Gall Gymru gael y system fwyd fwyaf diogel a chynaliadwy yn y byd

Mae angen Comisiwn System Fwyd i drawsnewid iechyd y cyhoedd, ffermio a’r amgylchedd yn ôl cynghrair polisi newydd.

Ddydd Iau, Rhagfyr 3ydd, bydd Cynghrair Polisi Bwyd Cymru – cyfuniad o sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n meithrin ac yn hyrwyddo gweledigaeth gyfunol ar gyfer system fwyd Cymru – yn cyflwyno ei Maniffesto i Grŵp Trawsbleidiol ar Fwyd, Senedd Cymru.

Bydd y cyflwyniad i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Fwyd yn dilyn dadl a gyflwynir gan Blaid Cymru ynghylch polisi bwyd cenedlaethol. Trafodir y ddadl yn ystod sesiwn lawn y Senedd ddydd Mercher, Rhagfyr 2il a bydd yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried rhai o’r blaenoriaethau a amlinellwyd gan y Gynghrair yn ei Maniffesto.

Yn ôl Cynghrair Polisi Bwyd Cymru, mae angen trawsnewidiad mawr ar Gymru yn ei system fwyd er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, adfer yr amgylchedd a datblygu ein heconomi wledig.

Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Gynghrair Polisi Bwyd Cymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i greu Comisiwn System Fwyd newydd a fydd yn mynd i’r afael ag ystod o faterion, gan gynnwys dirywiad bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd; problemau iechyd sy’n gysylltiedig â diet, ansicrwydd bwyd a dibyniaeth ar fanciau bwyd yn ogystal â’r caledi ariannol sy’n wynebu llawer sy’n cynhyrchu ac yn gweini ein bwyd.

Mae’r grŵp yn argymell y dylid creu’r Comisiwn o fewn blwyddyn i ethol y Senedd newydd yn 2021 gan edrych ar y chwe maes blaenoriaeth ganlynol:

  1. Bwyd i bawb: Cymru fydd y genedl gyntaf i ddileu’r angen ar gyfer banciau bwyd erbyn 2025. Bydd gan bawb yng Nghymru fynediad at y bwyd sydd ei angen arnynt mewn ffordd urddasol, er mwyn byw bywyd iach.
  2. Bwyd er budd iechyd y cyhoedd: Cynhyrchir 75% o’r llysiau a argymhellir gan Eatwell mewn ffordd gynaliadwy yng Nghymru ar gyfer Cymru erbyn 2030.
  3. System fwyd Sero Net: Datblygu cynllun erbyn 2022 i gyflenwi system fwyd sero net i sicrhau asesu a gweithredu camau cyflym ar gyfer Cymru. Y targed yw i Gymru gael System Fwyd Sero Net erbyn 2035.
  4. Ffermio er budd natur a’r hinsawdd: Llunio rhaglen fapio erbyn 2022 i fabwysiadu egwyddorion amaethecolegol ar draws yr holl system fwyd gan gynnwys 100% o gynhyrchiant amaethecolegol erbyn 2030 ar bob fferm, er mwyn atal a gwyrdroi’r natur a gollir ac i gynyddu cydnerthedd o safbwynt yr hinsawdd.
  5. Bwyd Môr Cynaliadwy: Gosod cyfyngiadau dalfeydd (heb unrhyw oedi pellach) sy’n galluogi adfer a chynnal stociau pysgod uwchben lefelau biomas sy’n arwain at Uchafswm Cnwd Cynaliadwy.
  6. Swyddi a bywoliaethau cynaliadwy yn y sector fwyd: Bydd pawb sy’n ennill bywoliaeth yn y system fwyd yn derbyn, neu’n gallu derbyn, o leiaf cyflog byw neu gyflog teg am eu gwaith. Bydd y gwaith, boed ar y tir neu’r môr, yn rhydd rhag arferion o gamddefnyddio, ac yn amrywiol, yn ddiddorol ac yn rymusol.

Dywedodd Katie Palmer, Rheolwr rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru ac aelod o Gynghrair Polisi Bwyd Cymru:

“Mae bwyd yn un o hanfodion sylfaenol bywyd, ac yn hollbwysig o ran cael bywyd da. Credwn y dylai pawb yng Nghymru gael mynediad ag urddas, i ddigon o fwyd maethlon, a gynhyrchir mewn ffordd gynaliadwy, trwy’r amser. Hefyd, dylwn fod yn gallu sicrhau incwm teg ar gyfer ffermwyr ac holl weithwyr y sector fwyd.

“Gyda phandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at fregusrwydd ein system fwyd presennol, dyma gyfnod hanfodol inni adeiladu ar gyfer y dyfodol.  Mae wedi tynnu sylw at y cysylltiad agos rhwng iechyd natur a dynoliaeth ar lefel fyd eang. Mae ailadeiladu system fwyd mwy cydnerth a chynaliadwy’n rhan hanfodol er mwyn atal argyfyngau yn y dyfodol, ac yn un o brif elfennau ein llwybr tuag at adferiad ‘gwyrdd a chyfiawn’,” atega Katie.

“Dyma gyfle euraidd i Gymru ddatblygu system fwyd sy’n deg, yn iach, yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus o ran yr economi.”

Ychwanegodd Rhys Evans, Swyddog Polisi RSPB Cymru a chyd-aelod o Gynghrair Polisi Bwyd Cymru:

“Gan ystyried bod dros 80% o Gymru’n cael ei ffermio, mae ein bwyd a’n ffermio yn allweddol i fynd i’r afael â’n colled o natur a newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â mynd i’r afael â materion cymdeithasol ac economaidd ehangach.

“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi amaethyddol a rheoli tir cynaliadwy blaengar sy’n helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn sbarduno adferiad natur. Dylai hwyluso dulliau amaeth-ecolegol natur-gyfeillgar a gwobrwyo ffermwyr yn llawn am y buddion y mae’r systemau hyn yn eu darparu e.e. atafaelu carbon, cynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt, peillwyr, ansawdd aer a dŵr – pob un ohonynt wrth gwrs yn cynnig seilwaith i ddiogelwch bwyd.

“Mae pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau cysylltiedig ar symudedd cyhoeddus hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y system fwyd i’n bywydau bob dydd, a’r breuder y mae wedi’i adeiladu ynddo ar hyn o bryd,” meddai Rhys.

“Mae angen dull arnom sy’n integreiddio cynhyrchu a bwyta yng Nghymru yn well, gan roi mwy o ffocws ar yr economïau sylfaenol a chylchol, ailgysylltu pobl â bwyd a gynhyrchir yn lleol a galluogi ymatebion a ddatblygwyd gan y gymuned a all siapio system fwyd gynaliadwy yn y pen draw.”

Mae’r system fwyd yng Nghymru yn cwmpasu’r holl actorion a chysylltiadau sy’n rhan o dyfu, cynhyrchu, gweithgynhyrchu, cyflenwi a defnyddio bwyd. Mae’n cynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, gweithgynhyrchu bwyd, manwerthu, gwasanaethau bwyd, defnydd a gwastraff. Mae’n cynnwys ysgogwyr cymdeithasol ac economaidd dewisiadau a dynameg o fewn y system, ac yn torri ar draws pob graddfa ac agwedd ar bolisi, gan gynnwys yr economi, yr amgylchedd, busnes, addysg, lles, iechyd, trafnidiaeth, masnachu, cynllunio a llywodraeth leol.

DIWEDD