Adam Jones

Mae Adam Jones yn arddwr brwd o Sir Gaerfyrddin. Mae wrth ei fodd yn tyfu pob math o blanhigion ond yn enwedig ffrwythau a llysiau a cheisio byw bywyd hunangynhaliol.  Mae wastad wedi mwynhau bwyta llysiau ac fe gychwynodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd yn 3 blwydd oed yng ngardd ei dad-cu yn tyfu a chynaeafu llysiau o bob math i’w bwyta gyda’r teulu.

Pum mlynedd yn ôl, aeth Adam ati gyda’i wraig i brynu eu cartref cyntaf ac roedd sefydlu gardd lysiau newydd yn holl bwysig iddyn nhw. Fe ddechreuodd rannu ei gariad at arddio ar Instagram @adamynyrardd nôl ym mis Awst 2018 gyda’r bwriad o rannu ei fywyd ef, a’i wraig Sara yn yr ardd, a’u taith i fyw bywyd hunan-gynhaliol. Mae’r cyfrif yn cynnwys lluniau o’r ardd, cyngor garddio, hynt a helynt eu hieir, hwyaid a cwêls yn ogystal â rhannu pleserau byw bywyd syml oddi ar y tir. Mae Adam eisiau bod yn Hyrwyddwr Llysiau er mwyn dangos gymaint o gyfleoedd cyffrous sydd gennym nid yn unig i fwyta mwy o lysiau ond hefyd i dyfu ein llysiau ein hunain yn lleol ac mewn modd sydd yn parchu ac yn diogelu natur yr un pryd.