennym lefel ymgysylltiad cymunedol enfawr…mae’n ganolbwynt y gymuned i raddau helaeth. Ond gwelsom fod rhai diwylliannau yn amharod i ymgysylltu. Felly’r hyn rydym ni wedi’i wneud eleni yw gweithio ar dwnnel polythen amlddiwylliannol lle rydym yn annog pobl o wahanol ddiwylliannau i ddod i mewn i rannu ryseitiau gyda ni, i goginio gyda ni a’n dysgu ni am y bwydydd y bydden nhw’n eu coginio. Rydym yn tyfu bwyd o bob cwr o’r byd hefyd.”
Meddai Janis, “Mae’r bartneriaeth fwyd wedi dod â ni i gyd at ein gilydd. Rydym i gyd yn gwneud pethau tebyg, ond pan fyddwn i gyd yn dod at ein gilydd yn rheolaidd ac ar gyfer y cyfarfodydd hynny, mae’n rhoi cyfle i ni rannu gwybodaeth, rhannu adnoddau.”
Down to Zero: Cynnyrch lleol ffres ar garreg y drws
Wedi’i lleoli ym Mwyndy ger Tonysguboriau, mae Down to Zero yn gymdeithas budd cymunedol ac yn fenter gymdeithasol. Yn is-gwmni o grŵp Tai Cymunedol, mae’n helpu tenantiaid, staff a’r gymuned yn ehangach i wella eu mynediad at fwyd tymhorol, lleol, iach ac yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli; datblygu sgiliau a gwybodaeth, yn ogystal â chynnal cynllun bocs llysiau. “Er bod rhan fawr o’r hyn a wnawn yma yn helpu i gau’r bwlch sgiliau a rhoi sgiliau tyfu gwyrdd i bobl, y rhan arall yw ein bod eisiau i hyn fod yn rhan o’r datrysiad ar gyfer darparu’r cynnyrch hwnnw hefyd,” meddai Holly Cookston-Williams, yr arweinydd Bwyd Natur yn Down to Zero.
“Mae gennym ddau safle amaethyddol, un ym Mhont-y-clun ac un yn Aberpennar ac rydym yn rhedeg gwasanaeth tanysgrifiad llysiau hefyd o’r enw’r Llysh Bocs,” esboniodd Holly. Mae’r cynllun Llysh Bocs yn cael ei gydlynu gan Kevin Edwards, sy’n tyfu, yn pacio ac yn dosbarthu bocsys llysiau mewn fan drydan ledled RhCT. “Rwy’n hoffi gweithio yn yr awyr agored. Rwy’n hoffi tyfu. Rwy’n hoffi gweld y llysiau’n cael eu cynhyrchu — y Llysh Bocs yw fy nghynllun bach i. Rydw i’n teimlo’n angerddol amdano.”
Wrth drafod bod yn rhan o’r bartneriaeth bwyd, ychwanega Holly “Mae gweithio gyda phobl eraill wedi bod yn ysbrydoledig iawn. A’n bod i gyd yn gweithio tuag at yr un achos. Rwy’n credu nad ydym yn gwybod llawer weithiau yn unigol, ond gyda’n gilydd, rydym yn gwybod cryn dipyn…gallwn weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ateb.”
Menter Treherbert: Mynediad at fwyd wedi’i lywio gan leisiau lleol
Yn Nhreherbert, mae’r bartneriaeth wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o ddatblygu ymateb wedi’i arwain gan y gymuned i heriau mynediad at fwyd. Datgelodd sgyrsiau gyda thrigolion argaeledd cyfyngedig cynnyrch ffres a’r anhawster o gael mynediad at ffrwythau a llysiau fforddiadwy.
Esboniodd Rachel Reed, Ymarferydd Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a fu’n rhan o’r fenter, sut y crëwyd y prosiect: “Roedd y practis meddygol lleol eisiau edrych ar Dreherbert i geisio canfod beth y gallai ei wneud i wella iechyd a llesiant yn yr ardal. Fel y gwyddom, mae cyfraddau uchel o glefydau cronig, gordewdra, pwysedd gwaed uchel – ac roedd y feddygfa wir eisiau gwneud rhywbeth ar gyfer yr ardal. Felly, fe wnaethom ddechrau drwy siarad â phobl yn y gymuned gan gynnwys sefydliadau lleol, ysgolion, grwpiau ac yn y blaen, a
gofyn iddyn nhw beth fyddai’n eu helpu i fyw bywydau hir ac iach.”
Aeth Rachel ymlaen i ddatgan pa mor bwysig fu’r bartneriaeth fwyd i lwyddiant y gwaith hwn. “Mae’r bartneriaeth fwyd yn hanfodol…..hebddi, byddwn yn mynd o gwmpas y lle ac ni fyddem yn gallu cynnig y ffrwythau a’r llysiau cost isel i’r trigolion yma….mae’n hollbwysig. Mae’n alluogwr.”
Y prif gais gan yr holl drigolion oedd mynediad gwell at fwyd fforddiadwy, o ansawdd da felly penderfynodd y Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol, mewn cydweithrediad â’r bartneriaeth fwyd a’r grŵp lleol, Grow Rhondda, sefydlu marchnad ffrwythau a llysiau newydd yng nghaffi Grow Rhondda.
Mae’r trefnydd lleol David Harris yn disgrifio ei heffaith: “Mae’n gallu bod yn brysur iawn. Mae pobl o’r gymuned yn cael eu gwahodd i mewn, a gallant gael gafael ar ffrwythau a llysiau ffres am bris cost-effeithiol. Mae pobl yn gorfod teithio allan o’r ardal i brynu bwyd ffres…rydym yn dod â’r bwyd yn uniongyrchol i mewn i’r gymuned – nid oes unrhyw beth yn costio mwy na £1.50.”
Mae’r nod yn syml: lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy sicrhau bod bwyd yn hygyrch a fforddiadwy.
Mae Claire Turbutt, yr Arweinydd Systemau ar gyfer Pwysau Iach ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn pwysleisio’r dull gweithredu wedi’i arwain gan y gymuned: “Yr hyn sy’n wahanol yw bod hyn yn ymateb i’r hyn mae’r gymuned wedi’i ddweud wrthym. Nid yw’n fenter o’r brig i’r bôn – rydym yn mynd â’r bwyd at y bobl, a chynllunio o gwmpas yr hyn rydym yn ei
glywed. Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw edrych ar brif achosion y problemau a welwn yn ein cymunedau…mae pobl wedi dweud wrthym eu bod yn cael anhawster i gael gafael ar ffrwythau a llysiau felly rydym yn ceisio canfod beth yw’r rhesymau sylfaenol dros hynny.”
Mae Claire yn mynd ymlaen i gydnabod brwdfrydedd y partneriaethau bwyd y mae hi’n gweithio gyda nhw. “Mae’r partneriaethau’n llawn o bobl sydd wir eisiau ei wneud yn lle gwell i fyw, a’i gwneud yn haws i’n poblogaeth fagu eu plant i fod â phwysau iach a byw bywydau iach, a chael y bywydau hir, hwyliog a llwyddiannus hynny. Drwy’r partneriaethau bwyd, mae gennym gyfle i wneud mwy ar gyfer y genhedlaeth nesaf – i greu amgylchedd lle y bydd pobl yn tyfu i fyny, yn byw yma ac yn hapus ac yn iach.”
Dod ynghyd o amgylch bwyd
Mae Partneriaeth Bwyd RhCT yn dangos beth sy’n digwydd pan fydd cymunedau, tyfwyr, sefydliadau a chyrff cyhoeddus yn dod ynghyd o amgylch un nod cyffredin, sef sicrhau bwyd da i bawb. Drwy ddylunio dan arweiniad y gymuned, prosiectau tyfu cynhwysol, a mentrau bwyd hygyrch, mae’r bartneriaeth yn creu system fwyd gynaliadwy sy’n fwy gwydn, teg, a chysylltiedig – un sy’n seiliedig ar bobl a lle.
“Mae’r gwaith yn Nhreherbert, Mwyndy, ac Abercynon yn bocedi o wychder,” ychwanega Rhiannon Edwards. “Yr her gyffrous ond heriol nesaf yw cael pawb i barhau i gydweithio i greu newid i’r amgylchedd bwyd, i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at y bwyd maen nhw ei eisiau. Mae’n golygu adeiladu ar yr hyn mae cymunedau ar draws RhCT ei eisiau gan y bartneriaeth fwyd a chreu ymdeimlad o berthyn. Bwyd yw’r ffordd orau o ddod â phobl at ei gilydd….does dim byd gwell na siarad am fwyd.”
Gwyliwch y ffilm sy’n cydfynd gyda’r stori isod: