Rhywbeth i Gnoi Cil Drosto: Amseroedd cyffrous i system fwyd Cymru

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, cyhoeddwyd cyfres o ymrwymiadau a blaenoriaethau yng Nghymru a fydd yn cael effaith sylweddol ar ein system fwyd. Yma, mae Synnwyr Bwyd Cymru yn edrych ar y newidiadau sy’n cael eu cynnig, ac yn trafod yr hyn y gallent ei olygu i ni yng Nghymru.

Mae’r rhain yn amseroedd cyffrous ar gyfer gweithgaredd a pholisi yng Nghymru sy’n gysylltiedig â bwyd, ac mae’n galonogol gweld pobl o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol yn gweithio gyda’i gilydd, yn gweithredu dull systemau ac yn meddwl yn gyfannol am y bwyd yr ydym yn ei gynhyrchu a’i fwyta.

Cenhadaeth Synnwyr Bwyd Cymru yw cyd-greu system fwyd i Gymru sy’n dda ar gyfer pobl a’r blaned. Credwn y bydd y datblygiadau diweddar yng Nghymru yn helpu i gyflawni hyn wrth i ni barhau i weithio i sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig, gydnerth a llewyrchus.

Mae’r Cytundeb Cydweithio, a lofnodwyd ddoe (Rhagfyr 1af 2021) gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, yn cynnwys ymrwymiad i roi prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru cyn pen tair blynedd. Mae hwn yn bolisi cynhwysol ac eang ei gwmpas a fydd nid yn unig o fudd i gyrhaeddiad addysgol plant oed cynradd, ond hefyd i iechyd a llesiant cyffredinol plant Cymru. Yn hanfodol, mae’r polisi hefyd yn cyfeirio at y dyhead i gynyddu swm y bwyd a gynhyrchir yn lleol sy’n cael ei weini mewn ysgolion ac a fydd yn helpu economïau lleol, ac os caiff ei integreiddio i ymrwymiadau eraill y Rhaglen Lywodraethu, megis y cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd ganddo’r potensial yn ogystal i godi safonau amgylcheddol.

Hyd yn hyn, nid oes llawer o blant sy’n byw mewn tlodi wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae hyn wedi arwain at ddyfnhau anghydraddoldebau addysgol ac anghydraddoldebau iechyd. Mae’r polisi newydd hwn yn rhoi cyfle i Gymru wneud pethau’n wahanol, a hynny am ei fod yn creu gwasanaeth prydau ysgol am ddim i blant ysgol gynradd sy’n cefnogi pob plentyn a’i economi leol, ac yn gwarchod y blaned. Rydym yn cydnabod y bydd gweithredu’r polisi hwn yn heriol i’r Llywodraeth, ond rydym hefyd yn gwybod bod yna gefnogaeth enfawr yn barod i’w rhoi ar waith – gan fusnesau, sefydliadau trydydd sector, darparwyr gwasanaethau y sector cyhoeddus, a’r plant eu hunain. Gallwch ddarllen rhagor am y rheswm pam y mae ysgolion wrth wraidd yr ateb i argyfyngau bwyd cyfredol Cymru yn y blog diweddar hwn gan Katie Palmer o Synnwyr Bwyd Cymru.

Mewn cam pwysig a chalonogol arall i gynhyrchwyr a defnyddwyr Cymru, mae’r Cytundeb Cydweithio hefyd yn amlinellu’r angen i osod targedau ystyrlon i gynyddu caffael sector cyhoeddus Cymru, yn ogystal â datgan addewid i gyflawni dadansoddiad manwl o gadwyn gyflenwi’r sector cyhoeddus a gwneud ymrwymiad i hyrwyddo’r broses o brynu cynhyrchion a gwasanaethau a wnaed yng Nghymru. Er mwyn cefnogi ein cynhyrchwyr a’n cymunedau ledled y wlad a chynnal ein cyfrifoldeb byd-eang (e.e. datgoedwigo), mae angen i ni allu cadw gwerth yng Nghymru – ac mae’r addewid yn mynd rhywfaint o’r ffordd i gydnabod y mater hwn. Bydd datblygiad Safonau Prynu y Llywodraeth, yr adolygiad sydd ar ddod o safonau Bwyd mewn Ysgolion, ymrwymiadau i waith teg a chymorth parhaus i waith yr Economi Sylfaenol, i gyd yn allweddol i weithredu llwyddiannus.

Er mwyn creu system fwyd sy’n dda i’r blaned, mae angen i’r Llywodraeth – yn ogystal â chynhyrchwyr a defnyddwyr – fod yn gwbl ymrwymedig i gyrraedd sero net, gan gydnabod ar yr un pryd fod ein system fwyd hefyd mewn perygl oherwydd y newid yn yr hinsawdd a cholli natur. Bydd y Cytundeb Cydweithio yn arwain at archwilio ffyrdd posibl o gyrraedd sero net erbyn 2035 – bymtheng mlynedd yn gynt na’r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol, ac yn un o’r targedau a bennir yn y weledigaeth a gyhoeddwyd gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru mewn perthynas â system fwyd addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol cyn etholiadau 2021 y Senedd. Cytunwyd hefyd fod gan dargedau a chorff llywodraethu amgylcheddol ran i’w chwarae o ran helpu i warchod ac adfer bioamrywiaeth ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd yn ein hamgylcheddau daearol a morol.

Yn gynharach yr wythnos hon, yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod o 2021, lle eir i’r afael â chyflogau. Gwyddom eisoes, oherwydd cyflogau isel, fod y rhai sy’n gweithio yn y sector bwyd yn aml yn fwy tebygol o fod yn dioddef o ansicrwydd bwyd na’r rhai sy’n gweithio mewn sectorau eraill, felly rydym yn falch iawn mai un o amcanion y weledigaeth, ochr yn ochr â’r addewid i ddatblygu Cynllun Gweithredu ar ddatgarboneiddio ar gyfer y diwydiant cynhyrchu bwyd a diod, yw sicrhau bod y gyfran o’r gweithwyr yn y sector bwyd a diod sy’n cael o leiaf Gyflog Byw Cymru yn cyrraedd 80% erbyn 2025.

Mae bil aelod preifat i gyflwyno Bil Bwyd (Cymru) newydd wedi ennill cefnogaeth y Senedd yn ddiweddar. Ei nod yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru i gryfhau diogelwch bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru, a gwella dewis defnyddwyr. Mae dull integredig yn allweddol i greu system fwyd gydnerth a chynaliadwy i Gymru, a gallai’r Bil hwn ddarparu’r cymorth fframwaith i gyflawni targedau polisi sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfiawnder cymdeithasol a chadernid cymunedol.

Ac ar ddechrau’r tymor hwn yn y Senedd, ymrwymodd Llywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu (2021-2026) ddiweddaraf ei bod yn mynd i ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol i annog y broses o gynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru. Rydym eisoes yn gwybod bod llawer iawn o waith ‘ar lawr gwlad’ yn cael ei wneud ar hyn o bryd ledled Cymru, a bod yna ymchwydd o gefnogaeth ar gyfer gweithredu yn seiliedig ar leoedd. Gallai’r strategaeth hon hefyd roi’r cyfle delfrydol i Gymru gydlynu polisi bwyd ledled pob maes o’r llywodraeth, gan gynnwys iechyd, addysg, newid yn yr hinsawdd a’r economi ar lefel leol. Felly mae Synnwyr Bwyd Cymru yn llawn cyffro ynghylch gweld sut y bydd y strategaeth hon yn datblygu, ac mae’n edrych ymlaen at dynnu sylw at gamau gweithredu, gwybodaeth a phrofiad y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y gofod hwn i helpu i lywio a datblygu dull ystyrlon ac effeithiol.

Credwn fod i’r datblygiadau dros y pythefnos diwethaf y potensial i drawsnewid ein system fwyd a’n cymunedau yng Nghymru. Ond mae llwyddiant yn dibynnu ar weithredu mewn modd effeithiol, ac ni ellir cyflawni hynny ac eithrio trwy gydweithrediad dwfn rhwng y Llywodraeth a phawb sy’n gweithio yn ein system fwyd, sy’n cefnogi ei datblygiad, ac sy’n cael ei maethu ganddi.

DIWEDD

Deunydd darllen pellach:

Y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant/Realiti COVID (2021): Fixing Lunch: the case for expanding free school meals.

Sefydliad Bevan – Ehangu’r ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yng Nghymru: https://www.bevanfoundation.org/resources/expanding-the-provision-of-free-school-meals-in-wales/

Sefydliad Bevan – Ehangu’r ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yng Nghymru: Ystyriaethau ymarferol: https://www.bevanfoundation.org/resources/expanding-the-provision-of-free-school-meals-in-wales-practical-considerations/

WWF Cymru, Maint Cymru ac RSPB Cymru: Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang

Mae Synnwyr Bwyd Cymru hefyd wedi bod yn cefnogi’r gwaith ar Hawl Plant i Fwyd gyda’r Sefydliad Bwyd / Food Foundation – mae’r adroddiad diweddaraf yma.

Gallwch hefyd ddarllen am y gwaith y mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod yn ei wneud ar fwyta llysiau mewn ysgolion trwy ein gwaith Pys Plîs: Bwydo Ein Dyfodol a Cyflwr y Genedl: Cymru