Pontio’r Bwlch
Beth yw Pontio’r Bwlch?
Rhaglen a arweinir gan Sustain, Growing Communities ac Elusen Alexandra Rose gyda’r partneriaid cenedlaethol Synnwyr Bwyd Cymru, Nourish NI a Nourish Scotland yw Pontio’r Bwlch.
Ar hyn o bryd mae bwyd sydd o les i bobl ac i’r blaned, sydd o fudd i gymunedau ac sy’n cefnogi bywoliaeth o safon, yn ddrytach na bwyd sy’n wael i iechyd ac wedi’i gynhyrchu mewn ffyrdd sy’n niweidio’r blaned. Rydym yn awyddus i newid hynny drwy bontio’r bwlch rhwng cymunedau ar incwm isel ac anghydraddoldebau iechyd, gyda bwyd fforddiadwy sy’n gyfeillgar i’r blaned sy’n galluogi pawb i fwynhau system fwyd iach, gyfiawn a chynaliadwy.
Cynlluniau Peilot Pontio’r Bwlch
Bydd Pontio’r Bwlch yn ymchwilio i’r systemau ariannol mwyaf effeithiol a all greu mynediad i fwyd amaeth-ecolegol/organig i bobl ar incwm isel. Bydd y rhaglen yn cyflwyno cyfres o brosiectau peilot ledled y DU sy’n dangos y polisïau a’r systemau ariannol a fyddai’n pontio’r bwlch. Bydd yr ymyriadau peilot yn canolbwyntio ar gymunedau ar incwm isel mewn ardaloedd trefol ac ar gyflenwi, prynu a manwerthu ffrwythau a llysiau organig neu amaeth-ecolegol.
Chwe maes ffocws
Yn dilyn cyd-gynhyrchu dwys, rydym wedi blaenoriaethu chwe maes ffocws, a fydd yn gyfarwydd i lawer ohonom, ac sydd â blynyddoedd lawer o waith eirioli ac ymgyrchu y tu ôl iddynt. Ein her yw datblygu tystiolaeth o’n cynlluniau peilot ar gyfer cyfres o ofynion polisi a chytuno ar naratif i’n helpu i bontio’r bwlch fel mudiad.
- Gwella systemau caffael bwyd y sector cyhoeddus a chymunedau
- Buddsoddi mewn hybiau bwyd a chadwyni cyflenwi cyfanwerthwyr
- Dadlau o blaid cynlluniau talebau a ffrwythau a llysiau ar bresgripsiwn
- Cydnabod gwerth garddwriaeth
- Sicrhau mynediad i fwyd drwy fanwerthwyr lleol (annibynnol)
- Hyrwyddo Cyflog Byw Gwirioneddol yn y byd ffermio a thu hwnt
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer newyddion a diweddariadau ewch i www.sustainweb.org/bridge-the-gap neu e-bostiwch bridgingthegap@sustainweb.org