Cychwyn Iach – beth sydd ar y rhestr siopa yng Nghymru?

Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cynyddu gwerth talebau Cychwyn Iach yng Nghymru o £3.10 yr wythnos i £4.25 i ddarparu cymorth gyda maeth ymysg plant a theuluoedd ar incwm isel.  Bydd y cynnydd hwn yn dod i rym ym mis Ebrill a bydd yn cyd-daro â throi’r cynllun yn ddigidol ledled y DU.

Ond beth yn union yw Cychwyn Iach?  A sut mae o fudd i deuluoedd yng Nghymru?  Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn egluro.

O fis Ebrill felly, gallai mam â babi o dan un oed a phlentyn o dan bedair oed, fod yn gymwys ar gyfer talebau gwerth £12.75 yr wythnos i’w gwario ar laeth, ffrwythau, llysiau a chodlysiau – swm a allai wneud gwahaniaeth sylweddol i fywyd teulu.

Yn gynllun statudol sy’n cael ei redeg gan NHSBSA (Awdurdod Gwasanaethau Busnes Iechyd Cenedlaethol), dim ond ar ôl derbyn ffurflen gais wedi’i chwblhau sydd ar gael ar wefan Cychwyn Iach y gellir rhyddhau talebau. Ar hyn o bryd, talebau papur yw’r rhain ac mae’n rhaid i’r rhai sy’n eu derbyn eu cyfnewid am nwyddau mewn siop, ond o fis Ebrill ymlaen – ar yr un pryd ag y bydd gwerth y talebau’n cynyddu – mae’r NHSBSA yn lansio Cynllun Cychwyn Iach digidol a fydd yn disodli’r talebau papur cyfredol gyda cherdyn wedi’i ragdalu. Bydd hyn yn golygu y dylai’r cynllun fod yn symlach ac yn fwy hyblyg i’w ddefnyddio.

Ond tra byddwn yn aros am y cynnydd yng ngwerth talebau ac yn aros i’r cynllun digidol ddod i rym yng Nghymru, mae nifer o archfarchnadoedd wedi ymrwymo i gynyddu gwerth y talebau Cychwyn Iach sy’n cael eu gwario yn eu siopau neu wedi dweud y byddant yn darparu ffrwythau a llysiau ychwanegol am ddim i bobl sy’n defnyddio’r talebau.  Mae llawer wedi addo gwneud hyn mewn ymgais i helpu teuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol ac fel ymateb uniongyrchol i Dasglu Tlodi Bwyd Marcus Rashford a’i ymgyrch i Ddileu Tlodi Bwyd ymysg Plant.

Dyma grynodeb cyflym i’ch atgoffa o’r cynigion sydd ar gael mewn archfarchnadoedd yng Nghymru:

Manwerthwr Gwerth Ychwanegol Ar gael tan
Co-op Ychwanegu £1 at werth y daleb. Cyn mis Ebrill mae hyn yn cyfateb i £4.10, ar ôl mis Ebrill bydd hyn yn £5.25. Dim dyddiad penodol ond yn debygol o fod y tu hwnt i Ebrill 2021
Tesco Ychwanegu £1 at werth y daleb. Rhaid cyflwyno talebau wrth y ddesg dalu er mwyn i’r rhai sy’n eu derbyn gael cwpon ‘arian i ffwrdd’ am £1 i’w ddefnyddio y tro nesaf y byddant yn siopa yno. 31 Mawrth 2021
Lidl Ychwanegu £1.15 at werth y talebau a bydd y rhai sy’n eu derbyn yn cael eu hysbysu wrth y til. 31 Mawrth 2021
Iceland Yn cynnig llysiau wedi’u rhewi am ddim gwerth £1 fesul taleb. Bydd y rhai sy’n cael y talebau yn gallu dod â’r llysiau at y til gyda’u nwyddau neu gael gwybod am y cynnig wrth y til os nad ydynt wedi casglu unrhyw lysiau wedi’u rhewi 31 Mawrth 2021
Waitrose Ychwanegu £1.50 at werth y daleb felly bydd £3.10 yn werth £4.60. Ychwanegir y gwerth ychwanegol wrth y til pan gyflwynir taleb Cychwyn Iach Dim dyddiad penodol ond yn debygol o fod y tu hwnt i Ebrill 2021

 

 

Ar hyn o bryd mae data’r GIG yn dangos bod y niferoedd sy’n manteisio ar y cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru yn lleihau, sy’n golygu nad yw nifer sylweddol o deuluoedd cymwys yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.  Yng Nghymru, ym mis Ionawr 2021, dim ond 57% o’r rhai a oedd yn gymwys i gael talebau Cychwyn Iach a ddefnyddiodd y cynllun mewn gwirionedd.

Felly beth y gellir ei wneud i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun yng Nghymru?

Mewn blog diweddar a gyhoeddwyd gan Sustain – y gynghrair ar gyfer gwell bwyd a ffermio, nodwyd y gallai mwy gael ei wneud yn ychwanegol at y cynnydd yn nifer y talebau i hysbysu teuluoedd bod ganddynt hawl i gael y cymorth hwn.  Dywed fod angen i’r meini prawf cymhwystra newid fel y gall mwy elwa o’r gefnogaeth sy’n galw am ymestyn y cynllun i bob teulu sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.  Ar hyn o bryd dim ond teuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol sy’n ennill £408 neu lai y mis o gyflogaeth sy’n gymwys ar gyfer y cynllun.  Mae’r blog yn mynd ymlaen i ddweud y byddai’r newidiadau hyn yn chwyldroi’r cynllun Cychwyn Iach fel ei fod yn dod yn ddull arian-parod-yn-gyntaf sydd ag adnoddau priodol ac sy’n rhoi bwyd iach yn ôl ar y bwrdd i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Yng Nghymru, mae mentrau eraill ar waith i helpu i annog a chynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun Cychwyn Iach.

Ar ôl gwneud darn o waith ymchwil i’r nifer sy’n manteisio ar dalebau Cychwyn Iach a’r potensial o ran gwariant, sylweddolodd Bwyd Caerdydd nad oedd llawer o ymwybyddiaeth o’r cynllun ymysg rhai staff rheng flaen a oedd yn cynghori pobl ar ba fudd-daliadau yr oedd ganddynt yr hawl i’w cael.  Gan weithio mewn partneriaeth, datblygodd Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro, gwasanaeth Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd, tîm deieteg Bwrdd Ysbyty Athrofaol Caerdydd a’r Fro, a Bwyd Caerdydd becyn hyfforddi i gefnogi staff rheng flaen i godi ymwybyddiaeth o gynlluniau bwyd, gan fabwysiadu dull hyfforddi’r hyfforddwr er mwyn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl. Dechreuodd y sesiynau hyfforddi’r hyfforddwr ym mis Mai 2019 ac maent yn parhau i gael eu cynnal ar gyfer staff o amrywiol sefydliadau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau rheng flaen, megis Cymdeithasau Tai, Tîm Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd, Helpa Fi i Stopio a Wellness 4U.

“Mae’r hyfforddiant yn cwmpasu gwybodaeth am y cynllun Cychwyn Iach, ei gymhwystra a’i hygyrchedd,” meddai Helen Griffith, Uwch Arbenigwr Hybu Iechyd yn Nhîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro.

“Darparwyd gwybodaeth hefyd am fanciau bwyd, cydweithfeydd bwyd, gwybodaeth am faeth a chyrsiau Sgiliau Maeth am Oes. Drwy gael gafael ar wybodaeth am y gwahanol gynlluniau bwyd a’i hadolygu, fe wnaethom gynhyrchu cyfres o adnoddau i hwyluso darparu hyfforddiant a chefnogi staff rheng flaen yn ystod ymgynghoriadau â chleientiaid.  O ran y nifer sy’n manteisio arnynt, mae’r data mwyaf diweddar yn dangos bod Caerdydd yn perfformio’n well na gweddill Cymru a gellid priodoli hynny’n rhannol i’r cynllun hwn – sy’n helpu staff rheng flaen i ddeall budd-daliadau sy’n gysylltiedig â bwyd ac i gydnabod eu pwysigrwydd, ac i amlinellu pwy sy’n gymwys ac egluro sut y gall unigolion wneud cais.”

Yng Ngogledd Cymru, o fewn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae Deietegydd Iechyd y Cyhoedd Andrea Basu yn canolbwyntio ar y nifer sy’n cymryd y fitaminau ymhlith teuluoedd sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer Cychwyn Iach – gan ymchwilio i’r rhwystrau a’r atebion i gynyddu hygyrchedd fitaminau Cychwyn Iach ar gyfer teuluoedd cymwys.

“Mae tabledi menywod Cychwyn Iach yn rhoi’r swm cywir o asid ffolig a fitamin D i gefnogi beichiogrwydd iach, ac mae’r diferion fitaminau i fabanod a phlant yn cynnwys dos hanfodol o fitamin D i helpu i gryfhau iechyd eu hesgyrn a’i amddiffyn yn y dyfodol,” meddai.

Aiff Andrea ymlaen i egluro ei bod yn bwysig iawn cymryd atchwanegiad Fitamin D oherwydd nid yw ein deiet dyddiol yn darparu digon ohono. Rydym yn cael y rhan fwyaf o’r fitamin D sydd ei angen arnom drwy olau’r haul, ond yn ystod misoedd y gaeaf, ac wrth gwrs yn ystod y cyfnod clo presennol rydym yn treulio llawer mwy o amser dan do. Yr unig ffordd y gallwn fod yn sicr o gael digon o fitamin D yw cymryd atchwanegiad a gall Cychwyn Iach helpu teuluoedd ifanc i gyflawni hyn.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn clywed am y cynllun drwy eu Bydwraig neu Ymwelydd Iechyd, ond gwyddom fod y pandemig COVID-19 wedi effeithio ar allu teuluoedd i gael mynediad i’r fitaminau,” ychwanegodd.

Ar hyn o bryd mae Andrea yn gweithio ar brosiect newydd gyda fferyllfeydd lleol sydd wedi cytuno i stocio’r fitaminau.

“Mae fferyllfeydd mewn lleoliad delfrydol yn ein cymuned ac rydym eisiau ei gwneud mor syml â phosibl i deuluoedd gael y fitaminau sydd eu hangen arnynt ac y mae ganddynt hawl i’w cael.  I deuluoedd sydd eisoes wedi ymrwymo i ‘Cychwyn Iach’ yn ardaloedd Fflint a Wrecsam, mae angen iddynt fynd â’u taleb werdd i unrhyw un o’r fferyllfeydd canlynol i gasglu eu fitaminau – Feryllfa Rowlands yn ardaloedd Brynteg, Cefn Mawr, Stryd y Capel, Hightown, Johnstown a Cilgant San Siôr yn Wrecsam; Feryllfa Rowlands ym Mwcle, Treffynnon, y Fflint a Queensferry yn ogystal â Fferyllfa Morrisons yn Saltney a Chei Connah.”

Prif nod y cynllun Cychwyn Iach yw rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant yng Nghymru.  Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i weithwyr iechyd proffesiynol ac eraill sy’n gweithio gyda menywod beichiog a theuluoedd i gynnig anogaeth, gwybodaeth a chyngor ar faterion fel bwyta’n iach, bwydo ar y fron a fitaminau. Gyda chynnydd yng ngwerth y daleb; troi’r cynllun yn ddigidol ac ail-frandio arfaethedig Cychwyn Iach, y gobaith yw y bydd mwy o rieni cymwys yn dysgu am y cynllun ac y bydd nifer fwy o bobl yn manteisio arno, gan ddefnyddio’r arian sydd ar gael i’w helpu i fwydo eu teuluoedd.  Mae bywyd yn frwydr galed i lawer ar hyn o bryd, yn enwedig i deuluoedd ifanc, a gallai ‘Cychwyn Iach’ ddarparu cymorth sydd i’w groesawu.

DIWEDD