Diane McCrea

Dechreuodd gyrfa Diane yn y maes bwyd a hynny ym Mhrifysgol Middlesex.  Mae’r angerdd hwn tuag at fwyd wedi parhau ac ymysg yr uchafbwyntiau mae gweithio ar gylchgrawn Which?, gwaith ymgynghori rhyngwladol ar fwyd a materion defnyddwyr gyda Sefydliad Iechyd y Byd, y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth a’r Comisiwn Ewropeaidd, a blynyddoedd lawer yn cynrychioli defnyddwyr yn Codex Alimentarius yn datblygu safonau bwyd ar gyfer masnach y byd.  Mae wedi gwasanaethu ar sawl un o bwyllgorau bwyd ac amaethyddiaeth y llywodraeth ac ar hyn o bryd hi yw cadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr – Cynnal Cymru-Sustain Wales, a chyn hynny bu’n gadeirydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Defnyddwyr Dŵr Cymru. Mae bwyd a chynaliadwyedd wedi bod yn brif ffocws iddi drwy gydol ei gyrfa.