Bwyd y Fro

Aelod o Leoedd Bwyd Cynaliadwy: Gweithio tuag at statws efydd

Mae Bwyd y Fro yn bartneriaeth o unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau ymroddedig, sy’n cydweithio i greu system fwyd yn y Fro, sy’n ffynnu, ac yn iach a chynaliadwy.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys ystod o randdeiliaid fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg; Tai Newydd; Fareshare Cymru a Cywain, ac mae Bwyd y Fro yn helpu i gydlynu’r camau gweithredu a hyrwyddo systemau bwyd lleol o fewn y sir.

Fel aelod o Rwydwaith Sustainable Food Places, prif flaenoriaethau Bwyd y Fro, wrth ddatblygu Bwyd Da ym Mro Morgannwg yw:

  1. Sicrhau pryd da o fwyd i bawb,  bob dydd
  2. Sicrhau bod busnesau bwyd lleol sy’n ffynnu, yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi
  3. Ystyried y byd, bwyta’n lleol

Mae’r gwerthoedd hyn wedi’u nodi yn Siarter Bwyd y Fro sy’n rhannu’r weledigaeth ar y cyd ar gyfer dyfodol bwyd yn y Fro.

“Gydag argyfwng Covid-19 a Brexit yn y cefndir, mae’n gyfnod heriol iawn i nifer o bobl.  Ond, rwy’n credu bod cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg hefyd i wella ein cynaliadwyedd a’n gwytnwch fel sir,” meddai Louise Denham, Cydlynydd Bwyd y Fro.

“Mae yna lu o sefydliadau, busnesau ac aelodau o’r gymuned sydd eisoes yn gwneud cymaint dros yr agenda bwyd iach a chynaliadwy” ychwanega Louise. “Mae’n ymddangos bod yno awydd gwirioneddol i ddod â’r cyfan ynghyd a chreu system fwyd leol sy’n ffynnu ac sy’n dathlu cymeriad unigryw y Fro a chysylltu cymunedau.”

Yn ddiweddar, cynhaliodd Bwyd y Fro gyfarfod agored er mwyn helpu i lywio a chreu system fwyd leol ac roedd Louise Denham wrth ei bodd gyda’r gefnogaeth a’r egni a ddangoswyd gan breswylwyr lleol.

“Hwn oedd y cyfarfod cyntaf o’i fath yn y Fro,” ychwanega.  “Roedd hi’n wych gweld cynrychiolaeth o wahanol grwpiau ledled y Fro. Rydw i’n hyderus gyda’r lefel hon o ymgysylltu y bydd y mudiad bwyd da yn parhau i fynd o nerth i nerth. Fe wnaethom drafod syniadau mor amrywiol â chwilio am dir ar gyfer tyfu bwyd; cyfyngu ar hysbysebion bwyd sothach; gwell mynediad at fwyd sydd wedi’i dyfu’n lleol; hyfforddiant wedi’i dargedu ar faeth; mwy o opsiynau ar gyfer ailgylchu a siopa heb blastig.”

Y camau nesaf ar gyfer Bwyd y Fro fydd adolygu’r syniadau hyn a’u cyfuno, er mwyn creu cynllun gweithredu ar fwyd lleol cynaliadwy ar gyfer y flwyddyn nesaf – gan atgyfnerthu’r gwaith gwych sydd eisoes yn digwydd ledled y Fro.  Bydd y Cynllun Gweithredu’n cynnwys gweithgareddau tymor byr a hirdymor a fydd yn dangos y mudiad bwyd da lleol ffyniannus, yn ogystal â chyfrannu at gais Bwyd y Fro am Wobr Efydd Sustainable Food Places y flwyddyn nesaf.

Ewch i’r wefan
Cyswllt