Mynd i'r cynnwys

Cynhadledd Bwyd Mewn Cymunedau 2022

Cynhadledd Bwyd mewn Cymunedau

Cysylltu | Rhannu | Ysbrydoli | Galluogi

Canhaliodd Synnwyr Bwyd Cymru cynhadledd Bwyd mewn Cymunedau yn Yr Egin, ddydd Gwener, 1 Gorffennaf 2022 gan gynnig cyfle i drafod dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar le; cryfder cymunedau ac arweinyddiaeth yn y maes bwyd.

Roedd y gynhadledd undydd ddiddorol hon yn gyfle i arweinwyr bwyd o bob rhan o Gymru ddod ynghyd i gysylltu â’i gilydd, i rannu profiadau, ac ysbrydoli newid.  Roedd yn cynnwys prif areithiau, trafodaethau panel a gweithdai i rannu arfer gorau ac ysbrydoli cydweithredu yn y dyfodol, gan amlygu cyfleoedd newydd i arweinwyr a phartneriaethau bwyd ledled Cymru.

Trosolwg o’r Gynhadledd

Trafodaeth Banel 1: Fframwaith ar newid: Beth yw’r manteision a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil dulliau sy’n seiliedig ar leoedd i ddatblygu system fwyd yng Nghymru? 

Panel trafod yn cynnwys cyfranogwyr sy’n rhan o’r dulliau sy’n seiliedig ar leoedd. Bydd yn gwrando ar safbwyntiau aelodau o grŵp llywio Partneriaethau Bwyd Cynaliadwy o bob cwr o Gymru ac yn defnyddio profiad Yr Alban o integreiddio cynlluniau bwyd yn rhan o gyfraith Yr Alban.

  • Cadeirydd: Simon Wright: Athro Ymarfer, Y Drindod Dewi Sant
  • Eryl Powell: Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, BIP Aneurin Bevan – Partneriaeth Fwyd Blaenau Gwent
  • Alex Cook: SwperBox a Chadeirydd Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr
  • Simon Kenton-Lake: Nourish Scotland – Partner cyflewni Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Yr Alban
  • Louise Denham: Cydgysylltydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd y Fro ac un o Raddedigion Fy Nghymuned Fwyd

Cliciwch yma i wylio trafodaeth banel 1
Trafodaeth Banel 2: Trawsnewid polisi drwy weithredu cymunedol ac arweinyddiaeth leol 

Drwy gyflwyno a thrafod, fe wnaeth y panel ystyried sut y gall symud bwyd da, creu cysylltiadau, dod o hyd i sefydliadau angori a grymuso arweinwyr bwyd cymunedol ysgogi newid.

  • Cadeirydd: Gary Mitchell – Rheolwr Cymru, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
  • Dr Angelina Sanderson Bellamy – Athro Cyswllt Systemau Bwyd Bryste, UWE
  • Abel Pearson – Sylfaenydd a Thyfwr, Glasbren
  • Emma Holmes - Arweinydd Clinigol Deieteg Iechyd Cyhoeddus, BIP Caerdydd a’r Fro
  • Chris Nottingham – Cydgysylltydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Blaenau Gwent ac un o Raddedigion Fy Nghymuned Fwyd

Cliciwch yma i wylio trafodaeth banel 2

Trafodaeth Banel 3: Cymorth a chyfleoedd sefydliadol: cyllid ac adnoddau ar gyfer partneriaethau bwyd yng Nghymru yn y dyfodol

Fe wnaeth y gweithdy hwn archwilio a rhannu’r cyfleoedd a geir gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Cadeirydd: Diane McCrea, Cadeirydd Cynnal Cymru

Profiad o ddatblygu a chyflawni cynigion ar y cyd am gyllid sy’n seiliedig ar leoedd

  • Tlodi Bwyd – creu cadernid i gefnogi cymunedau drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru. Pearl Costello, Cydgysylltydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, Bwyd Caerdydd
  • Cyflwyno Ffyniant Bro: Datblygu Ffyniant Gyffredin – Profiad Torfaen a Chaerffili. Nikki Williams, Cyngor Torfaen a Kevin Eadon, Cyngor Caerffili
  • Effaith fawr Grantiau Bach: Grantiau Bach a’r broses o greu Mudiad Bwyd Da, Dale Cranshaw, Pennaeth Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes, Cymdeithas y Pridd

Cyfleoedd cyllid Presennol ac yn y Dyfodol

  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – cyfleoedd yng Nghymru – Rachel Richards, Swyddog Cyllid, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Arian pontio – cyfleoedd gan Lywodraeth Cymru – Kevin Taylor, Rheolwr Polisi Cynllun, Llywodraeth Cymru
  • Cymorth i Bartneriaethau Bwyd. Sofia Parente – Cydgysylltydd Ymgyrchoedd a Pholisïau, Sustain

Cliciwch yma i wylio trafodaeth banel 3

Yn ogystal â phaneli a gweithdai, cafwyd cyfle i glywed am waith pwysig y sefydliadau canlynol:

Gwyliwch trosolwg o’r digwyddiad isod:

Cyflwyniadau o’r gynhadledd
Darllenwch Adroddiad Effaith diweddaraf Synnwyr Bwyd Cymru
Agenda’r Gynhadledd
Cysylltwch â ni