Llywodraeth Cymru’n lansio Ymghynghoriad Amgylchedd Bwyd Iach

Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn a’ch sylwadau ar gynigion i wella’r sefyllfa er mwyn ei gwneud yn haws dewis bwyd iach.  Mae’r ymgynghoriad Amgylchedd Bwyd Iach yn archwilio’r camau y gellid eu cymryd i wella’r amgylchedd bwyd yng Nghymru a helpu i sicrhau mai’r dewis iach yw’r dewis hawdd.  Mae’n gam gweithredu sy’n deillio o Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach.  Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys cynigion o dan dair thema:

    • Basgedi Siopa Iachach – newid pwyslais cynigion a marchnata tuag at
      ddewisiadau iachach er mwyn gwneud dewisiadau iachach yn fwy
      fforddiadwy.
    • Bwyta’n Iachach y Tu Allan i’n Cartrefi – gwella’r wybodaeth sydd ar gael i ni
      wrth fwyta y tu allan i’r cartref ac adeiladu ar lwyddiant y Dreth Siwgr ar
      ddiodydd meddal.
    • Amgylcheddau Bwyd Lleol Iachach – newid y cydbwysedd er mwyn sicrhau
      bod ein teithiau dyddiol drwy’r lleoedd rydym yn byw ynddynt yn gallu helpu i
      hyrwyddo dewisiadau iach, gan gynnwys archwilio rôl siopau Tecawê Bwyd
      Poeth o gwmpas ysgolion.

Sut i ymateb:

Dylech gyflwyno’ch sylwadau erbyn 1 Medi 2022, gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol:

Y Gangen Byw’n Iach ac Egnïol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: PwysauIachCymruIach@llyw.cymru

Darllenwch fwy yma am yr Ymghynghoriad Bwyd Iach yn ogystal â’r cynnig i ddod â gwerthiant diodydd egni i blant o dan 16 oed i ben.

* Gallwch hefyd gofrestru i fynychu digwyddiad rhanddeiliad i drafod y cynigion ddydd Mawrth, Gorffannaf 19eg *

Gweler isod am fanylion pellach:

Dydd Mawrth 19 Gorffennaf: Digwyddiad Amgylchedd Bwyd Iach a Diodydd Egni
Croeso gan Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Mae siaradwyr ar y panel yn cynnwys:
• Irfon Rees, Cyfarwyddwr Iechyd a Llesiant, Llywodraeth Cymru
• Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
• Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Beca Lyne-Pirkis, Llysgennad Pwysau Iach
Bydd gweithdai hefyd ar bob un o’r prif themâu yn yr ymgyngoriadau. Cynhelir y digwyddiad drwy eventbocs. Gall pobl gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma: https://www.smartsurvey.co.uk/s/19july/