Synnwyr Bwyd Cymru: Ymateb i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) a gyflwynwyd ar 27.09.22

Ddydd Mawrth, Medi 27ain 2022, fe wnaeth y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ddatganiad llafar yn y Senedd ar y Bil Amaethyddol (Cymru).

Dyma ymateb Synnwyr Bwyd Cymru:

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn croesawu uchelgais a chwmpas Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a gyflwynwyd i’r Senedd gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn gynharach yr wythnos hon.

Dyma’r Bil Amaethyddol penodol cyntaf i Gymru ac o ganlyniad, mae gan y darn hwn o ddeddfwriaeth y potensial i drawsnewid ein system fwyd yng Nghymru drwy gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy; ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, a chyfrannu’n gadarnhaol at gymunedau gwledig Cymru.

Mae sector amaethyddol ffyniannus yn hanfodol i Gymru – nid yn unig o ran bwyd, natur a hinsawdd – ond hefyd o ran iechyd, ffyniant cymdeithasol, diwylliant ac iaith. Mae bwyd yn ganolog i’n bywydau ni i gyd a chredwn fod buddsoddi mewn systemau bwyd lleol, gwydn a chysylltiedig yn adeiladu ac yn cadw cyfoeth yng Nghymru – yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol – ac yn helpu i hybu cydweithio a chynwysoldeb.

Edrychwn ymlaen at weld sut y bydd y bil yn datblygu a’r ffordd y bydd yn ystyried polisïau ac ymrwymiadau perthnasol eraill yn ymwneud â bwyd, gan gynnwys Strategaeth Fwyd Gymunedol. Yn y cyfamser, bydd Synnwyr Bwyd Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynhyrchu bwyd cynaliadwy a gwydn wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon.