Poppy Nicol
Mae Poppy Nicol yn gweithio fel cydlynydd prosiect i’r Prosiect Global Gardens, sef prosiect tyfu bwyd cymunedol yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn gwneud gwaith ymchwil ar ddyfodol systemau bwyd cynaliadwy a theg.
Hoffai Poppy weld mwy o gynnyrch fforddiadwy ac agroecolegol ar gael ym mhob cymuned. Hoffai hefyd weld rhagor o gyfleoedd i bobl ddysgu mwy am dyfu ffrwythau a llysiau a rhagor o gyfleoedd i dyfwyr agroecolegol y dyfodol allu cael mynediad at dir.