Lleoedd Bwyd Cynaliadwy: Diwrnod Dathlu a Gweithredu 2025
Ar 5 Tachwedd 2025, teithiodd gynrychiolwyr o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Cymru i San Steffan i ymuno â mwy na 120 o arweinwyr bwyd lleol yn nerbyniad seneddol Diwrnod Dathlu a Gweithredu Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Ystafell Attlee yn Nhŷ Portcullis ac fe’i noddwyd gan Olivia Blake, AS Sheffield Hallam. Nod y digwyddiad oedd dangos pŵer partneriaethau bwyd wedi’u harwain gan y gymuned o ran creu system fwyd iachach, tecach a mwy cynaliadwy yn y DU o’r gwaelod i fyny.
Tynnodd y derbyniad seneddol eleni sylw at sut y mae partneriaethau bwyd ar lawr gwlad yn cynnig atebion hanfodol i ddiffyg diogeledd bwyd, iechyd a llesiant gwael, ac effeithiau’r argyfyngau hinsawdd a natur ar ein cyflenwad bwyd – ffactorau sydd oll yn gwaethygu. Daeth y digwyddiad â’r rhai sy’n ysgogi newid ynghyd o bob un o bedair gwlad y DU i gysylltu ag ASau a galw am fuddsoddiad strategol hirdymor mewn systemau bwyd lleol a chyflwyno partneriaeth bwyd ym mhob awdurdod lleol.
Yn ystod y digwyddiad, fe wnaeth gydlynwyr o Gymru gwrdd â’u Haelodau Seneddol lleol i drafod yr heriau allweddol sy’n effeithio ar eu hardaloedd nhw a rhannu enghreifftiau o sut y mae gweithredu ar fwyd yn lleol yn mynd i’r afael â’r materion hyn.
Mae rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy bellach yn cysylltu 123 o bartneriaethau bwyd ledled y DU. Mae’r partneriaethau hyn yn dwyn ynghyd awdurdodau lleol, grwpiau gwirfoddol, ffermwyr, busnesau bwyd, a phreswylwyr i gydlynu ymatebion lleol i argyfyngau cenedlaethol — o fynd i’r afael â thlodi bwyd plant i gefnogi ffermio adfywiol ac economïau cylchol. Mae eu gwaith yn cyd-fynd â strategaethau allweddol y Llywodraeth, gan gynnwys Strategaeth Fwyd y DU, Cynllun Hirdymor y GIG, datganoli yn Lloegr, a Chynllun y Llywodraeth ar gyfer Cymdogaethau.
Mae Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn rhaglen bartneriaeth dan arweiniad Sustain, Cymdeithas y Pridd, Food Matters, Synnwyr Bwyd Cymru a Nourish Scotland. Mae’n cefnogi twf partneriaethau bwyd drwy hyfforddiant, mentora a hyrwyddo polisïau — gan sicrhau bod gan gymunedau lais yn y broses o lunio’r systemau bwyd sy’n eu gwasanaethu.