Mynd i'r cynnwys

Partneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro: Cysylltu’r dotiau

Cysylltu’r Dotiau: Sut mae Partneriaeth Bwyd Sir Benfro yn creu system bwyd lleol lewyrchus

Mae Partneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro yn dod â phobl, cynhyrchwyr a sefydliadau ynghyd i gryfhau’r system fwyd leol. Wedi’i chynnal gan Blaned, nod yw sicrhau bod bwyd ar gael a’i fod yn fforddiadwy, ac mae’n dathlu bwyd ledled y sir, yn cefnogi cymunedau, yn annog tyfwyr lleol ac yn meithrin diwylliant bwyd llewyrchus.

Drwy gysylltu syniadau, prosiectau a phobl, mae’r bartneriaeth yn helpu i greu amgylchedd bwyd mwy cynaliadwy a ffyniannus i’r sir gyfan.

Cysylltu bwyd a chymunedau ledled Sir Benfro
I Sue Latham, Cydlynydd Partneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro, cydweithrediad yw sail y gwaith. Fel yr esbonia, “mae’n rhoi trosolwg o fwyd ledled y sir – o sefydliadau cymunedol i gynhyrchwyr masnachol i grwpiau, yn ogystal ag unigolion sydd â diddordeb mewn bwyd.  Mae’n golygu cysylltu’r dotiau rhwng bwyd ar draws y sir i’w wneud yn fwy cynaliadwy ac i greu amgylchedd bwyd ffyniannus i bawb.”

Mae rôl Sue yn galluogi unigolion a grwpiau a fyddai’n gweithio ar eu pen eu hunain fel arall, i gysylltu, cydweithio a rhannu gwybodaeth mewn ffyrdd sy’n cryfhau gwydnwch bwyd cyffredinol y sir.

Cilrath Acres: Tyfu bwyd, gwella sgiliau a datblygu cymunedau cryfach
Yn Arberth, mae prosiect tyfu o’r enw Cilrath Acres yn cyfrannu cynnyrch ffres yn uniongyrchol i fanc bwyd y dref, wrth greu cysylltiadau ystyrlon yr un pryd ymhlith gwirfoddolwyr. Fel yr esbonia Dina o’r prosiect, “Mae gennym tua 65 o welyau tyfu a thwnnel polythen lle rydym yn tyfu llawer o salad gaeaf a sibols. Y tu allan, mae gennym berllan fach a gwelyau sy’n llawn tatws a chnydau bresych. Rydym bob amser yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd…arbrofi wrth dyfu llawer o fwyd blasus.”

Mae Karen, Cydlynydd Gwirfoddolwyr, yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltiad cymunedol. “Mae gennym tua 25 o wirfoddolwyr rheolaidd sy’n cymryd rhan ym mhob agwedd ar y gwaith tyfu.” Mae hefyd yn disgrifio sut mae’r prosiect yn cysylltu â rhwydwaith bwyd ehangach Sir Benfro. “Fe wnaethom gynnal digwyddiad i dyfwyr gyda’r bartneriaeth fwyd yn 2023 a daeth y gerddi cymunedol ar draws y sir at ei gilydd. Mae yna rwydwaith tyfu yn awr sy’n cael ei redeg o dan y bartneriaeth bwyd lleol ac rydym yn cynnal rhai o’u cyfarfodydd. Mae rhai o’r gerddi cymunedol eraill yn dod i’n gweithdai i ddysgu sgiliau newydd…..Rwy’n credu bod cryfder mewn niferoedd ac mae yna lawer o wybodaeth y gall pobl ei rhannu yn seiliedig ar eu profiad.”

PATCH Aberdaugleddau: Banc Bwyd a Hwb Cymunedol
Yn ystod ymweliad â PATCH yn Aberdaugleddau, rhannodd y Rheolwr Dave Golding wybodaeth am waith y sefydliad a’r realiti o ran cymorth bwyd yn Sir Benfro. “Banc bwyd ydyn ni’n bennaf, ond mae’n rhywbeth mwy cymunedol i mi. Rydym wedi’n lleoli yn Aberdaugleddau ac mae llawer o bobl yn ein hadnabod ni. Rydym yn y gymuned. Ar gyfer y gymuned. Mae llawer o bobl yn dod i mewn ac yn gweld ei fod yn lle diogel ac i lawr y grisiau, yn ein siop elusen, mae gennym oergell gymunedol sydd ar gael i unrhyw un, unrhyw aelod o’r cyhoedd.

Aiff Dave ymlaen i ddisgrifio sut mae’r bartneriaeth wedi cefnogi gwaith PATCH. “Rwy’n dweud hyn drwy’r amser wrth bobl yn y sector bwyd yn Sir Benfro…mae’r bartneriaeth bwyd yn wych! Gyda chymorth y bartneriaeth, fe wnaethom ddechrau cynllun bocsys llysiau ac mae wedi ein helpu i gael oergell gymunedol hefyd. Y peth gorau yw’r wybodaeth….. rhannu gwybodaeth, rhannu adnoddau, ac rwy’n credu bod y bobl hefyd, eu bod yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud.”

Eco Dewi a Hwb Bwyd y Penrhyn: Cysylltu pobl â chynhyrchwyr lleol
Menter gymdeithasol sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn Nhyddewi yw Eco Dewi, sydd hefyd wedi elwa ar y cymorth a’r cysylltedd a gynigir gan y bartneriaeth bwyd lleol yn Sir Benfro. Gan esbonio tarddiad eu Hwb Bwyd y Penrhyn, dywedodd Jeremy o Eco Dewi: “Mae i gyd yn ymwneud â chysylltu pobl leol â chynhyrchwyr bwyd lleol.  Gwneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol bod bwyd lleol gwych yn cael ei gynhyrchu yma, a gallu cysylltu’r ddau i helpu’r cynhyrchwyr lleol gyda’u gwerthiannau. Rydym yn fenter ddielw sy’n canolbwyntio ar brosiectau cymunedol ac
amgylcheddol ac mae’r cyfan mewn gwirionedd yn ymwneud â phobl leol yn datrys problemau lleol sy’n fuddiol i’r amgylchedd lleol.”

Aiff ymlaen i ddweud, “Mae gennym gyfanswm o 40 o gynhyrchwyr lleol, a Câr y Môr yw un o’r cynhyrchwyr anhygoel hyn. Maen nhw wedi’u lleoli yn Nhyddewi ei hun felly maen nhw’n un o’n cynhyrchwyr mwy lleol. Mae ein cwsmeriaid yn gefnogol iawn. Maen nhw’n caru’r ffaith bod y rhan fwyaf o’r cynnyrch yn dod o fewn 15 milltir iddynt ac mae awydd gwirioneddol i gefnogi busnesau lleol, a datblygu rhywfaint o wydnwch bwyd yn yr ardal.”

Dywedodd Meg o Câr y Môr, fferm wymon gyntaf Cymru, “Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl fwyta bwyd sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol yn eu hardal nhw. Mae bod yn rhan o Hwb Bwyd y Penrhyn wedi bod yn wych oherwydd y rhwydwaith hwnnw o gynhyrchwyr sydd wedi dod â ni i gyd at ein gilydd, ac mae’n golygu ei fod yn un peth llai i ni ei wneud oherwydd ei fod yn rhedeg ei hun ac mae’n dweud wrthym, rhestrwch eich cynhyrchion, bydd pobl yn dod ar-lein ac yn prynu’r cynhyrchion hynny. Mae’n helpu ein hamlygrwydd yn lleol. Mae bod yn rhan o Hwb Bwyd y Penrhyn wedi bod yn wych, ac mae’n ffordd hyfryd i bawb ddeall pwy sy’n cynhyrchu bwyd yn yr ardal, ac i’r cynhyrchwyr gael llwyfan.”

Mae Jeremy yn myfyrio ar y cymorth y mae Eco Dewi wedi’i gael gan y bartneriaeth: “Mae’r bartneriaeth bwyd lleol wedi bod yn wych, yn ein cefnogi fel sefydliad. Rwy’n credu ei bod yn wych gallu cydweithio gyda mwy o bobl sy’n gwneud pethau tebyg….a gwybod bod pobl eraill yn cael problemau tebyg, brwydrau tebyg, oherwydd nid yw’n hawdd. Mae cael sefydliad cyffredinol i’n cysylltu ni i gyd gyda’n gilydd, i rannu syniadau, a rhannu ychydig o gyllid, yn bendant yn helpu.”

Sir Benfro gryfach,fwy cysylltiedig
Ledled y sir, mae Partneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro yn cefnogi prosiectau uchelgeisiol, yn meithrin cynhyrchu bwyd yn lleol ac yn meithrin mwy o wydnwch cymunedol.  Boed hynny drwy gefnogi oergelloedd cymunedol, cysylltu prosiectau tyfu, cryfhau prosiectau cynhyrchu lleol neu helpu trigolion i gael mynediad at fwyd lleol ffres, mae’r bartneriaeth yn profi gwerth cydweithio.
Drwy “gysylltu’r dotiau,” mae’r bartneriaeth yn helpu Sir Benfro i ddatblygu system bwyd lleol sydd wedi’i diffinio gan angerdd a rennir, cymorth ymarferol ac ymrwymiad i sicrhau bwyd da i bawb.

Gwyliwch y ffilm sy’n cydfynd gyda’r stori isod: