Grantiau Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes ar gael ar gyfer digwyddiadau Plannu a Rhannu yng Nghymru

Os ydych yn rhan o grŵp cymunedol yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ym Mis Plannu a Rhannu Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes eleni, gallwch bellach wneud cais am Grant Bach i’ch helpu gyda’ch gweithgareddau.

Mae Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yn gwahodd ceisiadau gan brosiectau cymunedol sy’n seiliedig ar fwyd sy’n canolbwyntio ar weithgaredd Plannu a Rhannu ac sy’n digwydd yn ystod Mis Plannu a Rhannu, sef ymgyrch flynyddol sy’n annog pobl ledled y DU i blannu, tyfu a rhannu cynnyrch gyda’u cymunedau lleol. Mae’r grantiau’n werth hyd at £150 ac maent nawr yn derbyn ceisiadau i helpu grwpiau gyda phob dim sydd ei angen arnynt i gymryd rhan, o brynu hadau a chompost i gael gafael ar offer.

Byddai angen i’r gweithgareddau a gefnogir fod wedi’u harwain gan y gymuned; gallent gynnwys pobl o gymunedau difreintiedig neu amrywiol, dod â phobl ynghyd a lleihau’r profiad o unigrwydd neu ynysigrwydd cymdeithasol, neu annog agwedd gadarnhaol tuag at heneiddio ac amrywiaeth, a gallent hefyd fod â’r potensial i ddod yn brosiectau tymor hwy. Mae’r grant yn agored i grwpiau a lleoliadau nid er elw a gall y gweithgareddau fod yn rhithwir neu wyneb yn wyneb, yn unol â chanllawiau Covid.

Mae Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yn rhaglen o weithgareddau cymunedol rheolaidd sy’n cysylltu pobl o bob oedran a chefndir drwy dyfu, coginio a rhannu bwyd da. Mae’n rhaglen dros bedair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a lansiwyd ym mis Mehefin 2019 ac sy’n cael ei harwain gan elusen Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd a’i darparu yng Nghymru gan Synnwyr Bwyd Cymru.

Mae Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yn cefnogi lleoliadau drwy eu hysbrydoli i gymryd rhan a thrwy gynnig amrywiaeth o adnoddau, ryseitiau, hyfforddiant, argymhellion ar gyfer trefnu digwyddiadau, grantiau bach a chyfleoedd cyllido.

Mae Hannah Norman, Rheolwyr Bwyd Cymunedol Cymru Synnwyr Bwyd Cymru, yn arwain ar waith Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yng Nghymru ac mae’n annog grwpiau cymunedol i gymryd rhan yn y Mis Plannu a Rhannu ac i wneud cais am gyllid grant.

“Mae ein grantiau o £150 yma i’ch helpu chi a’ch cymuned i gymryd rhan yn y Mis Plannu a Rhannu. Y llynedd, cefnogodd Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes dros gant o drefnwyr a grwpiau cymunedol ledled y DU i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau plannu, tyfu a rhannu bwyd,” meddai Hannah.

“I wneud cais am grant, bydd angen i chi gofrestru eich gweithgaredd a llenwi’r ffurflen cais am grant. Bydd angen i chi gwblhau’r ddau gam er mwyn gwneud cais ac os oes angen unrhyw gymorth arnoch i wneud y cais neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y grant neu’r broses ymgeisio, mae croeso i chi gysylltu â ni.

“Yn ogystal ag annog grwpiau cymunedol i wneud cais am gyllid grant, hoffwn weld mwy o unigolion ledled Cymru’n cymryd rhan yn y Mis Plannu a Rhannu hefyd. P’un a ydych yn tyfu pethau mewn potiau iogwrt am y tro cyntaf neu’n dyfwr profiadol gyda rhandir, mae Mis Plannu a Rhannu yn addas i chi,” meddai Hannah. “Mae’n hawdd iawn cymryd rhan. Bydd angen i chi blannu eich hadau, rhannu’r eginblanhigion neu’r cynnyrch gyda’ch ffrindiau neu’ch cymdogion a dweud wrthym ar Facebook neu Twitter gyda phwy y gwnaethoch chi eu rhannu gan ddefnyddio #FFLGetTogethers.

“Mae gan Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes ddigonedd o adnoddau i’ch helpu i ddechrau plannu. Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich sgiliau, lawrlwytho eich Pecyn Gwybodaeth Plannu a Rhannu, ac ymuno â’n cymuned ddigidol i rannu argymhellion a syniadau. Ewch i’n gwefan i gael mwy o ysbrydoliaeth a chymorth.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm dydd Mawrth 22 Chwefror.

Ni all Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr llwyddiannus blaenorol a dim ond un grant y gall ei gynnig i bob sefydliad.  Mae’r Telerau ac Amodau llawn ar gael yma.

Os hoffech wybod mwy am Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes a’r Mis Plannu a Rhannu, yna ewch i wefan Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes.