Synnwyr Bwyd Cymru yng Nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2025
Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru ar gampws Pencoed, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, ac am y tro cyntaf, fe’i cynhaliwyd mewn cydweithrediad â Synnwyr Bwyd Cymru gan gyfuno dau gynulliad blynyddol allweddol: y gynhadledd a’r digwyddiad Bwyd mewn Cymunedau. Adlewyrchwyd y bartneriaeth hon yn y thema ar gyfer 2025 sef Cymunedau, Bwyd a Ffermio: Gweithio Gyda’n Gilydd.
Gyda bron i 400 yn mynychu, 30 sesiwn a 100 o siaradwyr dros ddau ddiwrnod, fe wnaeth y Gynhadledd archwilio bwyd a ffermio cynaliadwy, gan ddod â ffermwyr a busnesau bwyd eraill, amgylcheddwyr yn ogystal â phobl sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, addysg bwyd, sofraniaeth bwyd a chyfiawnder cymdeithasol ynghyd. Nod y Gynhadledd yw agor sgyrsiau a chymryd camau cadarnhaol ynghylch dyfodol bwyd yn ein gwlad, gan fapio system fwyd gynaliadwy ar gyfer yr 21ain ganrif i Gymru a sut y gallem ddechrau ei hadeiladu.
Yn ystod y gynhadledd, cymerodd aelodau o dîm Synnwyr Bwyd Cymru ran mewn nifer o sesiynau, fe wnaethon nhw gadeirio trafodaethau panel yn ogystal â lansio dogfennau allweddol.
Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd:
- Katie Palmer, Pennaeth Synnwyr Bwyd Cymru yn rhoi’r anerchiad agoriadol a’r sylwadau cloi yn y gynhadledd

Gallwch ddarllen anerchiad agoriadol Katie isod:
Wrth feddwl am beth i’w ddweud heddiw, rydw i wedi myfyrio ar y cynhwysion sydd angen ar gyfer sicrhau llwyddiant wrth geisio llunio system fwyd sy’n dda i bobl a’r blaned. Rhoddais 4 gair i fy hun a dyma’r rhai rydw i wedi’u dewis:
Cydweithio, Arloesi, Penderfyniad, Dathlu
Mae’r heriau ry’n ni’n eu hwynebu fel ymarferwyr ac actorion yn y system fwyd weithiau’n teimlo’n anorchfygol ac yn llethol. Sut allwn ni wneud gwahaniaeth? Dod o hyd i ffyrdd o gefnogi’r rhai na allant fforddio bwydo eu teuluoedd fel y byddent yn hoffi; gweithio allan sut i droi’r llanw ar y difrod rydyn ni’n ei wneud i’n planed. Plant yn llwgu oherwydd rhyfel a newyn, ffermwyr a thyfwyr yn teimlo’n anobeithiol – yn methu â rheoli effeithiau newid hinsawdd neu rymoedd marchnad annheg. Ac yna mae’r don o afiechyd sy’n gysylltiedig â diet yn difetha unigolion a chymunedau.
Gallem gael ein llethu’n hawdd – a dyna pam mae’r gymuned anhygoel hon yma heddiw, ac eraill nad ydyn nhw yn yr ystafell, yn dod â gobaith ac atebion gyda nhw, mor bwysig.
Y gwir yw – fel rydych chi / ni i gyd yn ymwybodol – na allwn ni drwsio popeth. Ond o fy mhrofiad i, dros y ddegawd diwethaf, yw, trwy ganolbwyntio ar y pethau hynny y gallwn ni ddylanwadu arnynt – yn ein maes pŵer ein hunain – gallwn ni wneud gwahaniaeth sylweddol i’n cymunedau lleol. Ac mae gan yr effeithiau hynny ffordd o ymledu allan, gan gael effeithiau mewn lleoedd a ffyrdd nad oeddem wedi’u dychmygu. A gwn y byddwn ni’n clywed llawer o enghreifftiau o’r ystafell dros y ddau ddiwrnod nesaf o brydau bwyd heb ddatgoedwigo i ffermio dal dŵr.
Am y tro, hoffwn fanteisio ar y cyfle i gyflwyno enghraifft fy hun – sut mae tonnau wedi tyfu’n don, neu hyd yn oed yn donnau, dros y blynyddoedd diwrthaf.
Yn 2014, cynhaliodd dri sefydliad yn y DU beilot o raglen Ddinasoedd / LleoeddBwyd Cynaliadwy: cymerodd 6 lle ledled y DU ran gan gynnwys Caerdydd. Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, mae’n fudiad o dros 120 o leoedd yn y DU sy’n mabwysiadu dulliau cyfannol, seiliedig ar le, ar gyfer systemau bwyd lleol. Mae 13 o’r rhain yng Nghymru a bydd 7 o’r rhain yn derbyn gwobr heno gan gydnabod y gwaith anhygoel sy’n digwydd yn yr ardaloedd hynny.
Mae’r dull Lleoedd Bwyd Cynaliadwy wedi’n galluogi i adeiladu’r achos dros gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Cymru yw’r unig genedl yn y DU sydd â Phartneriaeth Bwyd ym mhob ardal Awdurdod Lleol gyda chyllid trawslywodraethol sy’n cefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi a chymunedau mwy gwydn. Ac mae Cymru’n cael ei defnyddio fel esiampl fel tystiolaeth ar gyfer Strategaeth Fwyd Genedlaethol y DU yn hyn o beth. Yfory, bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn lansio Bwyd Ein Dyfodol – cyngor wedi’i deilwra i Awdurdodau Lleol ar ba gamau y gallant eu cymryd i wneud eu systemau bwyd lleol yn well ac i gefnogi Awdurdodau Lleol i osod eu hamcanion lles.
Mwy o Grychdonnau.
Yn ôl at y cynllun peilot Lleoedd Bwyd Cynaliadwy – un o’r lleoedd hynny a ddatblygodd o’r cynllun peilot yw Bwyd Caerdydd. Mae Bwyd Caerdydd yn mynd ymlaen i arloesi a pheilota:
Peilot Bwyd Caerdydd – Y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol – rhaglen arobryn a oedd yn cynnwys 5 ysgol, 4 menyw benderfynol (na fyddai’n derbyn na fel ateb), y Bwrdd Iechyd, yr ALl a Chwaraeon Caerdydd. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach – mae cannoedd o filoedd o blant a’u teuluoedd wedi ac yn elwa o’r rhaglen Bwyd a Hwyl ar draws holl ardaloedd yr ALl yng Nghymru – rhaglen ar gyfer ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi plant a’u teuluoedd dros wyliau’r haf. Y cynhwysion – cydweithio, arloesedd, penderfyniad a dathlu.
Crychdonnau.
Yna, cymerwch Bwyd a Hwyl Caerdydd – ychwanegwch ychydig o courgettes a beth gewch chi? Y Peilot Courgettes.
Un dunnell o courgettes yng Nghaerdydd – 3 blynedd yn ddiweddarach yn dod yn fwy na 30 tunnell o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol sydd ar gael i ysgolion ar draws 13 ardal awdurdod lleol gan ddod yn – Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Cynyddu’r sector garddwriaeth organig, meithrin gwydnwch a datblygu dealltwriaeth ddofn o’r heriau yn ein cadwyni cyflenwi. Y cynhwysion – cydweithio, arloesedd a phenderfyniad, dathlu.
Crychdonnau yn troi’n donnau o weithgarwch – gyda phob crychdon yn cynhyrchu mwy.
Dyma fy enghreifftiau i, a gwn y bydd llawer mwy yn cael eu rhannu drwy gydol y dau ddiwrnod nesaf gan ddechrau stori Partneriaethau Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr. Fy ngofyn i’r gynhadledd yw ein bod yn cymryd y buddugoliaethau hynny, yn eu dathlu, yn eu bwydo gan gynhyrchu tonnau o egni cadarnhaol sy’n dod yn rym na ellir ei atal.
Am flas o’r gynhadledd, gwyliwch y ffilm uchafbwyntiau yma:
Gallwch hefyd ddarllen y gerdd a ysgrifennodd Katie, gan fyfyrio ar y trafodaethau a gafwyd a’r cysylltiadau a wnaed yn ystod y gynhadledd isod.
