Mynd i'r cynnwys

Pwysau Iach: Cymru Iach

Pwysau Iach: Cymru Iach yw strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru.  Fel rhan o’i huchelgeisiau, mae Llywodraeth Cymru am:

  • I bobl Cymru, a chenedlaethau’r dyfodol, gael y cychwyn gorau mewn bywyd a byw bywydau hirach, gwell a hapusach
  • Cefnogi gwneud y dewis iachach yn ddewis hawdd ac i bobl deimlo eu bod yn cael eu galluogi i wneud dewisiadau cadarnhaol am eu ffordd o fyw er mwyn cynnal pwysau iach.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn un o’r sefydliadau hynny sy’n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i weithredu a chyfleu ei strategaeth yn effeithiol gydag unigolion a chymunedau ledled Cymru.

Ewch i’r wefan