Mynd i'r cynnwys

Nerth Bwyd

Prosiect a weithredidd rhwng 2017 – 2021 yw Nerth Bwyd.  Bu’n gweithio gyda chymunedau lleol ar draws y DU i gryfhau eu gallu i leihau tlodi bwyd a mynd i’r afael â’i achosion sylfaenol. Gweithiodd Synnwyr Bwyd Cymru gyda Sustain a Church Action on Poverty fel rhan o gais llwyddiannus i ddatblygu atebion i dlodi bwyd trwy gynghreiriau lleol a newid drwy bŵer pobl.

Bu Synnwyr Bwyd Cymru yn gyfrifol am ddatblygu a chydlynnu nifer o gynghreiriau ar draws Cymru, gan gynnwys Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd Cymru; Cynghrair Tlodi Bwyd De Cymru; Cynghrair Tlodi Bwyd Caerdydd, Cynghrair Bwyd Merthyr a Bwyd Da Sir y Fflint.

Yng Nghaerdydd, mae pobl ar draws y ddinas bellach yn gallu cael gafael ar fwyd iach fforddiadwy, diolch i brosiect a gychwynnwyd gan Gynghrair Tlodi Bwyd Caerdydd. Sefydlodd ACE (Action in Caerau & Ely) y Dusty Forge Pantry ym mis Gorffennaf 2019, sy’n cael ei redeg a’i ddefnyddio gan bobl sy’n byw yn ardaloedd Trelái a’r Caerau yng Nghaerdydd. Mae’r prosiect yn rhan o rwydwaith Your Local Pantry a hwn oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Bellach mae gan Gaerdydd rwydwaith o bedwar pantry, sef  Wyndham Street Pantry, Llanrumney Hall Pantry a Trowbridge Pantry a agorwyd ym mis Mehefin 2021.

Ar ôl cynnal darn o ymchwil i gyfraddau derbyn a photensial gwario talebau Cychwyn Iach, daeth yn amlwg bod ymwybyddiaeth o’r cynllun yn isel gyda rhai staff rheng flaen. Trwy weithio mewn partneriaeth â Thîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro, Tîm Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd a thîm dieteg Bwrdd Ysbyty Prifysgol Caerdydd a’r Fro, datblygodd Cynghrair Tlodi Bwyd Caerdydd becyn hyfforddi i gefnogi staff rheng flaen i godi ymwybyddiaeth a chyfraddau defnyddio cynlluniau bwyd, gan ddilyn dull hyfforddi’r hyfforddwr i sicrhau’r cyrhaeddiad mwyaf posibl. Mae hwn bellach yn cael ei ddatblygu fel modiwl digidol yn y Rhaglen Sgiliau Maeth am Oes yn genedlaethol ar draws Cymru.

Ym mis Rhagfyr 2020, derbyniodd Cynghrair Tlodi Bwyd Caerdydd werth £17,000 o gyllid i gefnogi plant a theuluoedd oedd mewn perygl o ansicrwydd bwyd yn ystod y pandemig coronafirws, fel rhan o’r fenter Nerth Bwyd ar gyfer Cenhedlaeth Covid. Cafodd yr arian ei ddefnyddio i hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr cymunedol i goginio a danfon prydau maethlon wedi’u coginio ymlaen llaw i deuluoedd bregus yng Nghaerdydd.

A thrwy Nerth Bwyd, cefnogodd Synnwyr Bwyd Cymru y prosiect ymchwil a ariennir gan UKRI – Food Vulnerability During Covid – a fapiodd ac a fonitrodd ymatebion gan fynd i’r afael â phryderon ynghylch mynediad annigonol at fwyd yn ystod argyfwng COVID-19 ar draws y DU. Rhoddodd Abertawe a Bwyd Caerdydd Bwyd dystiolaeth allweddol i hyn.

Ewch i’r wefan
Cyswllt