Prosiect Treftadaeth Bwyd Sir Gâr Food: Ymateb i ddiwylliant bwyd a ffermio trwy gelfyddyd 

Ddydd Mercher, Tachwedd 5ed, cynahliwyd digwyddiad arbennig yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin, i ddathlu’r llu o waith creadigol a gafodd ei greu gan grwpiau ac ysgolion lleol – ar y cyd ag artistaiad o fri – yn ymateb i ddiwylliant bwyd a ffermio Sir Gaerfyrddin. 

Mae Stori Bwyd Sir Gâr yn rhan o raglen waith ehagach Prosiect Datblygu Systemau Bwyd y Sir a’r bartneriaeth fwyd lleol, sef Bwyd Sir Gâr.  Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r grwpiau wedi bod yn ymweld â fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne – fferm gyngor dan ofal Cyngor Sir Gaerfyrddin – sy’n cael ei ddefnyddio i dreialu tyfu llysiau ar gyfer y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.  Mae ysgolion a grwpiau cymunedol wedi treluio amser ar y fferm gan ymateb i’r hyn sy’n digwydd yno trwy gelfyddyd.   

Yn ystod eu hymweliadau, bu’r plant ac aelodau’r amrywiol grwpiau yn dysgu mwy am hanes y fferm a’r ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio heddiw, cyn mynd ati i weithio gydag artistiaid greu darnau o gelfyddyd – boed yn gerdd, stori, ffotograffiaeth neu ddarn o gelf. Bu’r sesiynau hyn hefyd yn ffordd o gasglu atgofion a straeon y bobl a gymerodd ran, gan ddyfnhau eu cysylltiad nhw â bwyd yr ardal, y traddodiadau, eu atgofion a’u hiaith. 

Roedd y dathliad diweddar yn gyfle i arweinwyr y prosiect, yr artistiaid, a’r sawl a gymerodd ran i ddod ynghyd i ddathlu’r gwaith a gafodd ei greu.   

Ymhlith y grwpiau a gymerodd ran roedd Ffederasiwn Ysgolion Cymraeg Cross Hands a Drefach; Merched y Wawr Llanarthne; Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth; aelodau Capeli Cana a Bancyfelin; criw o Ddysgwyr Cymraeg;  Rhwydwaith Amlddiwylliannol Llanelli; Clwb Ieuenctid Dr Mz a phreswylwyr cartref gofal Awel Tywi yn Llandeilo.   

Yr artistiaid a gymerodd ran oedd Elinor Wyn Reynolds, Lowri Siôn, Siân Lester, Leigh Sinclair, Steffan Rhys Williams, Lowri Johnston, Betsan Haf Evans, Jaqueline Anne Morris ac Aneirin Karadog.  

Meddai Carwyn Graves, Cadeirydd Bwyd Sir Gâr ac un o arweinwyr y prosiect: “Bwriad y prosiect yma oedd dod â chymaint o  wahanol grwpiau, cynulleidfaoedd ac oedrannau i Fremenda Isaf fel eu bod nhw’n ymateb i’r hyn sy’n mynd ‘mlaen yno trwy’r celfyddydau, a gweld y prosiect trwy ongl wahanol. Gobeithio – gan fod cymaint o grwpiau gwahanol wedi dod i’r fferm – byddwn ni’n dechrau adrodd stori’r fferm –  stori’r gorffennol a stori obeithiol ar gyfer y dyfodol hefyd.” 

Meddai Lowri Siôn Evans, artist a hwylusydd y prosiect: “Mae wedi bod yn fraint aruthrol cydlynu’r Prosiect Treftadaeth Bwyd eleni. Mae’r daith hon wedi bod yn gyfle unigryw i ddod â chreadigrwydd ac amaethyddiaeth ynghyd – dau faes sy’n adlewyrchu calon ein cymunedau yma yn Sir Gaerfyrddin.  Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld y nifer eang o grwpiau, o wahanol oedrannau a chefndiroedd, yn dod ynghyd i weithio gydag artistiaid creadigol wrth archwilio hanes a straeon treftadaeth bwyd Sir Gâr.  Trwy gydweithio a rhannu profiadau, mae’r prosiect hwn wedi meithrin ymdeimlad dwfn o gysylltiad â’n tir, ein hanes, a’n bwyd – ac wedi dangos sut y gall creadigrwydd fod yn rym pwerus i uno pobl a dathlu’r hyn sy’n gwneud ein hardal mor arbennig.” 

Bu plant Ffederasiwn Ysgolion Cymraeg Cross Hands a Drefach yn ymweld â’r fferm gan weithio gyda’r cyfansoddwr Steffan Rhys Williams i ysgrifennu cân. Cafodd y plant gyfle i grwydro’r fferm a dysgu am hanes bwyd yr ardal cyn mynd ati i gyfansoddi cân am eu profiad.   Gallwch wrando yma:

“Roedd ymweld â’r fferm leol yn brofiad dysgu ymarferol anhygoel i’n disgyblion,” meddai athrawes a fu’n rhan o’r prosiect. “Roedd gweithio gyda chyfansoddwr caneuon enwog i greu cân am dreftadaeth fwyd ein hardal yn dod â’r cwricwlwm yn fyw — gan gysylltu hanes, cerddoriaeth a’n cymuned mewn ffordd ystyrlon a chofiadwy.”   

Atega un o’r plant: “Roedden ni wrth ein bodd yn gweld sut mae’r llysiau’n tyfu ar y fferm! Roedd ysgrifennu a chanu cân gyda Steffan yn brofiad anhygoel — roedd yn ein gwneud ni’n falch o’n traddodiadau lleol a’n treftadaeth fwyd arbennig.” 

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cymunedau a’r Iaith Gymraeg: “Mae’r prosiect hwn yn dangos y cysylltiad dwfn rhwng ein tir, ein bwyd a’n pobl yma yn Sir Gâr. Trwy ddod ag ysgolion, grwpiau cymunedol ac artistiaid ynghyd, mae’r prosiect yn dathlu’r dreftadaeth fwyd rydyn ni’n ei rhannu, gan gryfhau balchder yn ein cymunedau gwledig, yn y Gymraeg, a’n diwylliant. Mae’n wych gweld creadigrwydd yn dod â phobl o bob oed at ei gilydd i rannu’r straeon a’r traddodiadau sy’n gwneud Sir Gâr yn un llawn bwrlwm.” 

Y gobaith yw y bydd yr arddangosfa hwn i’w weld mewn lleoliadau eraill ar draws y Sir dros y misoedd nesaf. 

Am wybodaeth bellach ynglyn â gwaith Bwyd Sir Gâr, ewch i’w gwefan. 

Lluniau o’r arddangosfa: