David Williams

Mae David Williams o Gwmbrân wedi bod yn ymddiddori mewn cynaliadwyedd ac iechyd ers blynyddoedd lawer.  Fel un o sylfaenwyr grŵp coetir cymunedol, mae gan David hefyd lawer o ddiddordeb mewn cynnwys cymunedau ac mae’n gweld pa mor bwysig yw’r awyr agored er mwyn gwella iechyd a llesiant.  Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Llais y Goedwig – sef corff ymbarél ar gyfer coetiroedd cymunedol yng Nghymru ac mae’n deall pa mor bwysig yw hyrwyddo tyfu a chasglu bwydydd naturiol a chael mynediad atynt.

Yn broffesiynol, mae gan David swydd ranbarthol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’n newydd i’r systemau bwyd. Mae’n credu y dylai pawb gael mynediad at fwyd iach – nid dim ond y cyfoethocaf. Hoffai David weld mwy o dir ar gael i bobl allu tyfu bwyd a dysgu am y byd naturiol. Mae’n credu ei bod yn bwysig iawn helpu pobl i gysylltu â’r hyn maen nhw’n ei fwyta – a pha mor dda yw bwyd ffres.