Tocynnau ar werth aawr a rhaglen wedi’i vhyhoeddi ar gyfer Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2025

Mae tocynnau bellach ar gael ar gyfer Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru (CGFFfC), a gynhelir rhwng 18–20 Tachwedd 2025 ar Gampws Pencoed, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, De Cymru.

Ar Ddiwrnod Bwyd y Byd, mae CGFFfC yn falch o ddatgelu rhaglen eleni. Am y tro cyntaf, cynhelir y gynhadledd mewn partneriaeth â Synnwyr Bwyd Cymru, gan gyfuno dau ddigwyddiad blynyddol allweddol: CGFFfC a’r Gynhadledd Bwyd mewn Cymunedau. Adlewyrchir y bartneriaeth hon yn thema 2025: Cymunedau, Bwyd a Ffermio: Gweithio Gyda’n Gilydd.

Bydd y Gynhadledd yn agor yn swyddogol ddydd Mawrth 18 Tachwedd gyda phrif araith gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, gyda sylwadau pellach ddydd Mercher 19 Tachwedd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker.

Yn ei seithfed flwyddyn bellach, mae Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru (CGFFfC) wedi sefydlu ei hun fel llwyfan annibynnol i archwilio dyfodol bwyd a ffermio cynaliadwy yng Nghymru. Mae’r digwyddiad yn dod â llu o leisiau ynghyd — o ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a gweithwyr iechyd cyhoeddus, i addysgwyr, amgylcheddwyr ac eiriolwyr cymunedol — i rannu syniadau, ysbrydoli gweithredu, ac adeiladu system fwyd fwy gwydn a chyfiawn.

Mae’r rhaglen wedi’i llunio drwy alwad agored am gynigion sesiynau ac yn cynnwys cymysgedd amrywiol o drafodaethau panel, gweithdai, a sesiynau rhyngweithiol sy’n ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys manwerthu adfywiol, cefnogi a grymuso ffermwyr newydd mewn ffermio cynaliadwy, adeiladu cymunedau o fewn sectorau bwyd a ffermio, ymateb i’r chwyldro technolegol newydd fel mudiad, a llunio’r system fwyd yn y dyfodol.

Ar ddydd Iau 20 Tachwedd, bydd cyfle i’r mynychwyr gymryd rhan mewn ymweliadau â ffermydd, wedi’u trefnu gan Cyswllt Ffermio. Mae’r ymweliadau’n cynnwys teithiau i Fferm Slade, Coed Organig, a Fferm Forage, a gellir eu harchebu’n uniongyrchol drwy Cyswllt Ffermio.

Rydym yn ddiolchgar i noddwyr eleni, sy’n cynnwys: Synnwyr Bwyd Cymru, Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Ffermwyr a Thyfwyr Organig, Landworkers Alliance, Soil Association Wales, Miller Research (UK) Ltd, Ymddiriedolaeth Natur Cymru, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Cyswllt Ffermio, Cymru Wledig LPIP, Whole Health Agriculture, a’r Gynghrair Tyfwyr Organig.

Tocynnau ar gael nawr: https://buytickets.at/wrffc/1874659

Mae modd archebu y teithiau fferm yn uniongyrchol gyda Cyswllt Ffermio:

Slade Farm

Coed Organic

Forage

DIWEDD