Synnwyr Bwyd Cymru yn cyhoeddi ei Adroddiad Cynnydd Blynyddol

Heddiw (Mai 23ain), mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi cyhoeddi’i Adroddiad Cynnydd blynyddol sy’n amlinellu prif gyflawniadau’r sefydliad a’r cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod Mai 2022 – Mai 2023.

Mae llawer o waith Synnwyr Bwyd Cymru yn canolbwyntio ar adeiladu’r sylfeini ar gyfer systemau bwyd iach a chynaliadwy; helpu i feithrin gallu pobl, datblygu a chefnogi rhwydweithiau, adeiladu seilwaith ac eirioli dros bolisïau a deddfwriaethau cefnogol. Nid yw’r rhain yn bethau y gellir eu cyflawni’n gyflym a gall cynnydd ymddangos yn araf ond yn yr adroddiad hwn, gobaith Synnwyr Bwyd Cymru yw dangos, wrth adeiladu’r sylfeini cadarn hyn, bod y buddsoddiad yn dechrau dwyn ffrwyth, er gwaetha’r anawsterau.

Darllenwch yr Adroddiad Cynnydd yma.

Inffograffeg