Siân-Elin Davies
Ymunodd Siân-Elin â Synnwyr Bwyd Cymru ym mis Hydref 2020 fel Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Ar ôl gweithio ym meysydd Cyfathrebu, Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau am dros ugain mlynedd, yn fwyaf diweddar bu’n gweithio fel Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cyn ei hamser yn sector y Brifysgol, treuliodd Siân-Elin chwe blynedd fel Cynhyrchydd Digwyddiadau gyda BBC Cymru a chyn hynny mwynhaodd sawl blwyddyn fel Swyddog y Wasg gydag ITV Cymru. Dechreuodd Siân-Elin ei gyrfa yn gweithio i gwmni Theatr na n’Og fel Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, ac mae hi yr un mor angerddol heddiw ag yr oedd hi bryd hynny ynglŷn ag ymgysylltu a chyfathrebu â chymunedau a chynulleidfaoedd amrywiol mewn ffyrdd creadigol, perthnasol ac arloesol.