Gallai cefnogaeth Llywodraeth y DU ar gyfer bwyd organig sicrhau canlyniadau iechyd ac economaidd enfawr, yn ôl adroddiad newydd

Gallai cynnydd bach yng nghefnogaeth y llywodraeth ar gyfer ffrwythau a llysiau organig sicrhau canlyniadau cenedlaethol enfawr i gymunedau ledled y DU – a bydd methiant i weithredu’n gwaethygu’r argyfwng deiet, hinsawdd a ffermio yn y DU – yn ôl adroddiad newydd Pontio’r Bwlch gan Sustain.    

Yn seiliedig ar naw cynllun peilot ledled y DU, mae’r adroddiad yn dangos y gall creu cyswllt rhwng cynnyrch organig a dyfir yn gynaliadwy o ffermydd bach a chanolig ac aelwydydd incwm isel gynhyrchu £8.78 mewn gwerth cymdeithasol ar gyfer pob £1 o fuddsoddiad cyhoeddus, gydag arian cyfatebol o £1.10 gan siopwyr. Mae’r canlyniadau’n cynnwys buddsoddiad o £3.11 mewn iechyd gwell, £3.94 mewn cymunedau cryfach, £1.44 mewn twf economaidd lleol a 29c mewn manteision i hinsawdd a natur. 

Cyflawnodd y rhaglen hyn drwy gau’r bwlch mewn prisiau rhwng cynnyrch organig a dyfir yn lleol a chynnyrch arferol a chreu galw cyson drwy siopau, prydau ysgol a chynlluniau talebau. Fe wnaeth hyn sicrhau bod yr arian yn cylchdroi’n lleol a bod tyfwyr yn cael prisiau teg, gan roi hwb i farchnadoedd lleol. Roedd deiet siopwyr yn gwella, ac roeddent yn teimlo’n iachach a bod ganddynt fwy o gysylltiad â bwyd – ac oherwydd bod y bwyd yn organig ac wedi dod o ffynhonnell gyfagos, fe wnaeth ei ôl troed amgylcheddol leihau. 

Mae’r adroddiad yn nodi tri cham gweithredu sydd angen blaenoriaeth, ac yn galw am gamau brys i unioni a thyfu sector ffrwythau, llysiau a chodlysiau’r DU: 

  1. Rhoi hwb i gynhyrchu ym Mhrydain
    Ehangu’r cyflenwad a dyfir gartref drwy strategaethau garddwriaeth cydgysylltiedig a chymorth wedi’i dargedu ar gyfer ffermwyr bach ac organig. 
  2. Adfer y “canol sydd ar goll”
    Buddsoddi yn y seilwaith bwyd lleol sydd ei angen i drosglwyddo cynnyrch o’r cae i’r farchnad a chryfhau rheolau’r gadwyn gyflenwi i sicrhau prisiau teg. 
  3. Gwella mynediad i bawb
    Defnyddio cyllideb bwyd ysgolion ac ysbytai’r wladwriaeth o £5 biliwn i greu marchnadoedd gwarantedig ar gyfer cynnyrch organig a lleol, ac ehangu cynlluniau sy’n helpu aelwydydd incwm isel i allu fforddio bwyd iach.  

Dangosodd y rhaglen y gellir goresgyn rhwystrau, a nododd lwybrau clir i uwchraddio, drwy dreialon y byd go iawn, data, modelu a’r defnydd strategol o gontractau bwyd y sector cyhoeddus.  

Yn ogystal â hynny, mae’r canfyddiadau’n chwalu’r rhagdybiaeth mai dim ond ar gyfer aelwydydd mwy cyfoethog y mae bwyd organig. Yn Lerpwl a Knowsley, ardaloedd a ddisgrifir yn aml fel “anialwch bwyd”, ceir partneriaeth gyda’r siop lysiau symudol Queen of Greens sydd bellach yn darparu cynnyrch organig i 700 o bobl bob wythnos nad oeddent yn gallu ei fforddio’n flaenorol. 

Roedd y manteision amgylcheddol yn sylweddol hefyd. Yn Aberdeen, fe wnaeth ychwanegu pys hollt organig gan y ffermwr lleol Phil Swire at bryd ysgol poblogaidd, sef briwgig traddodiadol, arwain at ostyngiad o 42% mewn allyriadau heb leihau nifer y plant a oedd yn bwyta’r pryd. 

Fe wnaeth y Llywodraeth Lafur addewid yn ei maniffesto y bydd 50% o’r bwyd sy’n cael ei gaffael yn gyhoeddus yn fwyd lleol neu’n bodloni safonau amgylcheddol uwch, a dywed Sustain fod y cyfeiriad yn glir: “Mae’n amser anrhydeddu’r addewid hwnnw.” 

Mae Hannah Gibbs, Rheolwr Rhaglenni Sustain, yn galw ar y llywodraeth i fuddsoddi mewn uwchraddio’r cynlluniau peilot llwyddiannus hyn fel y gallai miliynau yn fwy o bobl yn y DU gael budd o fwyd iach a chynaliadwy. Dywed:  

“Mae ein system fwyd wedi torri, mae’n niweidio natur a’r amgylchedd ac nid yw’n darparu bwyd maethlon sydd ei angen ar bobl er mwyn iddynt fyw bywydau iach. Rhaid i’r llywodraeth wrando ar yr atebion ysbrydoledig hyn a’u huwchraddio, drwy fuddsoddi yn nhwf garddwriaeth sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd, gan gefnogi busnesau bach lleol sy’n cyflenwi bwyd da a sicrhau marchnad ar gyfer cynnyrch sy’n gyfeillgar i natur drwy fwyd y sector cyhoeddus.” 

Dywed Anna Taylor, Prif Swyddog Gweithredol y Food Foundation:  

“Mae gormod o bobl ym Mhrydain nad ydynt yn gallu fforddio ffrwythau a llysiau, neu nid ydynt ar gael yn eu cymdogaeth, heb sôn am allu cael y cynnyrch o fferm leol. Mae’r cynlluniau peilot hyn yn darparu mewnwelediad hanfodol i’r hyn y gellir ei wneud i newid hyn; mewnwelediad sy’n hynod werthfawr wrth i’r llywodraeth ddatblygu ei strategaeth fwyd. Dylai gallu cael mynediad at ffrwythau a llysiau o safon gan gynhyrchydd lleol fod yn rhywbeth y gall bawb ym Mhrydain ei fwynhau, ac nid y lleiafrif breintiedig yn unig. Mae’r gwaith hwn yn dangos faint o bobl sy’n gweithredu mewn cymunedau ledled y wlad sydd eisiau gwneud hyn yn bosibl, ond maent yn wynebu rhwystrau sylfaenol iawn. Rhwystrau y dylai’r llywodraeth fod yn eu cynorthwyo i’w goroesi. Mae’r buddion yn niferus i ffermwyr, dinasyddion a chymunedau.”  

Meddai Simon Kenton-Lake, Uwch Swyddog Nourish Scotland: 

“Mae’r cynllun peilot Give Peas A Chance yn Aberdeen wedi sefydlu cadwyni cyflenwi newydd i ysgogi’r farchnad ar gyfer rhoi pys organig ar blatiau’r cyhoedd. Mae disgwyl i’r Alban gyhoeddi ei Chynllun Cenedl Bwyd Da Cenedlaethol erbyn diwedd eleni, i ddod y wlad gyntaf yn y DU i gael cynllun bwyd cynhwysfawr, ac mae hon yn enghraifft wych o sut y bydd gweithredu dull systemau ar gyfer bwyd yn helpu’r Alban i gyflawni ei huchelgeisiau fel Cenedl Bwyd Da.”   

Meddai Ian Byrne, AS o Lerpwl  

“Bu’n wych gweld y cynllun peilot hwn yn dod ynghyd yn fy etholaeth. Nid yw’r ffaith bod pobl yn byw mewn dinasoedd yn golygu o gwbl na ddylent gael mynediad at ffrwythau a llysiau o ffermydd lleol. Mae bwyd da i bawb yn hawl, a gall ymyriadau fel y rhain wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a llesiant pobl ar incwm isel, yn ogystal â rhoi hwb i ymdeimlad o gymuned a chysylltiad lleol.”  

Mae Katie Palmer, sylfaenydd a phennaeth Synnwyr Bwyd Cymru, yn egluro: 

“Dylai pawb gael mynediad at fwyd sy’n dda iddynt ac sy’n cael ei gynhyrchu mewn ffordd sy’n gwarchod natur a’r hinsawdd, a gallu ei fforddio. Dyna pam ein bod ni, yng Nghymru, wedi bod yn profi dulliau sy’n cyflwyno cadwyni cyflenwi organig lleol i ysgolion – drwy’r cynllun Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion – ac yn cefnogi’r rhai ar incwm isel i siopa mewn ffordd urddasol drwy feithrin cysylltiadau cymdeithasol ym marchnadoedd ffermwyr Caerdydd, drwy Gerdyn y Blaned Caerdydd. Mae ymrwymiad diweddar Llywodraeth Cymru o £3 miliwn i ffermio organig yn ategu’r dulliau hyn, gan gydnabod yr angen i gefnogi ffermwyr sy’n cynhyrchu llysiau o ansawdd uchel a dyfir yn lleol ar gyfer cymunedau a phrydau ysgol.”   

Diwedd 

Cysylltwch â: Hannah Gibbs,  Hannah.gibbs@sustainweb.org 

Kiloran O’Leary, Kiloran@sustainweb.org 

Mae Sustain yn gynghrair bwerus o sefydliadau a chymunedau sy’n cydweithio i sicrhau system well ar gyfer bwyd, ffermio a physgota, ac yn meithrin y mudiad dros newid. http://www.sustainweb.org