Mynd i'r cynnwys

Caru Cennin

Mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod yn gweithio gyda Sefydliad Maniva ym Mrasil fel rhan o fenter fwyd newydd ac ysbrydoledig ar gyfer ysgolion o’r enw Caru Cennin.

Ysbrydolwyd Caru Cennin gan Tapiokit, sef gweithdy addysg a ddatblygwyd gan Sefydliad Maniva sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant bwyd cassava. Yn ystod Chwefror 2024, fe wnaeth y cogydd, ymgyrchydd bwyd ac academydd Teresa Corção o’r Sefydliad  ymweld â Chymru i helpu i gynnal gweithdai i athrawon a disgyblion i weld sut gallai eu dull o ennyn diddordeb plant mewn cynnyrch lleol weithio gyda gwahanol fathau o lysiau mewn gwlad wahanol sydd â diwylliant a threftadaeth bwyd unigryw.

Ar ôl ei ailddatblygu a’i deilwra’n benodol ar gyfer athrawon a disgyblion yng Nghymru, fe wnaeth Synnwyr Bwyd Cymru weithio gyda Teresa Corção ynghyd â thîm o arweinwyr bwyd Cymreig amlwg i roi naws Cymreig unigryw i Caru Cennin, gan gynnwys yr hanesydd bwyd Carwyn Graves a’r Tîm Deietegol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Yn ystod ei hymweliad, fe aeth Teresa a’r tîm o awduron ati i gwrdd ag athrawon o Ysgol Pentre-baen yng Nghaerdydd i gynnal gweithdy hyfforddi ar ‘Caru Cennin’ cyn helpu’r staff addysgu i gynnal sesiynau i blant ym mlynyddoedd 2 a 4. Gan ganolbwyntio ar gennin, fe ddysgodd y plant sut i goginio gyda’r llysieuyn a dysgu mwy am ei werth maethol a’i fanteision i iechyd, gan archwilio hefyd ei hanes cyfoethog a’i gysylltiadau Cymreig dwf. Y bwriad oedd cyflwyno plant i’w diwylliant bwyd, gan eu trochi yn eu storïau bwyd eu hunain a’u cysylltu ag o ble y daw eu bwyd.

Ariannwyd y prosiect trawsgyfandirol hwn gan y Gynghrair Systemau Bwyd Ymwybodol  (Conscious Food Systems Alliance neu CoFSA) drwy Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig – mudiad ar gyfer ymarferwyr bwyd, amaeth ac ymwybyddiaeth, a drefnir gan Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig ac sydd wedi’i uno gan amcan cyffredin: cefnogi pobl o bob rhan o’r systemau bwyd ac amaeth i feithrin y capasiti mewnol sy’n ysgogi newid systemig ac adfywio. Mae Caru Cennin yn cynnig cyfle i ddysgu o rai o’r enghreifftiau o waith arloesol sy’n cael ei wneud ym Mrasil ac archwilio a allai Cymru edrych ar fwyd mewn ffordd debyg, yn benodol drwy ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Darllenwch fwy am Caru Cennin yma.