Galw am addunedau i wneud Caerdydd yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU

Mae ymgyrch newydd yn gobeithio rhoi Caerdydd ar y trywydd i fod yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU.

Mae Bwyd Caerdydd, partneriaeth dinas gyfan sy’n cynnwys mwy na 200 o unigolion a sefydliadau – yn gofyn i bobl o bob cefndir ‘wneud adduned’ a gweithredu, i helpu Caerdydd i gyflawni statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Aur erbyn 2024.

Y gobaith yw y bydd yr addunedau yn grymuso pobl Caerdydd i greu economi fwyd leol ffyniannus, lle mae pawb yn gallu cael gafael ar fwyd sy’n iach ac yn amgylcheddol gynaliadwy.

Lle Bwyd Cynaliadwy

Y llynedd, dyfarnwyd statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Arian i Gaerdydd – ac felly daeth y lle cyntaf yng Nghymru (ac un o ddim ond chwe lle yn y DU) i gyflawni’r anrhydedd fawreddog; mae’r cynllun yn seiliedig ar gyflawniadau efydd, arian ac aur ar draws chwe mater bwyd cynaliadwy allweddol.

Mae busnesau annibynnol, cwmnïau cydweithredol, sefydliadau’r trydydd sector, a sefydliadau mawr (fel Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) bellach am weld Caerdydd yn ymdrechu i gyflawni’r safon aur, i ddod yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU.

I gefnogi hyn, maent yn ymddangos mewn cyfres o ffilmiau sy’n tynnu sylw at rai o’r addewidion ar waith; mae’r cyntaf yn edrych ar fudd siopa a bwyta gyda chynaliadwyedd mewn golwg.

Astudiaeth Achos: Siopa a Bwyta’n Gynaliadwy

Sefydlwyd Marchnad Ffermwyr Glan-yr-afon dros 20 mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi tyfu i fod yn un o’r marchnadoedd mwyaf adnabyddus yn y DU. Gyda marchnadoedd yn cael eu cynnal yn Rhiwbeina, y Rhath a Glan-yr-afon yn wythnosol, y rheol sylfaenol i bob masnachwr yw bod yn rhaid iddo fod wedi tyfu neu wneud popeth y mae’n ei werthu ei hun.

Esboniodd Steve Garrett, sefydlydd Glan-yr-afon sut y gall marchnadoedd ffermwyr gynnig ffordd fwy cynaliadwy o siopa: “O filltiroedd bwyd isel, i lefelau is o blastig, mae marchnadoedd ffermwyr yn osgoi llawer o’r gwastraff. Mae’r ffrwythau a’r llysiau’n dod o’r caeau ac yn mynd yn syth i gefn fan – felly maent mor ffres ag y gallant fod. Pan fydd pobl yn dod i’n marchnadoedd, gallant wybod o ble mae’r bwyd wedi dod, ond nid yn unig hynny – mae’n blasu’n wych hefyd.”

Ond nid marchnadoedd ffermwyr yn unig sy’n cael cynnyrch yn ffres o’r caeau; mae Ieva  yn tyfu bwyd o’r newydd yn ei rhandir yn Llwynbedw. Dywedodd hi “Mae llawer o’r hyn rwy’n ei wneud yn cael ei wneud mewn ffordd nad yw’n tarfu ar yr ecosystem, ond mewn ffordd sy’n cyfrannu ati ac yn ei chyfoethogi. Ac ym misoedd yr haf, does dim angen i mi fynd i’r siop lysiau.”

Mae Ieva hefyd yn rhoi unrhyw fwyd dros ben sydd ganddi i’r gymuned leol. Mae hi’n esbonio, “Roeddwn yn ymwybodol ei bod yn bosibl nad yw pobl a all orfod dibynnu ar fanciau bwyd yn gallu cael gafael ar fwyd ffres ac iach; Rwy’n rhoi beth bynnag sydd gennyf yn ychwanegol fel y gallant gael gwell siawns o gael pryd da, maethlon gydag chynnyrch sydd wedi’i dyfu’n gynaliadwy.”

Bydd mwy o fideos astudiaeth achos yn tynnu sylw at y ffyrdd y gall pobl addo gwneud sîn fwyd Caerdydd yn iachach, yn fwy cysylltiedig ac yn fwy grymus gyda ffocws mwy lleol.

Mae’r ymgyrch i wneud Caerdydd yn ddinas fwyd fwy cynaliadwy yn cael ei chydlynu gan Bwyd Caerdydd, partneriaeth fwyd y ddinas sy’n tyfu’n gyflym ac sydd wedi esblygu’n rhwydwaith dinas gyfan deinamig a chynhwysol.

Esboniodd Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd, Pearl Costello, “Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd rydym yn ei fwyta yn effeithio’n enfawr ar fywyd yng Nghaerdydd — nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd.  Mae bwyd da’n creu cymunedau cryf, iach a gwydn sy’n ffynnu. Rydym yn edrych ymlaen at lansio’r ymgyrch hon i roi cyfle i bob person – a sefydliad – yng Nghaerdydd wneud addewid – neu sawl addewid – a rhoi Caerdydd ar y trywydd i fod yn un o’r dinasoedd mwyaf cynaliadwy yn y DU.”

Mae Bwyd Caerdydd yn rhan o Synnwyr Bwyd Cymru, sy’n ceisio dylanwadu ar sut y caiff bwyd ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a ffyniannus.

Mae bwrdd strategaeth Bwyd Caerdydd hefyd yn cynnwys deg aelod gwirfoddol o amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Marchnadoedd Ffermwyr Glan-yr-Afon, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái yn ogystal â llawer o rai eraill.

Drwy’r rhwydwaith hwn, mae Bwyd Caerdydd yn sbarduno newid ar lefel dinas ac mae’n gweithio i fynd i’r afael â rhai o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf heddiw.

DIWEDD