Caerdydd yn dathlu ar ôl ennill Gwobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy

Heddiw, cyhoeddwyd bod Caerdydd wedi ennill gwobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Sustainable Food Places) sy’n golygu mai dyma’r lle cyntaf yng Nghymru ac un o ddim ond chwe lle yn y DU i gyflawni’r gamp hon, sy’n cydnabod gwaith arloesol y ddinas wrth hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.

Mae Caerdydd, ynghyd â Chaergrawnt, wedi ennill statws Arian y wobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, gan ymuno â Middlesbrough; Awdurdod Llundain Fwyaf; Bryste, a Brighton a Hove.  Ers hynny mae Brighton a Hove a Bryste wedi mynd ymlaen i gyflawni statws Aur ac mae Caerdydd yn gobeithio dilyn yr un trywydd.

Dyfarnwyd statws Efydd i Gaerdydd ym mis Mawrth 2015 pan ddaeth yn un o’r lleoedd cyntaf yn y DU i ennill gwobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, ac mae’r cyhoeddiad heddiw am y wobr Arian yn cydnabod dros saith mlynedd o waith ledled y ddinas i sicrhau bwyd da i bawb.

Mae’r gwaith yng Nghaerdydd yn cael ei gydlynu gan Bwyd Caerdydd, partneriaeth fwyd y ddinas sy’n prysur dyfu ac sydd wedi esblygu i fod yn rhwydwaith deinamig, cryf a chynhwysol o ymgyrchwyr dros fwyd da. Mae Bwyd Caerdydd, sy’n cael ei letya gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro, bellach yn cynnwys 127 o unigolion ar draws 74 o sefydliadau ac mae ganddo fwrdd strategaeth sy’n cynnwys ystod o aelodau, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Wrap Cymru, Riverside Real Food, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a llu o sefydliadau eraill.

Drwy’r rhwydwaith hwn o bartneriaid ymroddedig, mae Caerdydd yn ysgogi newid ar lefel y ddinas ac yn gweithio i fynd i’r afael â rhai o broblemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf y dydd.

Mae Gwobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Caerdydd yn cydnabod y ddinas fel un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU ac mae’r wobr yn seiliedig ar gyflawniadau mewn chwe maes allweddol:

  1. Mabwysiadu dull strategol a chydweithredol mewn perthynas â llywodraethu a chamau gweithredu’n ymwneud â bwyd da.
  2. Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, dinasyddiaeth fwyd weithgar a mudiad bwyd da lleol.
  3. Mynd i’r afael â thlodi bwyd, salwch sy’n gysylltiedig â diet a mynediad at fwyd iach fforddiadwy.
  4. Creu economi fwyd gynaliadwy fywiog, ffyniannus ac amrywiol.
  5. Trawsnewid y meysydd arlwyo a chaffael ac adfywio cadwyni cyflenwi bwyd lleol a chynaliadwy.
  6. Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur drwy fwyd a ffermio cynaliadwy a rhoi terfyn ar wastraff bwyd.

Meddai Tom Andrews o Leoedd Bwyd Cynaliadwy: “Ers ymuno â’r Rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy fel un o’i sylfaenwyr bron 10 mlynedd yn ôl, mae Bwyd Caerdydd wedi codi’r safon yn barhaus o ran bwyd iach a chynaliadwy. O’r Rhaglen Gwella Gwyliau Haf arloesol i’r fenter Pantri a Tyfu Gyda’n Gilydd, mae Caerdydd wedi bod yn arloeswr ysbrydoledig sydd ar flaen y gad o ran bwyd da nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. Mae Bwyd Caerdydd, y Cyngor a’r myrdd o sefydliadau ac unigolion sy’n rhan o fudiad bwyd da y Ddinas yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl angerddol ac ymroddedig yn gweithio gyda’i gilydd i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd ddiffiniol o ble maen nhw byw.”

Mae Pearl Costello, cydlynydd Bwyd Caerdydd ac awdur y cais am statws Arian, wrth ei bodd bod Caerdydd wedi ennill statws arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac mae’n ddiolchgar i bobl Caerdydd am chwarae rhan mor weithredol yn llwyddiant y bartneriaeth fwyd.

“Mae’r wobr hon yn dyst i’r ymgyrch fawr rydym wedi’i gweld gan ddinasyddion, grwpiau, busnesau a sefydliadau i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn beth cyffredin, i bawb, yng Nghaerdydd” meddai Pearl.

“Mae’n wobr y gellir ei phriodoli i deuluoedd sy’n tyfu berwr ar y silff ffenestr am y tro cyntaf; i gymdogaethau sy’n sefydlu cydweithfeydd bwyd neu bantri; i’r busnesau bwyd sy’n cyflenwi bwyd o’r radd flaenaf i’n dinas; i sefydliadau sy’n gwneud addunedau Dinasoedd Llysiau ac yn dylunio bwydlenni cynaliadwy, ac i bawb sydd wedi gwneud rhywbeth cadarnhaol yn ymwneud â bwyd.

“Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn bod cam nesaf y daith ar gyfer Bwyd Caerdydd – Strategaeth Bwyd Da 2021-24 – wedi’i gyd-ddylunio gan filoedd o bobl yng Nghaerdydd.  Mae’r cynllun hwn, sy’n cwmpasu’r ddinas gyfan, eisoes wedi’i gydnabod fel y strategaeth ehangaf a mwyaf cynhwysol o ran ei hymgysylltiad ledled y DU gyfan – ac rydym yn bwriadu mynd ymhellach fyth wrth i ni anelu at y wobr Aur, gan wybod bod creu dinas fwyd dda yn rhywbeth i ni i gyd gyfrannu ato.”

Bu Cyngor Caerdydd yn allweddol o ran sefydlu partneriaeth fwyd Caerdydd ac mae’n falch iawn bod ymdrechion ac uchelgeisiau’r ddinas wedi cael eu cydnabod.

“Os edrychwch chi ar y gwaith sydd wedi’i wneud ar draws partneriaeth Bwyd Caerdydd i newid ein systemau bwyd a darparu bwyd iach, moesegol a chynaliadwy i bobl Caerdydd, mae’n wirioneddol ryfeddol faint sydd wedi cael ei gyflawni ers 2018, pan wnaethom lansio ein hymrwymiad i ennill y wobr Arian ac, yn y pen draw, statws Aur i’r ddinas,” meddai’r Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd.

“Yn ystod y tair blynedd ers hynny, Cyngor Caerdydd yw’r awdurdod lleol cyntaf yn y DU i gymeradwyo ei Strategaeth Fwyd ei hun ar draws y Cyngor. Rydym hefyd wedi cynnwys camau uchelgeisiol a chynaliadwy ar fwyd yn ein strategaeth Caerdydd Un Blaned sy’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd, ac wedi cefnogi prosiectau ymarferol fel tyfu 20,000 o blanhigion llysiau ar gyfer grwpiau cymunedol yn ystod y pandemig Covid – a dim ond ein cyfraniad ni at y daith yw hynny.

“Dechreuodd daith fwyd gynaliadwy Caerdydd yn 2013 pan helpodd y cyngor i sefydlu Bwyd Caerdydd, ond mae’r daith ymhell o fod ar ben ac rydym nawr yn edrych ymlaen at gymryd y camau nesaf tuag at ennill statws Aur.”

Meddai Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rwy’n falch iawn bod Caerdydd wedi cael statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.  Mae’r bwyd rydym yn ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau, busnesau a’r amgylchedd hefyd. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae gennym weledigaeth glir i bobl fwyta’n iach a symud mwy.  Ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi addunedu i gydweithio i sicrhau bod ein poblogaeth yn gallu dilyn ffordd iach a heini o fyw.

“Yn wir, mae bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a gwydn ac mae’n wych gweld Bwyd Caerdydd yn gweithredu fel hyb i gysylltu pobl a phrosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy a moesegol.  Mae Bwyd Caerdydd hefyd yn gweithredu fel llais dros newid ehangach yn ogystal â bod yn gatalydd ar gyfer newid y system fwyd leol yng Nghaerdydd.

“Ers ennill gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, mae Bwyd Caerdydd wedi datblygu ymhellach ac wedi tyfu’n sylweddol ac mae ei effaith ar lefel y ddinas gyfan yn amlwg iawn bellach.  Rwyf yn edrych ymlaen at weld yr hyn y gallwn ei gyflawni nesaf.”

Ychwanega Carl Nichols, Pennaeth WRAP Cymru a Chadeirydd Bwyd Caerdydd: “Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y wobr hon ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith a wnawn.  Mae Bwyd Caerdydd yn enghraifft wych o sut y gall partneriaethau weithio a’r hyn y gellir ei gyflawni os yw pawb yn gweithio gyda’i gilydd.  Mae Bwyd Caerdydd ar fin dechrau ar ei gam nesaf a bydd yn cyhoeddi ei Strategaeth Bwyd Da ym mis Medi – dogfen sy’n amlinellu ein nodau a’n huchelgeisiau ar gyfer y tair blynedd nesaf.”

Rhaglen bartneriaeth yw Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a arweinir gan Gymdeithas y Pridd, Food Matters a Sustain: y gynghrair ar gyfer gwell bwyd a ffermio. Caiff ei hariannu gan Sefydliad Esmée Fairbairn a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac ar hyn o bryd mae ganddi 55 o aelodau ledled y DU.

Dywedodd Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru:  “Rwy’n falch iawn bod Caerdydd wedi ennill Statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy sy’n golygu mai’r ddinas yw’r lle cyntaf yng Nghymru i ennill y wobr bwysig hon.

“Roedd Bwyd Caerdydd yn un o sylfaenwyr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac mae wedi helpu i arloesi gyda gweithredu cydweithredol tuag at fwyd sy’n seiliedig ar le.

“Mae’r wobr hon yn dangos effaith gadarnhaol pobl, cymunedau, sefydliadau a busnes yn cydweithio i ysgogi newid.  Mae gennym nawr uchelgais i weld partneriaeth fwyd yn cael ei sefydlu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, er mwyn creu rhwydwaith a fyddai’n sylfaen i ddatblygu’r weledigaeth, y seilwaith a’r camau gweithredu sydd eu hangen i wneud system fwyd Cymru yn addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol – rhywbeth y gellid ei gydnabod drwy gynlluniau Llesiant awdurdodau lleol,” ychwanega Katie.

“Cafodd y weledigaeth hon ei chydnabod yn ddiweddar hefyd gan y Tasglu Adferiad Gwyrdd a bydd yn rhan o gydweledigaeth i roi iechyd a bwyd cynaliadwy wrth galon cymunedau a helpu i ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ yng Nghymru ymhellach.”

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gobeithio y bydd llwyddiant Caerdydd yn annog rhannau eraill o Gymru i ymuno â’r ymgyrch ac i helpu i arwain y ffordd o ran sefydlu a datblygu seilwaith yn seiliedig ar le, gan gyfrannu at ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ a strategaethau bwyd cymunedol ehangach a fydd o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau ledled De Cymru.

DIWEDD