Mynd i'r cynnwys

Bwyd a Hwyl

Mae Bwyd a Hwyl, yn rhaglen addysg aml-asiantaeth arobryn seiliedig ar ysgolion, sy’n darparu brecwast a chinio iach o safon, sesiynau addysg bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol strwythuredig a gweithgareddau cyfoethogi i blant sy’n byw mewn ardaloedd o angen yng Nghymru. Wedi’i ddatblygu a’i dreialu yng Nghaerdydd yn 2015, mae Bwyd a Hwyl bellach yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion ar draws Cymru dan oruchwyliaeth CLlLC gyda Synnwyr Bwyd Cymru yn aelod allweddol o’r grŵp llywio.

Yn 2016 gweithiodd CLlLC gyda Bwyd Caerdydd i dreialu model y Rhaglen yn genedlaethol mewn 10 ysgol, gan weithio gyda 5 awdurdod lleol a 3 bwrdd iechyd lleol. Darparodd Prifysgol Caerdydd y gwerthusiad ac argymhellodd y dylid ‘Uwchraddio’r model ymhellach er mwyn deall y buddion o ran addysg ac iechyd i blant a’u teuluoedd mewn gwahanol gyd-destunau.’ Ariannodd Llywodraeth Cymru’r rhaglen yn rhannol yn 2017 ar gyfer 38 clwb mewn 12 awdurdod lleol ac ym mhob un o’r 7 bwrdd iechyd lleol. Mae cyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi’r rhaglen i dyfu i 77 cynllun mewn 21 awdurdod lleol gan gynnig bron i 4,000 o leoedd i ddisgyblion yn 2019.

Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £4.85 miliwn o gyllid i’r rhaglen a fydd yn darparu lleoedd i bron i 8,000 o blant wrth iddynt barhau i fwynhau amser yn yr ysgol yn ystod y gwyliau.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi yn ei Rhaglen Lywodraethu y bydd yn parhau i adeiladu ar gynllun Bwyd a Hwyl.

Ewch i’r wefan
Cyswllt