Mynd i'r cynnwys

Peilot Courgettes

Yn 2023, cyhoeddodd Synnwyr Bwyd Cymru adroddiad yn gwerthuso prosiect peilot ymchwil gweithredol oedd yn archwilio beth fyddai ei angen yn ymarferol i gael llysiau agroecolegol Cymreig ar blatiau plant ysgol yng Nghymru.

Fe wnaeth Synnwyr Bwyd Cymru, Bwyd Caerdydd  Castell Howell a Blas Gwent ynghyd â phartneriaid allweddol, sef Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Tyfu Cymru benderfynu i ganolbwyntio ar courgettes gan ymrwymo i gynnal cynllun peilot yn edrych ar heriau symud llysiau drwy’r system fwyd er mwyn iddyn nhw gael eu bwyta mewn ysgolion.

Clawr yr adroddiad

Cynhaliwyd y prosiect peilot dros gyfnod o dair wythnos yn ystod rhaglen Bwyd a Hwyl haf 2022, a hynny mewn 29 o ysgolion cynradd Caerdydd, gan ymwneud â thua 1500 o blant.  Aeth bron i 1 tunnell o courgettes drwy’r gadwyn gyflenwi, a chafodd y rhain eu defnyddio gan dimau arlwyo’r ysgolion i greu cinio yn ogystal â chan y Cydlynwyr Bwyd a Hwyl i ennyn diddordeb y plant mewn coginio a gweithgareddau perthnasol eraill, fel defnyddio courgettes i wneud celf.

Dangosodd yr ymchwil gweithredol bod prydau bwyd mewn ysgolion yn gyfle i roi marchnad sicr i gynhyrchwyr llysiau agroecolegol, a byddai modd defnyddio’r prydau hyn hefyd fel ffordd bwysig o fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi llysiau yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn dweud y byddai parhau i fuddsoddi yn cael effaith ddilynol ar ddatblygu rhwydwaith rhanbarthol a chryf o gynhyrchwyr bwyd, a fyddai’n gallu cyflenwi llysiau i ganol eu cymunedau.  Er mwyn cyflawni hyn, mae’r adroddiad yn argymell bod angen cynllun buddsoddi mewn cadwyni cyflenwi cynaliadwy, a’r cynllun hwnnw’n targedu’n benodol y bwlch rhwng y llysiau rhataf sydd ar gael a llysiau sy’n cael eu cynhyrchu’n gynaliadwy yng Nghymru

Gallwch ddod o hyd ifwy o fanylion drwy ddarllen yr adroddiad yma.